Sianel / 31 Mai 2022

Newyddlen mis Mai


Galwad agored: Dewis Gymunedau, gyda Chennai Photo Biennale

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym barhau i weithio gyda’n partneriaid yn Chennai Photo Biennale i lansio galwad agored newydd sbon. Estynnwn wahoddiad i artistiaid ar draws y disgyblaethau sy’n gweithio gyda chyfryngau’r lens, ffotograffiaeth a ffilm i ymholi ymhellach am y syniad o ‘Ddewis Gymunedau’, i fyfyrio, cwestiynnu ac ystyried cwestiynau o berthyn ac o ddewis. Mae’r cyfle hwn yn agored i bawb ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan gymunedau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol.

Mwy o wybodaeth

Three angels and Bacchus © John Paul Evans

Nodyn i’ch Atgoffa am Ddigwyddiad: Rhagddangosiad o arddangosfa John Paul Evans

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ailagor yr oriel fis nesaf a gobeithio y gallwch ymuno â ni ar Ddydd Iau 17 Mehefin i’n helpu i ddathlu gwaith John Paul Evans gyda’i arddangosfa ‘what is lost…what has been’. Bydd y sioe yn parhau o 17 Mehefin hyd 3 Medi ac, yn cyd-fynd â’r arddangosfa, bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gwaith ar y cyd ag artistiaid, grwpiau a chymunedau LHDTQ+ felly gwyliwch eich mewnflwch oherwydd bydd rhagor o fanylion i’w cael cyn hir.

Mwy o wybodaeth

Sgwrsio â Nelly Ating and Iko-Ono Mercy Haruna

Dewch i wybod mwy am y ffotograffwyr Nelly Ating ac Iko-Ono Mercy Hatuna yn y recordiad hwn o’n digwyddiad ar-lein diweddar oedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Yn ymuno â’r artistiaid yn y drafodaeth mae Cynthia Sitei, Cynhyrchydd Creadigol yn Ffotogallery.

Mwy o wybodaeth

Prosiect Change Makers

Dros y misoedd diwethaf mae Cath, ein rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â grŵp o fenywod ifanc ar y Prosiect Change Makers. Mae Ffotogallery wedi uno mewn partneriaeth ag Engage Cymru, Eyst, Unify, Canolfan Mileniwm Cymru a’r gweithiwr creadigol llawrydd Naz Syed ar y prosiect hwn. Ei nod yw tywys pobl ifanc o wahanol gefndiroedd ethnig drwy raglen o waith ymarferol wedi ei dywys yn unigol yn y cyfrwng celfyddydau gweledol. Ar ddiwedd y rhaglen, byddent wedi cyflawni eu dyfarniad Arts Award Lefel Efydd!

Hyd yn hyn, maen nhw wedi profi amrywiaeth o bethau, o daith gefn llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Gorsaf Radio Platfform, i weithdy graffiti yn Spit and Sawdust, i greu eu montage ffotograffau collage eu hunain mewn ymateb i arddangosfa Edgar Martins yn Ffotogallery fis diwethaf.

Llyfr y mis

Corinne Silva – Garden State

Yn y monograff hwn, mae’r artist Corinne Silva yn ystyried sut mae garddio, fel mapio, yn ffordd o ddynodi tiriogaeth. Rhwng 2010 a 2013, gwnaeth Silva gyfres o ymweliadau â thiriogaethau meddianedig Israel. Teithiodd drwy ddwy ar hugain o aneddiadau Israelaidd yn tynnu lluniau o erddi cyhoeddus a phreifat. Mae Silva yn cyflwyno’r daith ffotograffig goeth hon ac yn archwilio sut mae’r gerddi yn y tiroedd meddianedig hyn yn dystiolaeth symbolaidd a materol o wladychu sy’n parhau.

Mwy o wybodaeth

Michael, Matthew, Lisa and Kimberley, playing upstairs at home - Gurnos Estate, Methyr - December 1985 © Francesca Odell

Francesca Odell

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth y ffotograffydd Francesca Odell yn ddiweddar. Mae ei gwaith, sy’n dogfennu cymunedau’r cymoedd yn yr 1980au, yn rhan bwysig o Brosiect y Cymoedd. Mae llawer iawn o bobl yn dal i fwynhau ei ffotograffau a hoffem anfon ein cydymdeimlad at ei theulu a’i chyfeillion.

Efallai hefyd yr hoffech:

Our Voices, Our Stories, Our History

Mae Arddangosa Windrush Race Council Cymru ar fin cael ei harddangos yng Nglanfa Canolfan Mileniwm Cymru o 6 Mehefin hyd 3 Gorffennaf. Mae’r arddangosfa bwerus hon yn adrodd stori mwy na deugain o bobl o’r Genhedlaeth Windrush yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth

Photo Intaglio – Cardiff Print Workshop

Os ydych chi wrth eich boddau’n gwneud printiau a ffotograffiaeth, beth am gofrestru ar y cwrs hwn a redir gan Weithdy Argraffu Caerdydd? Mae’n rhoi cyflwyniad sylfaenol i chi i ffoto-ysgythru gan ddefnyddio technegau intaglio ffotopolymer. Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys pob elfen sydd ei hangen i gynhyrchu print llwyddiannus gan ddefnyddio platiau ffotopolymer.

Mwy o wybodaeth