Sianel / 12 Maw 2024

Pink Portraits 2024: Winner Announced

Mae'n bleser gan drefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yng Nghaerdydd gyhoeddi y bydd y Portreadau Pinc yn dychwelyd eleni, mewn cydweithrediad â Ffotogallery a Thrafnidiaeth Cymru.Bydd y Portreadau Pinc 2024 yn arddangos 10 ffotograff a dynnwyd gan Sarah Scorey, o dde Cymru, o weithwyr proffesiynol LHDTQ+ sy'n gweithio i Drafnidiaeth Cymru. Mae gan Sarah radd BA Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffiaeth, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth ffasiwn a golygyddol, o Brifysgol Gorllewin Lloegr. Bydd fideo yn olrhain y broses o dynnu’r lluniau yn cael ei saethu ochr yn ochr â’r ffotograffiaeth, a bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos yn Pride Cymru, yng Nghaerdydd.

Dywedodd Sarah Scorey: "Rwy'n hynod ddiolchgar ac yn falch fy mod wedi cael fy newis am y cyfle anhygoel hwn i dynnu lluniau o rai o aelodau staff LHDTQ+ Trafnidiaeth Cymru fel rhan o’r Portreadau Pinc 2024. Mae ffotograffiaeth wedi bod yn ffynhonnell grymuso i mi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio ffotograffiaeth fel offeryn grymuso a gweld beth rydyn ni'n ei greu!"
Dywedodd Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotogallery: "Rydym wrth ein bodd yn Ffotogallery i fod yn gweithio gyda Sarah Scorey ac Iris ar gyfer comisiwn Portreadau Pinc eleni, mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru. Roedd cais Sarah yn sefyll allan o ran ei greadigrwydd a'i arddull bersonol, ochr yn ochr â'i chysylltiad â'r gymuned LHDTQ+. Rydym yn gyffrous i weld y portreadau newydd wrth i'r prosiect ddatblygu."

Bydd y Portreadau Pinc 2024 yn cael eu harddangos ledled Cymru yn ystod Mis Pride (Mehefin) mewn mannau cyhoeddus. Cynhyrchir y prosiect gan Ŵyl Gwobr Iris mewn partneriaeth â Ffotogallery a Thrafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant, Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn sefydliad sy'n falch o fod yn gynhwysol ac rwy'n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio ar Bortreadau Pinc 2024. Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect hwn a chael cyfle i ddathlu cydweithwyr LHDTQ+ o bob rhan o'n sefydliad. Rydym wedi cael ymateb gwych i'n partneriaeth gan ein cydweithwyr yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y portreadau."
Ychwanegodd Grant Vidgen, Rheolwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mae gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ein galluogi i gael proffil yn y gymuned rydym yn bodoli ynddi; perthynas gyda'r gymuned. Edrychwn ymlaen at rannu enwau'r eisteddwyr gyda chi, ynghyd â lleoliadau'r portreadau."