Sianel / 19 Meh 2023

Winner announced - Interventions: Gallery Reset

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi mai enillydd ein galwad agored Interventions: Gallery Reset diweddar mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru yw Jack Moyse. Cawsom lawer o geisiadau o safon uchel iawn, a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i wneud cais.

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei arferion yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.

Mae prosiect Jack What it’s like (being me) yn gyfres hunangofiannol sy’n dogfennu ei gais i ymdopi â nychdod cyhyrol, y cafodd ddiagnosis ohono pan oedd yn 17 oed. Mae ei fyfyrdodau personol yn sail i naratif sy’n cwmpasu rhai o’r problemau niferus y mae pobl sy’n byw gydag anableddau’n eu hwynebu, yn cynnwys rhamant, bod yn rhiant a rhagfarn. Mae’r prosiect wedi ei seilio’n bennaf ar ffotograffau a nod ei ganlyniadau cyfryngau cymysg yw creu amgylchedd i ymgolli ynddo sy’n rhoi cipolwg o’r profiad i gyfeillion abl eu cyrff a’r rheiny sydd eisiau dysgu rhagor am brofiad byw pobl anabl.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Jack dros y misoedd nesaf i gefnogi datblygiad arbrofol ei waith a’i helpu i roi ei syniadau am ailddychymygu ein horiel ar waith. Cadwch eich llygad ar ei gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddaraf – a thanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr yma os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod.

Ynghylch Interventions: Gallery Reset

Mae Interventions: Gallery Reset yn fenter newydd sy’n lansio eleni sy’n cynnwys cyfres o drefniadau i feddiannau’r oriel, yn cychwyn fis Awst yma gyda Jack Moyes, ac mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i’r grant Reimagine gan Art Fund, a’i fwriad yw agor yr oriel i gael ei hail ddehongli gan yr artist a’r gynulleidfa. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymyriadau a'r trefniadau meddiannu hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymru ac y mae eu harferion yn herio ac yn amharu ar y ffyrdd traddodiadol o weithio, i ofyn cwestiynau heriol a herfeiddiol, ac i ganolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd anghydraddoldeb cymdeithasol a’r amgylchedd.