Sianel / 6 Chwef 2024

Cyfle: Cynhyrchydd Creadigol gyda phrofiad o godi arian

Mae gennym swydd i’w llenwi!

Mae Ffotogallery yn chwilio am Gynhyrchydd Creadigol sydd â phrofiad o godi arian i ymuno â’r tîm. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol nid yn unig mewn curadu a goruchwylio agweddau creadigol ein harddangosfeydd ond hefyd mewn datblygu a gweithredu strategaethau codi arian i gefnogi cenhadaeth a gweledigaeth yr oriel. Mae’r rôl hon yn gofyn am gyfuniad o fewnwelediad artistig a ffotograffig, sgiliau rheoli prosiect a hanes wedi’i brofi o godi arian yn llwyddiannus o fewn y sector celfyddydau a diwylliant.

I ddechrau mae’r rôl hon am 4 diwrnod yr wythnos, gyda chyflog pro-rata o £31,000 - £33,000 (yn dibynnu ar brofiad). Y dyddiau gweithio nodweddiadol yw Dydd Mawrth - Dydd Gwener, gydag opsiynau ar gael i weithio’n hyblyg a chymysgedd o waith yn y swyddfa ac yn y cartref lle bo’n addas, yn amodol ar ofynion staffio yn ystod oriau agor yr oriel.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 4 Mawrth 2024.

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd isod am fanylion llawn a sut i wneud cais.

Byddwn yn trin yr holl geisiadau yn gwbl gyfrinachol. Mae ymrwymiad strategol Ffotogallery i gydraddoldeb yn gofyn bod yr holl ymgeiswyr yn cwblhau ac yn dychwelyd y Ffurflen Fonitro atodedig gyda’u cais. Mae’r ffurflen hon yn ddienw ac ni fyddwn yn ei defnyddio yn rhan o’r broses o lunio’r rhestr fer a’r cyfweliadau. Dim ond data cyfunedig dienw yr ymgeiswyr fydd yn cael ei basio ymlaen gan Ffotogallery mewn adroddiadau i arianwyr.