Sianel / 18 Mai 2020

Work to Be Done – Taith Rithwir

Mae’r arddangosfa olaf oedd gennym cyn i ni gau ein drysau ar gael yn awr i’w gweld ar-lein o’ch cadair esmwyth eich hun gartref, drwy’r rith-daith 360 gradd hon.

Mae Work to Be Done yn dangos gwaith chwe artist Nordig o dan ofalaeth y bartneriaeth o’r Ffindir, Whack n Bite (Johanna Havimäki a Tuula Alajoki). Mae hi’n rhan o’r rhaglen ‘A Woman’s Work’ a ariennir gan Creative Europe sy’n mynd ati i archwilio natur llafur menywod drwy ffotograffau.

Gallwch ganfod rhagor am yr artistiaid unigol a’u prosiectau drwy fynd i’n post ‘Cwrdd â’n Hartistiaid’. Gwelwch ein Instagram TV hefyd lle gallwch glywed gan Johan Bavman, Nella Nuora a Beta Bajgart yn uniongyrchol wrth iddyn nhw siarad am eu gwaith - sgyrsiau a ffilmiwyd pan ddaethent i ymweld â ni ar gyfer agoriad yr arddangosfa ym mis Chwefror.

Hoffem ddiolch i’n ffrindiau yn 4Pi Productions / CultVR Lab am ei gwneud hi’n bosibl i ni ddod â’r arddangosfa hon i’ch cartrefi.