Sianel / 5 Ebr 2024

Ffoto Cymru 2024: Cyhoeddi’r Thema a Chomisiynau

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno Ffoto Cymru - Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Cymru, sy’n dangos am y tro cyntaf mewn safleoedd ledled y wlad ym mis Hydref 2024. Mae’n adeiladu ar lwyddiannau pum Gŵyl Diffusion, a hoffem eich gwahodd i ymgysylltu â ffotograffiaeth mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon, drwy raglen o arddangosfeydd, comisiynau, sgyrsiau, gosodiadau cyhoeddus a digwyddiadau.

Mae’r thema What You See is What You Get? wedi ei bwriadu fel pryfociad, gwahoddiad i gwestiynnu ystyr llythrennol ‘gwybodaeth weledol’. A ydyn ni’n wirioneddol dderbyn yr hyn a welwn? Neu a yw pethau’n fwy cymhleth na hynny? Mae What You See Is What You Get? yn archwilio sut yr ydym yn gweld, yn deall ac yn defnyddio delweddau, sut maen nhw’n siapio ein hunaniaeth a’n diwylliant, o archifau hanesyddol i ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau modern.

Wrth wraidd yr ŵyl mae’r comisiwn i’n pedair artist ffotograffig sy’n Gymry neu sydd wedi eu seilio yng Nghymru - Ada Marino, Adéọlá Dewis, Holly Davey a Jessie Edwards-Thomas – sydd oll wedi cael eu gwahodd i ymateb i thema’r ŵyl gan hefyd ymchwilio archifau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru (Archifau Morgannwg, archif ffotograffau Amgueddfa Cymru, casgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac archif Ffotogallery ei hun).

Bydd dau gomisiwn arall, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, wedi eu cynnwys yn rhaglen yr ŵyl, gyda chefnogaeth grant Biennials Connect y British Council. Mae’r grant hwn yn galluogi cydweithrediad newydd gyda’r rhwydwaith Foto Féminas sy’n darparu platfform i gynyddu gwelededd ffotograffwyr benywaidd/anneuaidd America Ladin a Charibïaidd. Mae Luiza Possamai Kons o Frasil a Julieta Anaut o’r Ariannin wedi derbyn gwahoddiad i arddangos gwaith newydd yng Nghymru yn ystod yr ŵyl, yn dilyn cyfres o sesiynau datblygiad proffesiynol artistiaid ar-lein wedi eu cynnal gan Ffotogallery dros y misoedd nesaf.

Ochr yn ochr â’r comisiynau uchod bydd cyfres o raglenni ymgysylltiad ac arddangosfeydd wedi eu curadu sy’n gysylltiedig â’i gilydd, ynghyd â gweithdai cymunedol wedi eu cydgynhyrchu. Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi yn y misoedd sy’n arwain at yr ŵyl sy’n digwydd o 1 - 31 Hydref 2024. Byddwn yn cyhoeddi manylion cyn hir ynglŷn â sut i gymryd rhan yn yr ŵyl.

Gair am yr artistiaid

Mae Ada Marino yn artist gweledol Eidalaidd sydd wedi ei seilio yng Nghymru. Mae hi’n gweithio ar y gyffordd rhwng ffotograffiaeth a gosodiad, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau ei phynciau yn y gorffennol, eu hatgofion a thrawma sy’n dod yn ôl i’r amlwg ac yn ymddangos fel math o swrealaeth sinigaidd. Mae gwaith Marino yn dadansoddi ac yn dehongli’r grymoedd sy’n gwrthddweud ei gilydd sy’n siapio cymdeithas, gan wahodd y rhai sy’n edrych arnynt i weld y byd drwy lens wahanol, gan ddadorchuddio manylion y cyflwr dynol sy’n arwain at wynebu gwirioneddau anghyfforddus a herio syniadau confensiynol o harddwch a hylltra i sbarduno ail ystyriaeth o’n rhagdybiaethau.

adamarino.com

Daw Adéọlá Dewis o Trinidad a Tobago ac mae hi’n artist sydd wedi ei seilio yng Nghymru. Mae ei gwaith wedi ei wreiddio mewn estheteg ddefodol, carnifal ac ymrithio ac mae’n ymddiddori yn y ffyrdd y mae pobl diaspora yn perfformio darnau bach – sut rydym yn mynegi ein hunaniaeth a’n perthyn drwy atgof, ailddychmygu, creoleiddio, gweddnewid, ailgyflwyno a chreu mannau sanctaidd. Mae ei gwaith yn cynnwys darlunio, paentio, celfyddyd perfformio, y gair llafar ac ysgrifennu.

instagram.com/mamadatismas

Yn ganolog i waith Holly Davey mae syniadau sy’n ymwneud ag absenoldeb, lle a’r corff. Mae hi’n gweithio’n bennaf gyda chasgliadau ac archifau – gyda ffocws ar leisiau menywod sydd wedi’u hymyleiddio o fewn y mannau hyn – mae hi’n cynhyrchu gosodweithiau sy’n cynnwys ffotograffiaeth, cerflunio, testun, fideo a pherfformiad.

hollydavey.com

Mae Jessie Edwards-Thomas yn artist gweledol sydd wedi ei seilio ym Mhrydain. Mae hi’n hanu o Eryri, Gogledd Cymru. Mae ei gwaith artistig yn archwilio’r syniad o’r unigolyn a lle’r unigolyn mewn cymdeithas. Mae themâu perthyn, dieithrio a chwestiynnu strwythurol yn allweddol i’w gwaith. Mae ei gwaith yn defnyddio sefyllfaoedd ‘beth os byddai?’ ffuglen a dychymyg i archwilio themâu pŵer, symbolau, strwythurau cymdeithasol a chysylltiad drwy adrodd straeon.

jessieedwardsthomas.co.uk

Mae Julieta Anaut yn artist gweledol arobryn o’r Ariannin o Rio Negro, Patagonia. Mae hi wedi graddio o Instituto Universitario Patagónico de las Artes (LUPA) ac yn Arbenigwr mewn Ieithoedd Artistig Cyfunol yn Universidad Nacional de las Artes (UNA). Mae ei gweithiau gweledol a chlyweledol wedi cael eu harddangos mewn amgueddfeydd, lleoliadau diwylliannol, a gwyliau ffilm ledled y byd.

julietaanaut.com.ar

Arlunydd ffotograffig o Assis Chateaubriand yn rhanbarth gorllewinol Paraná, Brasil yw Luiza Possamai Kons. Graddiodd gyda gradd Baglor mewn Newyddiaduraeth o Universidade Federal de Santa Catarina (2017), a Gradd Meistr yn y Celfyddydau o Universidade Estadual do Paraná (2021), ac ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD mewn Hanes o Brifysgol Ffederal Paraná. Mae hi’n defnyddio ffotograffiaeth fel arf gwleidyddol sy’n adlewyrchu perthnasoedd dynol a’i chysylltiadau.

foto-feminas.com/portfolio/luiza-kons


Mae Ffoto Cymru yn ŵyl ffotograffiaeth a gynhelir bob dwy flynedd gan Ffotogallery, gyda chefnogaeth hael amrywiol gyllidwyr, partneriaid ac unigolion. Yn dilyn pum rhifyn o Ŵyl Diffusion, nod Ffoto Cymru yw codi proffil ffotograffiaeth yng Nghymru a thu hwnt trwy ymgysylltu â’r cyhoedd trwy gyfres o arddangosfeydd, gosodiadau cyhoeddus a gweithgareddau ar-lein.