Sianel / 16 Meh 2021

Recriwtio Ymddiriedolwyr yn Ffotogallery

Mae Ffotogallery yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd! Rydym yn chwilio am bobl a fydd yn gallu cyfrannu eu sgiliau unigryw, angerdd a’u profiadau i fywyd a gwaith un o sefydliadau celfyddydau gweledol blaenllaw Cymru; a thrwy hynny, ein helpu i ehangu amrywiaeth y safbwyntiau a chyngor sydd ar gael i’r sefydliad.

Bydd gofyn i aelodau’r bwrdd fynychu hyd at bum cyfarfod bwrdd bob blwyddyn - cymysgedd o gyfarfodydd personol ac ar-lein - yn ogystal â Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd blynyddol. Bydd gofyn hefyd i aelodau’r bwrdd fynychu amryw o agoriadau arddangosfeydd, digwyddiadau a gwyliau. Byddwch yn fodlon a pharod i ledaenu’r gair am ein gwaith drwy eich rhwydweithiau eich hunan, i sicrhau fod y sôn am ein gwaith yn lledaenu mor eang â phosib.

Os hoffech wneud cais i ymuno â’n Bwrdd, danfonwch ddatganiad ategol atom yn amlinellu pam y mae gennych ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr a beth y credwch sydd gennych i’w gynnig i’r rôl, yn ogystal â chopi o’ch CV gan gynnwys eich manylion cyswllt a’ch rhifau ffôn (yn ystod y dydd a gyda’r hwyr).

E-bostiwch eich cais i Alex yn [email protected]

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16eg o Orffennaf

Cynhelir cyfweliadau yn hwyrach ym mis Gorffennaf.