Sianel / 25 Medi 2023

Ffocws 2023: Cyhoeddi Artistiaid

Mae Ffocws yn fenter a lansiwyd gan Ffotogallery yn 2022 i gefnogi artistiaid sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd sy’n dod o Gymru neu sy’n gweithio yng Nghymru gyda chyfryngau’r lens a ffotograffiaeth. Yn dilyn llwyddiant y gyfrol gyntaf, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Ffocws yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni.

Wedi i ni archwilio sioeau graddedigion o sefydliadau addysg uwch ar draws y wlad, gallwn gyhoeddi yn awr bod deg prosiect rhagorol gan fyfyrwyr sy’n graddio wedi eu dethol i gael eu cynnwys mewn arddangosfa grŵp, sy’n agor ar 23 Tachwedd.

Hefyd, bydd pedwar o artistiaid eraill yn dangos eu gwaith ochr yn ochr â’r graddedigion a ddewiswyd yn rhan o Fenter Ffotograffiaeth Higgins, mewn partneriaeth â Cardiff MADE. Byddent wedi eu cefnogi i ddatblygu eu llwybr gyrfaol a’u harferion drwy raglen datblygu proffesiynol chwe mis wedi ei theilwra, sy’n cynnwys cyfres o sgyrsiau, beirniadaeth gan gymheiriaid a mentora gan ffotograffwyr proffesiynol.

Graddedigion Detholedig:

Alice Forde (BA mewn Ffotograffiaeth, Prifysgol De Cymru)

Emma Spreadborough (BA mewn Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Jean Chan (BA Ffotograffiaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Katie Nia (BA mewn Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Mareah Ali (BA mewn Ffotograffiaeth, Prifysgol De Cymru)

Megan Morgan (BA mewn Ffotograffiaeth, Coleg Sir Gâr)

Robin Chaddah-Duke (BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol, Prifysgol De Cymru)

Shannon Maggie (BA mewn Ffotograffiaeth, Coleg Sir Gâr)

Shaun Lowde (BA mewn Ffotograffiaeth, Coleg Sir Gâr)

Viv Collis (MA mewn Ffotograffiaeth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Artistiaid Detholedig ar gyfer Menter Ffotograffiaeth Higgins:

Ffion Denman

Jack Moyse

Kaylee Francis

Tracy Patricia Harris