Sianel / 11 Chwef 2022

Meet the Kickstarters! Ciaran Peacock

Mae Ffotogallery wedi cyfweld pob un o aelodau ein tîm Kickstart, a threfnwyd hynny gan un o’r bobl ar Kickstart Joshua Jones, am eu bod nhw’n eu gadael ni nawr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyfweliadau blog hyn yn ffordd o ddathlu eu creadigedd a’u gwaith caled, i ddangos pwy ydyn nhw ac i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i Ffotogallery yn ystod yr amser maen nhw wedi bod yma. Os ydych chi wedi bod i’r Ŵyl Diffusion neu i unrhyw rai o’n harddangosfeydd a'n digwyddiadau, yna byddwch wedi gweld eu hwynebau’n eich croesawu wrth y drws, yn paratoi diodydd neu’n dogfennu’r digwyddiad.

Gair amdanoch chi:

Rwy’n fideograffydd ac artist o Southampton. Wedi i mi astudio gradd BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Bath Spa, symudais i Gaerdydd lle mae gen i stiwdio erbyn hyn. Rwy’n cael trafferth cael ysbrydoliaeth greadigol ar hyn o bryd felly rwy’n peintio’n bennaf y dyddiau hyn.

Beth yw rôl eich swydd yn Ffotogallery, a beth yw diwrnod gwaith arferol i chi?

Rwy’n Gynhyrchydd Digidol yn Ffotogallery. Mae fy niwrnod gwaith arferol wedi amrywio dros y chwe mis diwethaf wrth i mi wneud llawer iawn o waith ymarferol yn yr oriel, fel gosod cynnwys yr oriel, gwneud gwaith fframio, ac archwilio’r stoc offer a fframiau. Wrth osod y gwaith ar gyfer Diffusion, fy mhrif dasg oedd gosod yr offer clyweledol ar gyfer y darnau niferus o gelfyddyd sain a delweddau symudol a ddangoswyd (yn ogystal â’i dynnu i gyd ar ôl yr ŵyl). Crëwyd llawer o gynnwys fideo hefyd – ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ac at ddibenion hyrwyddo ac hefyd i gysylltu ag artistiaid.

Ydych chi wedi gweithio ar arddangosfa neu brosiect yr ydych yn arbennig o falch ohonynt?

Mae fy ngwaith gyda Maryam Wahid a Hilary Powel wedi bod yn uchafbwynt arbennig. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn gallu defnyddio fy nghyfres sgiliau go iawn wrth gyfweld yr artistiaid hyn, ac roeddwn yn mwynhau creu mathau o gynnwys fideo nad oeddwn wedi eu gwneud o’r blaen. Rwy’n credu fy mod wedi llwyddo i gyfleu didwylledd eu prosiectau gyda dull ‘pry ar y wal’ yr oeddwn yn falch iawn ohono. Rwyf eisiau bod yn feirniadol o’m gwaith fy hun, ond roeddwn i’n dal yn hapus bod y gwaith a wnes yn cyfateb â’r meini prawf a osodwyd i mi.

Oes gennych chi hoff atgof o weithio yn Ffotogallery?

Er ei fod yn straen ar brydiau, cefais brofiad boddhaol iawn yn gweithio ar Diffusion. Roeddem ni’n teimlo dan bwysau mawr gyda’r gwaith ac roedd gweld pawb yn rhoi 100% i gyrraedd yr un nod yn rhoi’r un teimlad o foddhad i mi ag y byddai gweithio ar fy mhrosiectau personol fy hun. Gwn fod hyn yn ffordd unigolyddol o feddwl am brosiect ar y cyd, ond dyna ni.

Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn cael gweithio gyda phobl sydd â meddylfryd anhygoel o debyg i mi, ac sydd â’r sgiliau a’r ymroddiad i’w harferion eu hunain sy’n fy ysbrydoli’n fawr. Er na fydden nhw efallai’n fy ngalw i’n gyfaill newydd, dyna fyddwn i’n eu galw nhw heb os. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad â’r tîm, mae hynny’n sicr.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl Ffotogallery?

Y cwestiwn mawr! Mae Ffotogallery wedi gwneud gwyrthiau i mi, o ran rhoi hwb i fy hyder a’m galluoedd logistaidd. Mae wedi rhoi hwb gwych i’m sgiliau a’m CV. Rwy’n edrych am waith yn awr, ac rwyf wedi cychwyn y broses o wneud cais am wahanol rolau yn barod. Ond, rwy’n onest â mi fy hun hefyd ynglŷn â pha mor anodd fydd canfod rôl debyg i’r un y mae Ffotogallery wedi ei chynnig i mi.

Mae’n bosibl y byddaf yn gwneud MA, ond rwy’n amau y bydd hynny’n digwydd eleni oherwydd y ffordd y mae pethau’n digwydd gyda’r pandemig. Rwy’n mynd i barhau i fod yn weladwy, gan ddefnyddio’r rhwydwaith rwyf wedi ei adeiladu, a cheisio canfod swydd barhaol.

Hefyd, rwyf angen creu mwy o bethau. Heb os nac oni bai, rwy’n hollol nodweddiadol o artist mewn enw yn unig ar hyn o bryd.