Sianel / 13 Ebr 2021

Cyfle: Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu

Fel un o sefydliadau arweiniol y DU ym maes ffotograffiaeth gyfoes a chelf drwy lens, mae’r gwaith o gomisiynu a chyflwyno gwaith rhagorol ac amrywiol o bob cwr o’r byd yn ganolog i genhadaeth Ffotogallery, ynghyd â chefnogi datblygiad artistiaid ac arddangos gwaith cyffrous newydd a ddatblygwyd yng Nghymru.

Rydyn ni'n chwilio am Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu ar gyfer ein tîm uchelgeisiol a dynamig ar adeg arbennig o gyffrous: eleni rydym yn lansio tymor o weithgareddau ymgysylltu ac arddangosfeydd o ddiwylliannau amrywiol yn ein canolfan newydd yng Nghaerdydd ac ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau gwahanol. Byddwn yn cymryd arddangosfeydd Ffotogallery ar daith, yn creu cynnwys ar-lein ac, yn Hydref 2021, byddwn yn darparu’r pumed Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, sy’n digwydd bob yn ail flwyddyn.

Yn rôl y Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu yn nhîm Ffotogallery, byddwch yn cyfrannu’n llawn i drafodaethau rhaglennu ac yn arwain y gwaith o ddatblygu partneriaethau a gweithgareddau newydd i roi arddangosfeydd a chyflwyniadau ar-lein ar waith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb ein cyfranogwyr a’n cynulleidfaoedd targed.

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a diwylliannau amrywiaethol, ac yr rhai sy'n uniaethu gyda grwpiau syd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y gelfyddydau.

Dyddiad cloi: 5pm Ddydd Gwener 7 Mai 2021

Cysylltwch gyda [email protected] os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych chi'n angen yr dogfennau ymgeisiad mewn fformat amgen.