Arddangosfa / 16 Meh – 3 Medi 2022

What is lost...what has been

John Paul Evans

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 16 Mehefin, 6-9pm

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno What is lost…what has been, sef arddangosfa solo o waith ffotograffig gan yr artist o Gymru Paul Evans, a fydd yn rhedeg rhwng 17 Mehefin a 3 Medi 2022.

Yn ei arddangosfa What is lost... what has been mae’n archwilio’r broses hunan-ethnograffig o weu’ch hanes personol yn ddeialog gweledol yn ffordd fuddiol o edrych ar duedd ffotograffiaeth tuag at goffáu a hefyd ddadansoddi syniadau am berthyn/arwahanrwydd, galar a phrudd-der mewn cysylltiad â’r albwm ffotograffig teuluol.

Ysgrifennodd John Paul Evans:

“Ymson weledol yw What is lost …what has been i ‘gyfeillion absennol’, pobl a ystyriwn i fel teulu. Mae’r gweithiau hefyd yn goda i’m gosodwaith in the sweet bye & bye oedd yn gathecsis ffotograffig mewn ymateb i farwolaeth fy ffrind agosaf ym mis Rhagfyr 2017. […] Mae’r cysyniad o goffâd yn arbennig o berthnasol i ffotograffiaeth. Rydym yn ceisio cadw cofnod o’n hanwyliaid drwy’r ennyd ffotograffig, ond y cwbl y mae’r cais i rewi/cipio/ynysu amser yn ei wneud yw tystio i’r ffaith bod y foment hon wedi pasio, ‘mae hwn wedi bod’.

Sylwadau Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotogallery:

“Mae’n bleser mawr gen i gael y cyfle i arddangos gwaith gwych John Paul yn yr arddangosfa gyntaf yn fy rôl newydd fel Cyfarwyddwr. Yn dilyn ei gyfnod llwyddiannus yn Oriel Mission yn Abertawe, bydd What is lost…what has been yn cael ei ehangu yn Ffotogallery i gynnwys rhai gweithiau ychwanegol a fydd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Yn cyd-fynd â’r arddangosfa bydd rhaglen o ddigwyddiadau a chydweithio ag artistiaid, grwpiau a chymunedau LHDTQ+ lleol.”

Proffil Artist

John Paul Evans

Mae John Paul Evans yn artist ffotograffig ac academydd a aned yng Nghymru ac sydd yn awr yn byw yn Nyfnaint, Lloegr. Mae ei waith yn archwilio dadleuon am gynrychioliaeth y rhywiau mewn ffotograffiaeth. Mae wedi derbyn amrywiol wobrau rhyngwladol yn cynnwys Gwobr Meistri Hasselblad 2016. Enillodd Wobr Du a Gwyn Cylchgrawn Dodho 2017, Gwobrau Ffotograffiaeth KL 2017, gwobrau portffolio Bokeh Bokeh 2017 a 2018, a Gwobr Ffotograffiaeth Pride 2014.