Arddangosfa / 1 Mai – 31 Mai 2017

1968: The Fire of Ideas & Taking Liberties

Marcelo Brodsky, John 'Hoppy' Hopkins

1968: The Fire of Ideas & Taking Liberties
Committee of 100” by John ‘Hoppy’ Hopkins, © 1963 ESTATE OF J V L HOPKINS
1968: The Fire of Ideas & Taking Liberties
© Marcelo Brodsky

John ‘Hoppy’ Hopkins | Taking Liberties

Rhwng 1960 a 1966 darluniodd John ‘Hoppy’ Hopkins y bwrlwm o anfodlonrwydd a’r gwrth-ddiwylliant a oedd yn dod i’r amlwg ym Mhrydain, a fynegwyd trwy weithredu, barddoniaeth a chelf. Mae’r arddangosfa hon ar gyfer Diffusion yn dwyn ynghyd ddetholiad o ddelweddau nad gwelwyd erioed o’r blaen o archif y ffotograffydd, ynghyd â rhai eraill a gynhwyswyd yn y nifer fechan oawn o arddangosfeydd cyhoeddus o’i waith a fu hyd yma. Darlunir y gynhadledd farddoniaeth hanesyddol yn yr Albert Hall ym 1965, ymweliadau cyntaf Malcolm X a Martin Luther King â Llundain, gorymdeithiau Pwyllgor y 100 ac CND, a gwrthdystiadau cynnar yn erbyn hiliaeth ac o blaid hawliau sifil sy’n dangos pŵer protestio cyhoeddus.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys deunyddiau yn ymwneud â’i ran mewn gwahanol amlygiadau gwrth-ddiwylliannol, fel yr International Times, a’i ‘lythyron carchar’ o 1967 pan gafodd ei garcharu ar gam am fod â chanabis yn ei feddiant. Roedd llawer yn amau mai’r gwir reswm oedd ei safbwynt gwrth-sefydliad dylanwadol, a oedd yn ennill tir yn y projectau roedd yn rhan ohonynt.

 

Marcelo Brodsky | 1968 – the fire of ideas

Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o’r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi’n ofalus er mwyn dadadeiladu’r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o’r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.

Proffil Artistiaid

Portread o Marcelo Brodsky

Marcelo Brodsky

Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.

 Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi Once@9:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.

Portread o John 'Hoppy' Hopkins

John 'Hoppy' Hopkins

Roedd John ‘Hoppy’ Hopkins (15 Awst 1937 – 30 Ionawr 2015) yn ffotograffydd a gwneuthurydd fideo ac yn weithredydd gwleidyddol a oedd yn ffigwr blaenllaw ym mudiad tanddaearol y DU yn Llundain. Ym 1965, helpodd i sefydlu ‘Ysgol Rydd Llundain’ yn Notting Hill. Arweiniodd hyn, yn ei dro, at sefydlu carnifal Notting Hill. Ym 1966, cyd-sylfaenodd Hopkins yr International Times dylanwadol, papur newydd tanddaearol radicalaidd a chyhoeddiad ‘amgen’ cyntaf Ewrop. Yn llais i genhedlaeth gyfan, fe’i golygwyd yn y lle cyntaf gan y bardd a’r dramodydd o Glasgow, Tom McGrath (1940 – 2009). Parhaodd Hopkins i fod yn aelod o’r bwrdd golygyddol ac yn un o’i brif gyfranwyr. Helpodd hefyd i sefydlu Clwb chwedlonol yr UFO gyda Joe Boyd; y band preswyl oedd Pink Floyd.