Arddangosfa / 13 Ion – 3 Chwef 2018

Consumed: Stilled Lives

Dawn Woolley

Consumed: Stilled Lives
© Dawn Woolley

Bydd arddangosfa o luniau rhyfeddol – a syfrdanol ar adegau – o fywyd llonydd ac o’r berthynas rhwng y prynwr a’r weithred o brynu yn cael eu cyflwyno ym Mhenarth ym mis Ionawr. Mae’r arddangosfa, o’r enw Consumed: Stilled Lives, yn cynnwys gwaith newydd gan yr artist Dawn Woolley o Gaerdydd ac fe fydd i’w gweld rhwng 13 Ionawr a 3 Chwefror 2018 yn oriel Tŷ Turner Ffotogallery. Cynhelir rhagolwg yr arddangosfa am 6pm ar ddydd Gwener 12 Ionawr ac fe fydd y digwyddiad hwnnw’n cynnwys sgwrs rhwng yr artist a David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery.

 Mae Woolley yn artist gweledol sy’n gweithio gyda ffotograffiaeth, fideo, gosodwaith a pherfformio. Mae’r arddangosfa’n cynnig golwg gyfoes ar y cysyniad traddodiadol o beintio bywyd llonydd – traddodiad a oedd yn boblogaidd iawn yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd y darluniau hyn yn aml yn cynnwys platiau arian, llestri gwydr addurnedig a bwydydd drud fel pysgod cregyn a ffrwythau egsotig ac fe ddaethant yn ffordd ffasiynol i bobl yr Iseldiroedd a Fflandrys ddangos eu cyfoeth.

 Fel y dywed yr artist: “Mae yna amwysedd yn y gair Saesneg ‘consume’ sy’n disgrifio’r weithred o fwyta ac o brynu nwyddau. Mae bwrdd y bywyd llonydd yn mynegi’r ddeuoliaeth honno am fod y gwrthrychau sy’n cael eu harddangos yn cael eu bwyta ac yn nodi statws cymdeithasol unigolyn.

 “Dw i’n mynd i’r afael felly â bwrdd y bywyd llonydd fel portread o fath arbennig o ddefnyddiwr. Mae hyn yn fy ngalluogi i weld bwyd mewn bywyd llonydd fel mynegiant o berthynas rhwng unigolyn a chymdeithas brynwrol; symbol o’r effaith y mae prynu ac ‘addoli’ nwyddau yn ei gael ar gorff y defnyddiwr.”

 Nid yw’r delweddau hyn – a chyfres Memorials yn arbennig – i’r gwan galon. Yn ôl Dawn Woolley: “Nid portreadau na bywyd llonydd yw cofebion; yn hytrach, maent yn cynrychioli’r modd y daw’r testun yn nature morte. Mae cnawd pydredig yn cael ei drefnu ochr yn ochr â paraphernalia sy’n gysylltiedig â ac yn arwydd o ddiwedd y parti prynwrol.”

 Mae Consumed: Stills Lives yn rhan o gyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 40 oed.