Digwyddiad / 19 Awst 2023

Tro a Sgwrs gydag Artist 3 - Cymorth cyfathrebu BSL

Jack Moyse

Rydym wedi trefnu cyfres o sesiynau tro a sgwrs gyda’r artist Jack Moyse, ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos a thrwy gyfrwng y Gymraeg a gyda dehongliad BSL, felly gobeithio y bydd rhywbeth i bawb. Bydd Jack yma i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i roi safbwynt unigryw am ei waith a sut y mae ei arddangosfa wedi dwyn ffrwyth. Bydd hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Proffil Artist

Portread o Jack Moyse

Jack Moyse

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.