Cydweithfa Ar Dy Wyneb Sgyrsiau Artistiaid
Robert Oros, Alun Davies
**Yn fyw yn Ffotogallery ac ar-lein**
Trafodaeth rhwng 2 ffotograffydd sydd wedi eu seilio yng Nghymru. Mae gwaith y ddau’n ymateb i’r themâu sy’n gysylltiedig â’r profiad o fod yn artistiaid cwiar sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac yn Rwmania.
Byddwn yn archwilio pwysigrwydd dogfennu cyfarfyddiadau yn y mannau hyn, ond gan gael y rhyngweithio anochel mewn dinasoedd hefyd at ddiben gweithio a chysylltu â’r cymunedau cwiar mwy eu maint.
Mae Oros yn trafod archwilio perthnasoedd drwy’r lens, gan ddogfennu themâu cyfeillach, hunaniaeth ac effaith a goblygiadau technoleg o ran cysylltu cymunedau cwiar â’i gilydd yn y cyfnod hwn yn dilyn y pandemig.
Bydd ffocws Davies ar archwilio sut brofiad yw dychwelyd i fyw yng Nghymru a chanfod mannau cwiar newydd ar ôl byw a gweithio yn Llundain, gweld a chanfod ardaloedd gwledig gan archwilio deuoliaeth delweddau analog a digidol, a sut brofiad yw bod ar-lein ac all-lein.
Proffil Artistiaid

Robert Oros
Mae Robert Oros (ef/fo), a aned yn Rwmania, yn ffotograffydd, artist fideo a churadur wedi ei seilio yng Nghaerdydd. Mae ei waith artistig yn archwilio gwahanol themâu cymdeithasol-wleidyddol gyda phwyslais ar leiafrifoedd, ac mae’r prosiectau cyfredol yn canolbwyntio ar yr argyfwng ffoaduriaid a’r gymuned LHDTQ+. Mae’r gwaith yn edrych ar gynrychioliadau unigol yn ystod cyfnodau o newid mawr.

Alun Davies
Mae Alun Davies yn defnyddio ffotograffiaeth a fideo i ddogfennu portreadau a thirluniau o archdeipiau a phensaernïaeth cyrff cwiar mewn gofodau. Mae'r cyrff hyn sydd wedi eu gwthio i’r cyrion, a’r gofodau pensaernïol ar y trothwyon, yn Archifau Affeithiol fel adluniadau o atgofion a chyd-gymysgu rhithiol sy’n goresgyn amser drwy empathi a chymuned, wedi eu cyflwyno mewn gofod 3D rhithiol.