Digwyddiad / 6 Awst 2022

Dyma Fi!

Reg Arthur, Joshua Jones

Dyma Fi! Diwrnod o Weithdai Creadigol o Amgylch Thema Hunaniaeth

Mae Ffotogallery yn cynnal diwrnod cyfan o weithdai creadigol ar Ddydd Sadwrn 6 Awst o amgylch y thema Hunaniaeth. Trwy wneud gweithgareddau ymarferol, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i fynegi eu hunain go iawn mewn lle diogel.

Byddwn yn darparu’r holl ddefnyddiau, dŵr a diodydd poeth.

Gweithdai ac amseriadau:

11am - 1pm Gweithdy Gwneud Vignettes

    1 - 3pm Gweithdy Gwneud Bathodynnau

    3 - 5pm Gweithdy Gwneud Sînau

    Gweithdy Gwneud Vignettes

    Bydd Cath (Ffotogallery) yn cynnal y gweithdy creadigol hwn o amgylch themâu hunaniaeth. Gan ddefnyddio bocs golau bach fel safle, byddwn yn creu ein bydysawdau bach ein hunain drwy adeiladu vignettes o ffotograffau a collage. Gallwch ddewis o amrywiaeth o gefndiroedd parod a phropiau i gynnig lle sy’n dweud wrth y byd amdanoch chi! Mae croeso i chi ddod ag unrhyw ffotograffau bach gyda chi i ychwanegu at eich darn hefyd. Yna byddwn yn defnyddio ein ffonau i ddangos y bydoedd bach yma mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn fwy real fyth.

    Gweithdy Gwneud Bathodynnau

    Amlinelliad o’r gweithdy: Ymunwch â Reg o SPAF Collective i glywed am rai o’i hoff fathodynnau cwiar, gwleidyddol, protest ac amrywiol rai eraill o’r degawdau diwethaf. Mae croeso chi wneud eich bathodynau DIY grŵfi eich hun i ddathlu Pride, llorio’r llywodraeth, neu beth bynnag y dewiswch chi! Dewch ag unrhyw bapurau newydd neu effemera papur tenau gyda chi yr hoffech eu rhoi fel collage ar fathodyn.

    Gweithdy Gwneud Sînau

    Bydd Joshua Jones yn cynnal gweithdy gwneud sînau am hunaniaeth. Bydd cyfranogwyr y gweithdy’n ystyried sut i fynegi ac archwilio eu hunaniaeth drwy ddelweddau mewn collage ac yn ystyried sut i ymgorffori testun a deunyddiau. Bydd rhai defnyddiau’n cael eu darparu, yn cynnwys siswrn, glud a phapur, ond mae croeso i chi ddod â’ch defnyddiau collage eich hun.

    Proffil Artistiaid

    Reg Arthur

    Mae Reg Arthur (sy’n cael ei alw hefyd yn Hunk Williams) yn artist amlgyfrwng ac abswrdydd cwiar ac mae ei waith yn archwilio themâu diwylliant pop, gwrth-ddiwylliant ac anhrefn. Nod ei waith yw gwneud synnwyr o’r byd drwy gyfeirio yn ôl at eiconau lliwgar a blodeuog y gorffennol. Mae’n gweithio yn rhan o SPAF Collective i gynhyrchu amrediad o fathodynnau, sticeri a sînau cwiar.

    Portread o Joshua Jones

    Joshua Jones

    Mae Joshua Jones yn ysgrifennwr awtistig cwiar o Lanelli, De Cymru. Mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa ac mae’n addysgwr cymwysedig, gan gynnal gweithdai ysgrifennu yng Nghaerdydd ac ar draws De Cymru. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Cylchgrawn Nawr a mwy. Mae wedi derbyn canmoliaeth gan the Poetry Society, a chafodd ei ffuglen fer ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021, a gyhoeddwyd gan Parthian Books. Hefyd, daeth yn 3ydd yng Ngwobr Ffuglen y Gaeaf Reflex yn 2021. Bydd Partian yn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o straeon byr yn hydref 2023.