Opportunity / 12 Awst – 17 Medi 2018

Galwad Agored - The Place I Call Home

Mae teimlo’n ‘gartrefol’ mewn lle yn cynnwys nifer o bethau – ymdeimlad o berthyn, cynefindra, annibyniaeth, sicrwydd ac argoelion. Mae ‘cartref’ yn air sydd yn diasbedain yn emosiynol ymhell y tu hwnt i’w ystyr llythrennol, sef ‘ble mae rhywun yn byw’.

Cynrychiolir cartref gan gyfuniad o ffactorau: cysylltiad â’r lle mae rhywun yn preswylio, agosrwydd teulu a ffrindiau, hunaniaeth bersonol a chymunedol, ffordd o fyw a gweithio, a gwerthoedd a phrofiadau a rennir.

Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid a ffotograffwyr sy’n bodloni’r gofynion isod i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith newydd i’w gynnwys yn The Place I Call Home, arddangosfa deithiol a guradwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Cymru, a gomisynwyd gan y Cyngor Prydeinig, sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r syniad o gartref yng nghyd-destun profiadau cyfoes y diaspora Arabaidd sy’n byw yn y DU, a phobl o Brydain sy’n byw yn y Gwlff.

Mae’r arddangosfa’n rhan o fenter ledled y Gwlff rhwng Ionawr 2017 a Mawrth 2020 i greu cyfleoedd newydd i feithrin cyd-ddealltwriaeth a pharch trwy rannu a gwerthfawrogi diwylliant, hanes a threftadaeth y Gwlff a’r DU.