Digwyddiad / 7 Rhag 2023

Ffocws Online Artist Talk #02

Robin Chaddah-Duke, Shannon Maggie, Viv Collis

Hoffem eich gwahodd chi’n gynnes iawn i ymuno â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau gyda’r deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Ar gyfer yr ail sgwrs hon bydd Robin Chaddah-Duke, Shannon Maggie a Viv Collis yn ymuno â ni. Mae rhagor o fanylion yr artistiaid isod, a gallwch archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite yma.

Proffil Artistiaid

Portread o Robin Chaddah-Duke

Robin Chaddah-Duke

Mae Robin Chaddah-Duke yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau sy’n gweithio gyda dull dogfennol llawr gwlad. Mae ei waith yn ymwneud ag archwilio profiadau cymunedau lleiafrifol a chymunedau wedi eu hymyleiddio ym Mhrydain ac mae wedi ei seilio mewn cyd-destunau hanesyddol. Ei nod yw archwilio sut mae syniadau am Brydeindod yn newid.

Portread o Shannon Maggie

Shannon Maggie

Mae Shannon Maggie yn ffotograffydd ac artist cyfryngau cymysg chwilfrydig sy’n gweithio yn Sir Benfro, De-orllewin Cymru. Mae gwaith Shannon Maggie yn archwilio materion diwylliannol yn ymwneud â hanes, hunaniaeth, a normau cymdeithasol. Prosesau sy’n gyrru ei gwaith, wrth iddi archwilio ffyrdd newydd o gyfathrebu athroniaethau am y profiad dynol. Mae Maggie yn hyrwyddwr gweithdai sy’n annog cyfranogwyr i groesawu’r elfennau amherffaith yn eu delweddau i feithrin naratifau newydd. Mae cydweithredu â’r gymuned wrth wraidd gwaith Maggie. Mae hi’n gobeithio annog pobl eraill i wthio eu ffiniau creadigol drwy gyfrwng ffotograffiaeth.

Portread o Viv Collis

Viv Collis

Mae Viv Collis yn byw ac yn gweithio yn Ne-orllewin Cymru. Wedi iddi gael gyrfa sylweddol fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymuned, aeth yn ei blaen i astudio BA mewn Ffotonewyddiaduraeth ac Ymgyrchedd Gweledol, yna MA mewn Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae ymwneud estynedig Viv yn y gymuned yn dylanwadu ar ei gwaith, ac mae ei harferion celfyddydol yn canolbwyntio ar ddogfennaeth gymdeithasol, yn archwilio’r bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol neu’n gywir, a grwpiau amrywiol yn y gymuned. Mae ei phrosiectau’n cychwyn gydag ymchwil manwl o ddeunyddiau archif a chyfredol, wedi eu cychwyn yn aml gan fater gwleidyddol cyfredol, ac yn datblygu drwy gyfranogaeth gritigol â’r pwnc drwy rwydweithio, cyfweliadau ac ymgysylltiad personol a chyfranogol. Mae’r gwaith wedi ei blethu â naratif gwleidyddol sydd wedi ei ddylunio i hysbysu a herio’r gwyliwr, ar ffurf adrodd stori gysyniadol, ar lwyfannau niferus.