Digwyddiad / 7 Medi 2023

Trafodaeth Panel: Rhwystrau sy’n Wynebu Artistiaid Anabl Ifanc

Suzie Larke, Jack Moyse, Joshua Jones, Danielle Webb

Ymunwch â ni Ddydd Iau 7 Medi i gael trafodaeth am y rhwystrau sy’n wynebu artistiaid anabl ifanc. Bydd dehongliad BSL ar gyfer y digwyddiad hwn.

Mae’n bleser mawr gennym groesawu panel amrywiol o unigolion sydd oll yn gweithio yn y sîn gelfyddydau yng Nghymru. Byddent yn rhannu eu profiadau personol eu hunain, sut y goresgynwyd rhai o’r rhwystrau roeddent yn eu hwynebu, a beth sydd angen newid o hyd i wneud y sector yn fwy hygyrch a chynhwysol. Bydd y gynulleidfa hefyd yn cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau neu rannu eu profiadau eu hunain.

Yn cymedroli’r drafodaeth bydd y ffotograffydd ac artist Suzie Larke, yng nghwmni ein panelwyr Jack Moyse, Joshua Jones a Danielle Webb.

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Mae ei ffotograffiaeth celfyddyd gain yn archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Joshua Jones (fo/ef) yn ysgrifennwr ac artist cwiar ac awtistig o Lanelli, De Cymru. Ef yw cyfarwyddwr ac un o sefydlwyr Dyddiau Du, sef hwb cymdeithasol a chanolfan celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng nghanol Caerdydd. Mae Danielle Webb, yn awdur plant a hi sefydlodd / greodd Life Being Little a Short Perspectives. Mae Webb hefyd yn ddawnsiwr, actor, cynrychiolydd i Brifysgol De Cymru, trefnydd yr ŵyl Reggae’n’Riddim, ac yn Swyddog Cyfathrebu Ieuenctid yn Urban Circle.

Darllenwch fanylion ein panelwyr yn llawn isod.

Proffil Artistiaid

Portread o Suzie Larke

Suzie Larke

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Ers iddi ennill gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002, mae hi wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a phortreadau.

Yn ei ffotograffiaeth celfyddyd gain mae hi’n archwilio themâu megis hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae ddiddordeb Suzie mewn cynrychioli cyflwr mewnol yn hytrach na dal moment mewn amser. Mae hi’n creu delweddau sy’n herio ein syniad o realiti – gan gyfuno ffotograffau i greu delwedd sy’n herio rhesymeg.

Portread o Jack Moyse

Jack Moyse

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.

Portread o Joshua Jones

Joshua Jones

Mae Joshua Jones yn ysgrifennwr awtistig cwiar o Lanelli, De Cymru. Mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa ac mae’n addysgwr cymwysedig, gan gynnal gweithdai ysgrifennu yng Nghaerdydd ac ar draws De Cymru. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Cylchgrawn Nawr a mwy. Mae wedi derbyn canmoliaeth gan the Poetry Society, a chafodd ei ffuglen fer ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021, a gyhoeddwyd gan Parthian Books. Hefyd, daeth yn 3ydd yng Ngwobr Ffuglen y Gaeaf Reflex yn 2021. Bydd Partian yn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o straeon byr yn hydref 2023.

Portread o Danielle Webb

Danielle Webb

Fy enw i yw Danielle Webb, rwy’n 24 oed a chefais fy ngeni gyda chyflwr o’r new Acondroplasia. Mae fy nghyflwr yn golygu fy mod yn 3 troedfedd ac 11 modfedd o daldra er fy mod yn 24 oed, felly rwyf hanner maint fy nghyfoedion. Ond, dydw i erioed wedi gadael i hyn fy rhwystro, yn wir byddwn yn dweud bod fy nghyflwr wedi siapio rhan enfawr o’r angerdd sydd gen i a’r llwyddiannau rwyf wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2021 cyhoeddais fy llyfr plant cyntaf – Mummy, there’s new girl. Mewn blynyddoedd diweddar, rwyf hefyd wedi ysgrifennu i gylchgrawn Cosmopolitan ac wedi ymddangos mewn ymgyrch gwych am gyrff pobl ar gyfer yr haf. Graddiais yn ddiweddar gyda gradd MA mewn Gweithio i blant a phobl ifanc – ac ym mis Chwefror eleni cefais fy mhenodi’n Is-gadeirydd i Little People UK – elusen sy’n amcannu i ddarparu cymorth i bobl gyda chorachedd a'u teuluoedd. Trwy gyfrwng fy rolau amrywiol, un angerdd cyffredin yw helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial – yn enwedig mewn perthynas â’r celfyddydau. Fel dawnsiwr sydd ag anabledd, roeddwn i bob amser yn wynebu rhwystrau, ac yn amlach na pheidio, rhai systematig – ond rwy’n credu bod gan bawb y grym i’w mynegi eu hunain a chreu, ac i roi eu gwahaniaethau o’r neilltu – os oes gennych freuddwyd, ni ddylai maint na chymdeithas eich rhwystro chi.