Arddangosfa / 12 Medi – 12 Hyd 2019

Croeso

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno’r arddangosfa gyntaf yn ein cartref newydd yn Cathays, Croeso. I ddathlu ein dychweliad i brifddinas Cymru, rydym wedi mynd ati’n ofalus i ddethol nifer o weithiau o’r archif sy’n gysylltiedig â Chaerdydd - o Parklands of Cardiff David Bowden i’r gwaith mwy diweddar Cardiff After Dark gan Maciej Daowicz a chyfres twll pin Faye Chamberlain Sonder.

Rydym yn edrych ymlaen at wreiddio Ffotogallery yng nghalon bywyd diwylliannol y ddinas, mewn cymuned fywiog, amlddiwylliannol. Ein nod yw adeiladu ar y partneriaethau yr ydym wedi’u sefydlu – yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol – a datblygu perthynas newydd gydag amrywiaeth eang o fudiadau celfyddydol, addysgol, cymunedol a diwydiant creadigol wrth ddarparu ein rhaglen ar gyfer y dyfodol.

Mae’r arddangosfa’n parhau hyd ddydd Sadwrn 12 Hydref. Gwelwch ein tudalen ‘Ymweld’ am fanylion sut i ddod o hyd i ni.