Digwyddiad / 31 Ion – 1 Chwef 2020

Diwylliannau Glo

Diwylliannau Glo
© David Severn
Diwylliannau Glo
© Gina Glover

Derbyniad Croesawu: Dydd Gwener 31 Ionawr , 6.30pm

Cyflwyniadau a sgyrsiau: Dydd Sadwrn 1 Chwefror, 10am-4pm

Ffotogallery, Yr Hen Ysgol Sul, Stryd Fanny, Cathays, Caerdydd CF24 4EH

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb: archebu nawr.

Mae glo yn rhan o graidd y byd modern. Mae wedi creu cymunedau egnïol unigryw, mae wedi gweddnewid tirweddau ac, am sawl canrif, glo oedd y nwydd pwysicaf yn y byd, cymaint felly nes y cafodd yr enw Y Brenin Glo.

Mae glo yn dal i gynhyrchu llawer iawn o egni’r byd heddiw, ond erbyn hyn rydyn ni’n ei ystyried yn brif droseddwr yn y problemau gyda chynhesu byd-eang. Un o’r camau canolog er mwyn arbed y blaned yw rhoi’r gorau’n raddol i ddefnyddio glo.

Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn 1 Chwefror i fwynhau diwrnod o sgyrsiau, dangosiadau, hel atgofion a thrafodaeth sy’n tynnu sylw at natur y byd a grëwyd gan lo ac edrych ymlaen at yr addewid o fyd ôl-garbon.

Cafodd y diwrnod ei ysbrydoli gan lyfr Derrick Price, Coal Cultures: Picturing Mining Landscapes and Communities, ac mewn sgwrs fer bydd yn cyflwyno rhai o brif themâu’r diwrnod. Byddwn hefyd yn dangos gwaith 2001 Jeremy Dellter pan ail-greodd y gwrthdaro yn Orgreave - The Battle of Orgreave a grëwyd 17 mlynedd wedi i’r gwrthdaro ddigwydd ac wedi iddo ddod yn foment eiconig yn streic y glowyr.

Bydd cyfle i weld detholiad newydd o luniau o Archif y Cymoedd a ffynonellau eraill.

Bydd David Severn yn ein cyflwyno ni i’w waith am lowyr o wreiddiau Affro-Caribïaidd - cyfres o bortreadau o lowyr Prydeinig du yn Nottingham.

Yn ymddangos hefyd bydd gosodiad 3D Richard Jones, Coal Face, sef astudiaeth o ddiwydiant glo Cymru wedi ei ddarlunio yn wynebau’r rheiny a weithiodd ynddo.

Bydd Gina Glover yn trafod ei phrosiect, My Anthropocene. Ystyr y cysyniad hwn, mae Gina’n esbonio, yw byd sy’n cael ei siapio fwy a mwy gan ymyrraeth ddynol. Mae ei ffotograffau’n archwilio’r ffordd y mae twf economaidd, defnyddio ynni ffosil a thechnolegau newydd wedi achosi i ni gamu dros ffiniau cynaliadwyedd ecolegol naturiol, gan gynnwys yr hinsawdd, yr ydym ni fel pobl yn ogystal â rhywogaethau eraill yn dibynnu’n gyfan gwbl arno. Mae hi’n gofyn: sut allwn ni gyfathrebu’r posibilrwydd arswydus hwn yn weledol mewn ffordd sy’n caniatáu gobaith am newid?

Yn ymddangos hefyd bydd ffilm 1940 Pen Tennyson gan Ealing Studios, sef The Proud Valley. Cafodd ei ffilmio ym maes glo De Cymru ac roedd yn serennu Paul Robeson fel Americanwr Affricanaidd yn canfod gwaith fel glöwr.

Mae hon yn rhaglen lawn a chyffrous, ac mae’n gyfle i weld arddangosiadau o waith a thrafod y problemau sy’n gysylltiedig â glo a diwylliannau glo.