Digwyddiad / 6 Meh 2024

Trafodaeth Panel: Celf fel Ymgyrchedd mewn Argyfwng Hinsawdd

Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Mike Perry, Helen Malia, Dan Ward

Ar noson sy’n argoeli’n un hynod ddiddorol, bydd ein 3 panelwr yn trafod sut y gellir defnyddio arferion Celf fel cyfrwng effeithiol ar gyfer ymgyrchedd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gyfredol.

Proffil Artistiaid

Portread o Abu-Bakr Madden Al-Shabazz

Abu-Bakr Madden Al-Shabazz

Mae Abu-Bakr wedi bod yn y proffesiwn addysgu a dysgu ers mwy na 30 o flynyddoedd ac mae wedi cyfrannu’n enfawr i amrywiol rolau hyrwyddo lefel uchel mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae wedi bod yn seicolegydd ysgol uwchradd, yn bennaeth adran, pennaeth cyfnod allweddol 3 a 4, hyfforddwr athrawon, prifathro cynorthwyol a dirprwy bennaeth i academi breifat yn 2018.

Yn 2009 crëodd y radd rhaglen astudiaethau hanes Du ac Affricanaidd gyntaf erioed i fyfyrwyr prifysgol a chymunedau, ac ef oedd sylfaenydd gwreiddiol Pwyllgor Rheoli Mis Hanes Du 365 mewn gweithdai hanes diwylliannol a chymdeithasol du ers 2006.

Ym mis Rhagfyr 2023, llwyddodd ei gwmni newydd ACAP Academy UK i ennill gwobr Welsh Prestige Award 2023-2024 am Hyfforddiant mewn Ffordd o Fyw. Enillodd hyn am ei waith mewn therapi, teledu, radio, ysgrifennu adroddiadau i gyrff dyfarnu yng Nghymru ac am lunio cwricwla BAME i Brifysgol De Cymru, Rhondda Cynon Taf, Coleg Caerdydd a’r Fro a Chwricwlwm Newydd Llywodraeth Cymru i Gymru.

Ar hyn o bryd mae Abu Bakr yn gweithio fel seicolegydd yng Ngholeg Glyn Ebwy ac mae’n darparu hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Phrifysgol De Cymru. Mae hefyd yn darparu seminarau hyfforddi athrawon mewn arweiniad addysgol a threftadaeth, diwylliant a hunaniaeth BAME o amgylch Cymru mewn sefydliadau cynradd, uwchradd, colegau a phrifysgolion yng Nghymru ac mae wedi cyfrannu at raglenni dogfen ar gyfer adnoddau ysgol o’r enw: Wales, England’s Colony BBC, Wales Untold a Humanitree a enillodd y Wobr Ffilmiau Du yng Nghanada yn 2023.

Portread o Mike Perry

Mike Perry

Mae ffotograffau Mike Perry yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng tirweddau, natur a’r gymdeithas ddiwydiannol. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ei ymarfer ar Barciau Cenedlaethol Prydain – ac yn gynyddol ar amgylchedd ei filltir sgwâr yn Sir Benfro, lle mae’n byw a gweithio – gan gwestiynu’r fytholeg ramantaidd sy’n cyflwyno’r parciau cenedlaethol fel manau gwyllt o harddwch naturiol. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth fformat mawr i gyfleu naws arlunyddol a harddwch esthetig arwyneb y tirlun gan ddangos ar yr un pryd yr effaith y mae pobl wedi ei gael wrth ymelwa ar natur er budd masnachol. Mae ei gyfres o ffotograffau llai (graddfa 1:1) yn dangos effeithiau prosesau naturiol ar arwyneb deunyddiau a gynhyrchwyd drwy brosesau diwydiannol. Wrth drafod y tensiwn rhwng ansawdd arwynebol-ddeiniadol a chynnwys cythryblus ei waith, mae’n dweud: ‘..yn ogystal ag amlygu’r gorddefnydd a’r llygredd, maent hefyd yn dangos gallu natur i siapio ein byd – pa un a ydym ni, fel pobl, yma neu beidio’.

Portread o Helen Malia

Helen Malia

Helen is an environmental and climate change artist. Her practice is based in a small woodland in South Wales. She has exhibited internationally in Canada, Finland, and Ghana. Her current artworks experiment with growing and transplanting moss, which is an excellent pollution and carbon absorber. Helen clears invasive species that dominate landscapes and rewilds with the reintroduction of native species that support our natural ecosystems.

During the past twenty-five years Helen has worked extensively as an environmental artist facilitating a wide range of communities in her many roles as Artist in Residence, Community Artist, Education officer and Community Ranger. During 2021 Helen worked as Associate artist for Cardiff University and National Museums and Galleries of Wales. Working with mycologist Richard Wright and young talented artists from LGBTQ+ communities we researched queer ecologies and discussed how fungi and the mycorrhizal network can help shape sex education topics in schools. Fungi can change the sex of other plants.

Helen was recently commissioned by Wales Millennium Centre and created ‘Nyth’ an 3D installation and soundscape. This soundscape captured elements of woodland wildlife and voices from the communities of Riverside and Grangetown, most of whom hadn’t had the experience of being in wild nature in Wales.

Portread o Dan Ward

Dan Ward

Daw Dan o Lerpwl yn wreiddiol ond mae wedi ei seilio yng Nghaerdydd erbyn hyn. Hyfforddodd i fod yn ecolegydd a gweithiodd ym maes cadwraeth ac adferiad tirweddau a dalgylchoedd afonydd cyn symud i mewn i waith polisi yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Erbyn hyn mae’n gynghorwr annibynnol sy’n gweithio ym maes ystyried systemau a newid systemau. Dechreuodd Dan ymddiddori mewn dad-ddofi tir flynyddoedd lawer yn ôl, gan weld bod gennym systemau sydd â darnau ar goll (rhywogaethau a phrosesau naturiol allweddol), a bod angen i ni adfer y rhannau hyn er mwyn cael ein systemau’n gweithio eto. Mae Dan yn gweithio gyda Thir Natur, yn helpu i wireddu uchelgais Tir Natur o ddad-ddofi’r tir mewn ardal o Gymru er mwyn dangos yr hyn y gall dad-ddofi ar raddfa fawr yng Nghymru ei gyflawni, ac mae hefyd yn gweithio gyda Rewilding Britain.

“Y realiti yw ein bod ni’n byw mewn byd sydd mor wag ac wedi’i ddiraddio, sydd heb fawr ddim bywyd gwyllt o’i gymharu â’r hyn y byddai pobl yng Nghymru wedi byw gydag o gwpwl o gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Dyma beth sy’n fy nghyffroi fi, dychmygu dod â bywyd yn ôl i Gymru, mewn ffordd nad ydym wedi ei weld ers cenedlaethau. Ac, yn hanfodol, ein bod yn gwneud hyn ochr yn ochr â phobl a chymunedau yng Nghymru.”