Digwyddiad / 13 Gorff 2024

Ffair Lyfrau

I gyd-fynd â’n harddangosfa, bydd ein ffair lyfrau/gelf nesaf yn canolbwyntio ar themâu tebyg – rydym wedi gwahodd gwneuthurwyr llyfrau, cyhoeddwyr llyfrau, ysgrifenwyr, artistiaid, ffotograffwyr a chrefftwyr sydd wedi’u dylanwadu gan yr argyfwng hinsawdd, materion amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Hyd yn hyn mae’r stondinwyr a gadarnhawyd yn cynnwys Offline Journal, 2TenBooks, Michal Iwanowski, Ffoto Newport, Yellow Back Books, Tribe Art Magazine, Shelf Life Books and Zines, Heidi Mehta, Fauna Living a bwrdd y myfyrwyr.

Bydd Michal yn siarad am Go Home Polish a’r llyfr a gynhyrchwyd yn ddiweddar, yn cynnwys trafodaeth fyw gyda'r dylunydd Olga Lacna. Bydd Dan Staveley yn gwneud gweithdy ar arferion cynaliadwy mewn ffotograffiaeth

Amserlen y dydd:

12.00pm – Y ffair yn agor

1.45 - 2.15pm - Sgwrs: Michal Iwanowski yn sgwrsio am y prosiect Go Home Polish a chynhyrchiad y llyfr

2.30 - 3.30pm - Gweithdy: Arferion cynaliadwy mewn ffotograffiaeth gyda Dan Staveley.

16.00pm – Y ffair yn cau

17.00pm – Yr oriel yn cau