Digwyddiad / 22 Meh 2024

Gweithdy Anthoteipiau Tyrmerig a Phrofiad Eyescura

Justin Quinnell

Gweithdai arferion cynaliadwy gyda Justin Quinnell.

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu sut i wneud printiau o fyd natur gan ddefnyddio cymysgedd o dyrmerig ac egni’r haul ganol haf.

Wedi i chi rhoi haen o’ch emylsiwn byddwch yn trefnu templedi ar y papur sensitif i olau ac yna’n ei gymryd i’r awyr agored am 10-15 munud i adael i’r golau greu’r ddelwedd, Yn ystod yr amser hwn gallwch roi cynnig ar yr ‘Eyescura’ byd enwog a gweld y byd fel rhywun heb ymennydd! Yna byddwch yn dod â’ch delweddau i mewn a byddwch yn rhoi arlliw arnynt i’w troi’n goch tywyll, a byddwch yn cymryd eich ffotograff adre gyda chi.

Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau llawn ynglŷn â sut i wneud hyn gartref.

Mae hwn yn addas i bob oed a gallu ond mae’n rhaid i bawb sy’n iau na 16 fod yng nghwmni oedolyn os gwelwch yn dda.

Mae hwn yn ddigwyddiad ‘Talwch Beth Allwch Chi’. Rydym eisiau gwneud y digwyddiad hwn mor hygyrch ag y bo modd i bawb felly talwch y swm yr ydych yn teimlo’n gyfforddus ag o. Rydym yn awgrymu rhodd o £5 ond os na allwch chi dalu hyn talwch ddim ond y swm y gallwch ei fforddio, hyd yn oed os yw’n ddim mwy na cheiniog. Os ydych yn teimlo eich bod yn gallu talu ychydig bach mwy, gwnewch hynny os gwelwch yn dda fel y gallwn barhau i gynnig mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.

Proffil Artist

Portread o Justin Quinnell

Justin Quinnell

Mae Justin Quinnell yn un o arbenigwyr y byd mewn ffotograffiaeth twll pin a gwaith camera obscura. Mae wedi arfer ac addysgu’r sgiliau hyn dros y byd am fwy na 30 o flynyddoedd.

Mae ei waith yn cynnwys: ‘Mouthpiece’ – lluniau o fewn y geg, ‘Slow Light’, lluniau dinoethi dros 6 mis a’r balch o ffiaidd ‘Awfullogrammes’. Yn ogystal â darlithio ledled y DU, mae’n ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Falmouth ac yn gyfarwyddwr a sefydlydd y Real Photography Company, sef ystafell dywyll i’r gymuned yn nhref ei gartref, Bryste.

Mae ei waith wedi ei gymryd o Awstralia a Seland Newydd i Ewrop a’r Unol Daleithiau lle’r oedd yn ymgynghorydd ffotograffiaeth twll pin ar gyfer y ffilm Rachel Weisz – Mark Ruffalo ‘The Brothers Bloom’. Mae wedi ymddangos ar y teledu mewn rhaglenni fel The One show, Jonathan Ross Show, Blue Peter, Radio 4 ‘Today’,‘Absolute Genius with Dick and Dom’ a ‘George Clarkes Amazing Spaces’. Mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr, ac yn fwyaf diweddar, y gwerslyfr ‘Discovering Light’.

Mae hefyd yn hyrwyddo ac yn helpu gyda ‘Diwrnod Twll Pin y Byd’ a’r Ŵyl Ffotograffiaeth Arbrofol sy’n digwydd bob blwyddyn yn Barcelona.