Exhibitions

The World Without Us

Posted on April 29, 2024

Rhagddangosiad o’r Arddangosfa: Dydd Iau 23 Mai, 6 - 8pm

Mae The World Without Us yn dod â grŵp o artistiaid at ei gilydd sy’n ein hysbrydoli ni i edrych yn agosach ar ein perthynas gyda’r amgylchedd naturiol a’r argyfwng hinsawdd sy’n effeithio ar ein planed.

Trwy eu dulliau arbrofol ac arloesol, mae’r artistiaid yn ein hannog ni i ystyried rôl ffotograffiaeth mewn ymgyrchoedd dros yr hinsawdd ac yn holi sut yr ydym yn gofalu am ein hamgylchiadau ac yn cysylltu â nhw.

A ninnau ar adeg mor dyngedfennol o ran dyfodol y blaned, mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn alwad arnom i ddod at ein gilydd i newid ein hagwedd am natur fel adnodd diddiwedd, ac i ystyried yn ddyfnach ein heffaith ar y dirwedd a’r hyn y byddwn yn ei adael i genedlaethau’r dyfodol.

Mae The World Without Us yn rhan o Interventions: Gallery Reset – sef cyfres o weithiau i ‘feddiannu’r’ oriel a wnaed yn bosibl â grant ‘Ailddychymygu’Art Fund, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid arbrofi, herio a gofyn cwestiynau sy’n procio ymateb, gyda ffocws ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhyw, anghydraddoldeb cymdeithasol a’r amgylchedd.

Continue reading

Free Photography Workshops (Caerdydd) - Year of the Dragon

Posted on March 25, 2024

Ewch ar Antur Ffotograffiaeth y Ddraig!

Mae’r Gymdeithas Tseineaidd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Ffotogallery, yn gwahodd ffotograffwyr ifanc i ddod i weithdai ffotograffiaeth am ddim, i ddysgu sgiliau newydd ac archwilio Blwyddyn y Ddraig drwy ein prosiect Gŵyl y Ddraig, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Trosolwg o’r Cwrs:

Mae’r cwrs yn darparu 2 weithdy 2 awr AM DDIM dros 2 ddydd Sadwrn yn olynol. Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr ddod i’r ddwy sesiwn i gwblhau’r cwrs.


Eich Profiad ar y Cwrs:

- Byddwch yn dysgu am arwyddocâd diwylliannol y Ddraig Geltaidd/Gymreig a Tsieineaidd.

- Byddwch yn datblygu eich sgiliau ffotograffiaeth o dan arweiniad arbenigol pobl broffesiynol yn y diwydiant.

- Byddwch yn creu lluniau a fydd yn cael eu harddangos yn rhan o Ŵyl y Ddraig 2024.


Cyfleoedd i Arddangos:

Bydd gwaith y cyfranogwyr a ddewisir yn cael ei ddangos yn nigwyddiad Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieina 2024, a fydd yn digwydd ar Fehefin 8fed yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.


Amserlen y Gweithdai:

Lleoliad: Stiwdio Ffotogallery, Yr Hen Ysgol Sul, Fanny Street, Cathays, Caerdydd CF24 4EH

Prif Ffotograffydd: Andy Barnham

Gweithdy A: Dydd Sadwrn, Mai 4, 2024 | 1:00 PM - 3:00 PM

Gweithdy B: Dydd Sadwrn, Mai 11, 2024 | 1:00 PM - 3:00 PM


Pwy All Wneud Cais:

Unigolion 16+ oed Mae lle cyfyngedig ar gael, y cyntaf i ofyn fydd yn cael lle.

I gofrestru ac ymholi, cysylltwch [email protected]

Continue reading

Free Photography Workshops (Swansea) - Year of the Dragon

Posted on March 25, 2024

Ewch ar Antur Ffotograffiaeth y Ddraig!

Mae’r Gymdeithas Tseineaidd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Ffotogallery, yn gwahodd ffotograffwyr ifanc i ddod i weithdai ffotograffiaeth am ddim, i ddysgu sgiliau newydd ac archwilio Blwyddyn y Ddraig drwy ein prosiect Gŵyl y Ddraig, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Trosolwg o’r Cwrs:

Mae’r cwrs yn darparu 2 weithdy 2 awr AM DDIM dros 2 ddydd Sadwrn yn olynol. Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr ddod i’r ddwy sesiwn i gwblhau’r cwrs.


Eich Profiad ar y Cwrs:

- Byddwch yn dysgu am arwyddocâd diwylliannol y Ddraig Geltaidd/Gymreig a Tsieineaidd.

- Byddwch yn datblygu eich sgiliau ffotograffiaeth o dan arweiniad arbenigol pobl broffesiynol yn y diwydiant.

- Byddwch yn creu lluniau a fydd yn cael eu harddangos yn rhan o Ŵyl y Ddraig 2024.


Cyfleoedd i Arddangos:

Bydd gwaith y cyfranogwyr a ddewisir yn cael ei ddangos yn nigwyddiad Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieina 2024, a fydd yn digwydd ar Fehefin 8fed yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.


Amserlen y Gweithdai:

- Gweithdai Abertawe:

Lleoliad: IT Hub, Llawr 1af, Arts Wings, Theatr y Grand Abertawe, Stryd Singleton, Abertawe, SA1 3QJ

Prif Ffotograffydd: Jesse Nian

Gweithdy A: Dydd Sadwrn, Ebrill 27, 2024 | 2:30 PM - 4:30 PM

Gweithdy B: Dydd Sadwrn, Mai 4, 2024 | 2:30 PM - 4:30 PM


Pwy All Wneud Cais:

Unigolion 16+ oed Mae lle cyfyngedig ar gael, y cyntaf i ofyn fydd yn cael lle.

I gofrestru ac ymholi, cysylltwch [email protected]

Continue reading

Unmasking the Past: Artistiaid mewn Sgwrs

Posted on February 23, 2024

Ar y cyd â’r arddangosfa Alteration, mae’r symposiwm Unmasking the Past yn darparu dadansoddiad estynedig o’r ysgogiad archifol a ddefnyddiwyd gan bob artist i gynhyrchu eu gwaith trwy archwilio themâu gwladychiaeth, hunaniaeth, dinasyddiaeth, ac anddinasyddiaeth yn y cyfnod cyfoes. Ein nod yw cysylltu lefelau afluniad trwy archwilio sut mae delweddau a gwrthrychau wedi cael eu defnyddio trwy gydol hanes, gan ddod â'r gwahanol lefelau o ystumio at ei gilydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn newid y ffaith na ellir ail-fframio darlun gwyrgam o hanes mewn golau newydd. Tra bod ystyr i gynnwys y delweddau a’r gwrthrychau hyn, mae eu ffurf ffisegol a sut y cânt eu cyflwyno hefyd yn bwysig fel cofnodion hanesyddol sy’n arwyddocaol mewn cymdeithas. Tra bod yr arddangosfa’n anelu at herio ail-ddychmygu’r oriel fel rhan o Alteration, rhan annatod o Unmasking the Past yw meithrin cydweithio byw rhwng artistiaid seiliedig ar ymarfer a haneswyr. Bydd artistiaid yn trafod eu gwaith ac yna bydd ysgolheigion yn ymateb i'r themâu neu'r meysydd ffocws hyn fel y maent o ddiddordeb iddynt. O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, rydym yn cysylltu hanesion mewn cyfnewidiad traws-ysgolheigaidd sy’n caniatáu i syniadau a barn lifo’n rhwydd.

Darganfyddwch fwy am yr artistiaid a'r academyddion isod.

Amserlen:

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae'n well archebu lle ond nid yw'n hanfodol.

Continue reading

Dydd Mawrth Te a Theisen – Taith o’r Llyfrgell

Posted on January 29, 2024

Ymunwch â ni ar gyfer Dydd Mawrth Te a Theisen sy’n digwydd ar 6ed Chwefror, 11am – 1pm. Am ein bod rhwng arddangosfeydd ar hyn o bryd, bydd y digwyddiad yn y llyfrgell lle cewch gyfle i bori drwy rai o’r cyhoeddiadau newydd yr ydym wedi eu cael dros y misoedd diwethaf.

Byddwn wrth ein boddau’n eich gweld chi yno i sgwrsio dros goffi a chacen.

Croeso i bawb.

Am ddim i bawb.

Continue reading

Interventions: Gallery Reset - Alteration

Posted on January 26, 2024

Rhagolwg o'r Arddangosfa: Dydd Gwener 8 Mawrth, 6 - 8pm

Dan ofalaeth Nelly Ating

Beth yw ystyr cael ei addasu?

Yn debyg i’r ffordd y mae teiliwr yn addasu dillad i ffitio’r sawl sy’n eu gwisgo, mae cofnodion hanes yn cael eu haddasu hefyd. Mae darnau bach o hanes yn cael eu saernïo, eu cadw at ddibenion penodol, a’u tawelu yn aml iawn. Mae tawelu hanesion wedi siapio ideolegau a systemau cymdeithasol ac mae addasu hanes wedi addasu ffabrig cymdeithas.

Mae’r artistiaid Nelly Ating, Audrey Albert, Ffion Denman ac Ariella Azoulay yn cwestiynu ffotograffau a gwrthrychau mewn archifau sy’n ganolog i hanes y Gorllewin o ddadwladychu drwy addasu, a thrwy hynny yn ystyried y rôl y mae orielau a sefydliadau’n ei chwarae yn y ffordd y mae’r cyhoedd yn trafod a dehongli hanes. Yn benodol, mae’r artistiaid yn mynd ati yn yr oriel i ailddehongli’r ffordd y gwyrdrowyd yr hanes am wladfa’r Cymry ym Mhatagonia, meddiannaeth yr Afrikaans yn Ne Affrica, gwladychiad Prydeinig Ynysoedd y Chagos, a meddiannaeth Palesteina gan luoeoedd yr Israeliaid. Fel y mae Conrad (2016) yn ei nodi, mae hanes byd-eang yn ceisio dod i delerau â chysylltiadau’r gorffennol. Felly, o ddosbarthu lluniau i ddefnyddio’r gwrthrychau materol hyn, mae’r artistiaid yn ceisio defnyddio addasiadau hanesyddol tebyg fel nodwr sy’n cysylltu lefelau o wyrdroad.

Sut mae hyn yn gysylltiedig â’r oriel fel sefydliad?

Am nad yw cysyniadau gwleidyddol yn niwtral, mae’r oriel yn gweld nifer o lefelau a mathau o addasiadau. A oes modd ail ddychmygu gorffennol yr oriel, wedi ei blethu â gorffennol pobl eraill?

Mae Interventions: Gallery Reset yn gyfres o sesiynau meddiannu’r oriel diolch i gymorth grant ‘Reimagine’ Art Fund, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid arbrofi, herio a gofyn cwestiynau pryfoclyd, gyda ffocws ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a’r amgylchedd.

Continue reading

Prosiect Traethawd Ffotograffau Lles Ar-lein

Posted on December 09, 2023

Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis tywyll a hir ar ôl dathliadau’r ŵyl, felly hoffem eich gwahodd i gyd i ymuno â ni ar brosiect sydd wedi ei lunio i’n helpu i wella ein lles a chodi ein hwyliau! Ein nod yw creu gofod lle gall ein creadigedd a’n lles gyfarfod.

Ar ddechrau 2023 rhedwyd prosiect gennym gyda phromptiau dyddiol ond eleni rydym wedi penderfynu gwneud pethau ychydig yn wahanol.

Yn lle prompt bob dydd, byddwn yn cyhoeddi prompt ar ddechrau pob un o’r 5 wythnos ym mis Ionawr (4 wythnos lawn a thri diwrnod yn wythnos 5). Bydd y themâu yn dilyn 5 Thema Llesiant a byddwn yn eich gwahodd i greu traethawd ffotograffau sy’n archwilio’r thema ar gyfer pob wythnos newydd gyda chynifer, neu gyn lleied, o ffotograffau ag yr hoffech eu tynnu.

Ar ddydd Llun bob wythnos byddwn yn cyhoeddi’r Thema Llesiant ar gyfer y wythnos sy’n dod ar draws ein platfformau ar-lein. Bydd cael wythnos i feddwl am bob thema yn rhoi amser i chi i ystyried sut y gallech ddangos y thema honno drwy ffotograffiaeth. Gallai eich ffotograffau fod yn bersonol neu gallant edrych tuag allan, neu efallai yr hoffech gynnwys testun drwy farddoniaeth neu ryddiaith, gallech gynnwys rhai cyfryngau cymysg os dewiswch, a gallech ddehongli’r themâu ym mha ffordd bynnag sy’n teimlo’n gywir i chi. Byddwn yn postio prompt yr wythnos gyntaf ar Ddydd Llun 1 Ionawr.

Rydym wedi creu grŵp Facebook lle gallwch rannu eich ffotograffau drwy gydol y mis gyda chymuned o ffotograffwyr eraill sydd oll yn cymryd rhan hefyd.

Os nad ydych ar Facebook, gallwch lwytho eich ffotograffau i’r ffolder a rannwn.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae pawb yn dehongli pob thema a’r gwaith gwych fydd yn cael ei greu! Rydym yn gobeithio y bydd cael ffocws sy’n codi calonnau pobl drwy gydol mis Ionawr yn gallu ein helpu ni oll i gychwyn y Flwyddyn Newydd gyda llygad bositif ar 2024!

Gwnewch yn siŵr mai chi sydd â’r hawlfraint gyfan ar gyfer unrhyw waith a gyflwynwch. Drwy gyflwyno eich gwaith i ni rydych yn rhoi caniatâd i’r gwaith gael ei rannu ar draws ein platfformau ar-lein. Cynhwyswch eich enw yn nheitl pob ffeil a gyflwynwch. Cafodd y 5 llwybr at lesiant eu datblygu gan New Economics Foundation, ac maen nhw wedi eu seilio mewn tystiolaeth ac ymchwil.


WYTHNOS UN: CYSYLLTU (1 - 7 Ionawr)

Mae cysylltiad dynol mor bwysig i’n lles ni fel pobl. Boed yn gysylltiad wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn, gydag un person neu gyda llawer o bobl, mae cysylltu ag eraill yn gallu ein helpu i deimlo’n agos at bobl, ac wedi ein gwerthfawrogi am bwy ydym ni.

Sut ydych chi’n cysylltu â phobl? Sut ydych chi’n gweld pobl eraill yn cysylltu? Sut allwch chi ddangos mor bwysig yw’r cysylltiad hwnnw mewn ffotograffau?

Defnyddiwch yr wythnos hon i archwilio’r syniad o gysylltiad a sut mae’n helpu i wella ein llesiant.

WYTHNOS DAU: CADW'N HEINI (8 - 14 Ionawr)

Rydym oll wedi clywed mor bwysig yw cadw’n heini ar gyfer ein lles a sut mae’n gallu eich helpu i feithrin agwedd meddyliol cadarnhaol. Dydy hynny ddim yn golygu bod angen i bob un ohonom gofrestru i fynd i’r gampfa 5 diwrnod yr wythnos. Mae gwneud newidiadau bach yn gallu bod yn hynod o fuddiol hefyd. Mae mynd am dro yn yr awyr iach, dewis dringo’r grisiau i fynd i lawr cyntaf y maes parcio yn lle aros am y lifft, gwneud ychydig o ddawnsio, hyd yn oed ymestyn ein cyrff ychydig bach, yn gallu helpu’n fawr.

Defnyddiwch eich camera yr wythnos hon i dynnu lluniau sy’n gysylltiedig â’r thema hon. Efallai eich bod am ddangos sut rydych yn cadw’n heini neu eich bod am edrych ar bobl eraill o’ch cwmpas. Efallai y gallech ddogfennu eich taith gerdded drwy’r parc neu bobl yn rhedeg neu’n mynd â’u cŵn am dro sy’n defnyddio’r gofod hwnnw hefyd. Efallai eich bod yn mynd i ddosbarth yoga lle mae cyrff pobl yn creu siapiau rhyfeddol. Beth bynnag y dewiswch chi edrych arno, ceisiwch fynegi’r syniad o gadw’n heini drwy gydol yr wythnos hon.

WYTHNOS TRI: TALU SYLW (15 - 21 Ionawr)

Rydym yn cerdded drwy ein bywydau gyda’n pennau i lawr, ar goll yn ein meddyliau ein hunain.

Mae eich atgoffa eich hun i dalu sylw i bethau yn gallu eich helpu’n fawr i fod yn ymwybodol o’r ffordd rydych chi’n teimlo. Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod blasu a mwynhau’r ‘funud bresennol’ yn gallu eich helpu chi hefyd i deimlo’n fwy positif am fywyd.

Cymerwch amser i oedi, anadlu a meddwl am yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.

Yr wythnos hon, defnyddiwch eich camera i dynnu lluniau sy’n dangos y syniad o dalu sylw. Stopiwch am funud ac edrychwch o’ch cwmpas. Beth ydych chi’n sylwi arno?

WYTHNOS PEDWAR: DYSGU (22 - 28 Ionawr)

Waeth pa mor hen awn ni, rydym bob amser yn dysgu pethau newydd, p’un a ydyn ni’n sylweddoli hynny ai peidio! Mae dysgu rhywbeth newydd yn gallu rhoi hwb go iawn i ni i wella ein hunanbarch a’n llesiant.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu yn barod heddiw? A oes rhywbeth yr ydych wedi bod eisiau dysgu amdano erioed? Does dim rhaid iddo fod yn beth mawr nac yn dasg anodd: efallai y byddwch yn dewis dysgu tric hud, sut i drwsio eich peiriant golchi dillad, efallai wrando ar bodlediad hanesyddol, dysgu gair newydd, dysgu rhywbeth am yr ardal lle’r ydych yn byw – mae dysgu unrhyw beth newydd, waeth pa mor fach, yn gallu eich helpu i deimlo synnwyr o gyflawniad ar unrhyw raddfa.

Sut allwch chi ddangos y broses honno o ddysgu drwy ffotograffau a faint y gall y broses honno fod yn fuddiol i’r ffordd yr ydych yn teimlo? Treuliwch yr wythnos hon yn ceisio cyfleu’r syniad hwnnw drwy eich ffotograffau.


WYTHNOS PIM: RHOI (29 - 31 Ionawr)

Mae’n well rhoi na derbyn medden nhw, ac mae’n sicr bod llawer o wirionedd yn y dywediad hwnnw.

Mae rhoddi yn eich gwneud chi’n hapus. Mae gweld y wên, y diolch a’r gobaith ar wynebau’r bobl yr ydych yn garedig iddynt yn golygu bod y weithred o roi yn werth ei gwneud. Mae rhoddi yn gwneud i chi deimlo’n werthfawr ac yn gwneud i chi deimlo’n dda!

Yn nyddiau olaf ein prosiect Ffotograffiaeth Lles mis Ionawr a allwch chi fynegi’r teimlad hwnnw o hapusrwydd sy’n cael ei greu pan fydd un person yn rhoi i berson arall? Y teimlad hwnnw o foddhad a phleser a ddaw o’r weithred o roi?

Continue reading

Ffocws Online Artist Talk #03

Posted on November 27, 2023

Hoffem eich gwahodd chi’n gynnes iawn i ymuno â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau gyda’r deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Ar gyfer y sgwrs olaf hon bydd Jean Chan, Katie Nia, Mareah Ali and Shaun Lowde yn ymuno â ni. Mae rhagor o fanylion yr artistiaid isod, a gallwch archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite yma.

Continue reading

Ffocws Online Artist Talk #02

Posted on November 27, 2023

Hoffem eich gwahodd chi’n gynnes iawn i ymuno â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau gyda’r deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Ar gyfer yr ail sgwrs hon bydd Robin Chaddah-Duke, Shannon Maggie a Viv Collis yn ymuno â ni. Mae rhagor o fanylion yr artistiaid isod, a gallwch archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite yma.

Continue reading

Ffocws Online Artist Talk #01

Posted on November 27, 2023

Hoffem eich gwahodd chi’n gynnes iawn i ymuno â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau gyda’r deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Ar gyfer y sgwrs gyntaf hon bydd Alice Forde, Emma Spreadborough a Megan Morgan yn ymuno â ni. Mae rhagor o fanylion yr artistiaid isod, a gallwch archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite yma.

Continue reading

Ffocws 2023

Posted on October 30, 2023

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 23 Tachwedd, 6 - 9pm

Mae’r arddangosfa’n parhau tan 12 Ionawr 2024, ac yn agored Dydd Mercher – Sadwrn, 12 – 5 pm.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Mae’r arddangosfa’n dod â gwaith pedwar ar ddeg o artistiaid dawnus at ei gilydd gan gyffwrdd â themâu gwahanol yn amrywio o hunaniaeth, teulu, mudo ac anabledd i ddeallusrwydd artiffisial ac arferion celf cymunedol. Mae’r safbwyntiau unigol eang sy’n cael eu harddangos yn ein hatgoffa am y cyfleoedd creadigol y mae ffotograffiaeth yn eu cynnig ar gyfer cysylltu pobl â’i gilydd yn ein byd newidiol ac anodd ei ragweld.

Ni fyddai’r arddangosfa hon wedi bod yn bosibl heb haelioni ein cefnogwyr, yn arbennig Coleg Celf Abertawe (PCDDS), Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr, Coleg Caerdydd a’r Fro a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Continue reading

Gweminar Photovoice - Dr Deborah Chinn

Posted on September 29, 2023

Gweithdy ar-lein ymarferol am photovoice: ffotograffiaeth gyfranogol gyda grwpiau ymylol

Bydd Dr Deborah Chinn, ymchwiliwr arweiniol ar gyfer yr astudiaeth Feeling at Home, yn cyflwyno ‘photovoice’, sef dull datblygu cymuned ac ymchwil cyfranogol lle bydd pobl yn dweud eu straeon, yn rhannu eu profiadau, ac yn gweithio tuag at wella eu bywydau drwy ffotograffiaeth. Mae lluniau o’r astudiaeth Feeling at Home yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yn Ffotogallery o’r 11eg hyd y 21ain o Hydref 2023.

Bydd y sesiwn ar-lein hwn o ddiddordeb i artistiaid a ffotograffwyr sydd eisiau defnyddio dulliau cyfranogol i gynnwys aelodau o’r gymuned yn eu harferion, a grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n chwilfrydig ynglŷn â sut y gallent ddefnyddio ffotograffiaeth gyfranogol i ddod â newid cymdeithasol.

Yn y sesiwn ryngweithiol hon, bydd Deborah yn rhoi cyfle i’r bobl sy’n bresennol ymarfer photovoice eu hunain mewn gweithgaredd blasu photovoice. Yna bydd yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio ffotograffiaeth gyfranogol yn ein gwaith ymchwil i archwilio beth sy’n helpu pobl gydag anableddau dysgu, sy’n byw mewn cartrefi grŵp, i deimlo’n ‘gartrefol’. Bydd yn trafod buddion defnyddio’r dull hwn i rannu ystyr, yr heriau a wynebir gennym mewn dehongli, a’r effaith a gafodd y broses photovoice – ar gyfranogwyr, ymwelwyr â’r arddangosfa, a’r tîm ymchwil.

Continue reading

Pink Portraits Revisited (Pop-Up Exhibition)

Posted on September 29, 2023

I gyd-fynd â’r Wobr Iris flynyddol sy’n digwydd bob mis Hydref, byddwn yn cynnal arddangosfa dros dro yn cynnwys Pink Portraits Revisited. Bu Dylan Lewis Thomas yn tynnu lluniau’r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol LHDTC+ sy’n gweithio tu ôl i’r camera yn y gyfres hon ar ôl cael ei ddewis drwy alwad agored a gynhaliwyd ar y cyd gan Ffotogallery ac Iris ddiwedd y flwyddyn y llynedd.

Gallwch hefyd ymuno â ni Ddydd Iau 26 Hydref i weld sgrinio Goreuon Gwobr Iris o 2023.

Y deg eisteddwr sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon yw:

Bradley Siwela (Fo/Ef) Cynhyrchydd | Camera Cynorthwyol | Gwrandäwr gwych

Efa Blosse Mason (Hi/Nhw) Animeiddiwr | Cyfarwyddwr | Yn caru straeon gwerin a mytholeg

El Bergonzini (Nhw/Eu) Golygydd | Rheolwr Llawr | Yn caru coffi

Jess Hope Clayton (Hi) Newyddiadurwr Digidol | Crëwr Cynnwys | Cantores yn y Gawod

Liam Ketcher (Fo/Ef) Gweithredwr Camera | Newyddiadurwr | Yn caru heicio!

Margarida Maximo (Hi) Ffotograffydd | Crëwr Cynnwys | Yn caru grisialau

Mathew David (Fo/Ef) Actor | Ysgrifennwr | Ffanatig Batman

Oojal Kour (Hi) Ysgrifennwr | Ffotograffydd | Yn caru cathod

Rebs Fisher-Jackson (Hi) Sgriptiwr Ffilmiau | Goruchwyliwr Sgriptiau | Swiftie

Seth Edmonds (Fo/Ef) Gweinyddwr Gŵyl | Cynhyrchydd | Yn caru cathod

Y Pink Portraits gwreiddiol: Yn 2010 aeth Gwobr Iris, ynghyd â Chyngor Ffilmiau’r DU ati i gomisiynu’r ffotograffydd portreadau enwog o’r Alban, Donald MacLellan, i dynnu llun 20 o bobl broffesiynol sy’n hoyw a lesbiaidd ac sy’n gweithio o flaen a thu ôl i’r lens. Roedd y rhain yn cynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.

Continue reading

Ffair Llyfrau Ffotograffau

Posted on September 28, 2023

Bydd ffair ffotolyfrau dwywaith y flwyddyn Ffotogallery ar Ddydd Sadwrn, 21ain Hydref! Rydym wedi trefnu amrywiaeth wych o ddalwyr stondinau – mae’n bleser gennym groesawu Cylchgrawn Nawr, Offline Journal, Ipigeon, Ffoto Newport, 2tenbooks, Prifysgol De Cymru a mwy! Cofiwch ddyddiad y digwyddiad hwn – peidiwch â cholli cyfle! Mae’n bleser mawr gennym allu rhannu amseriadau’r diwrnod gyda chi…

12.00 - 16.00 – Y ffair yn agored!

13.15 - 13.45 – Sgwrs gan y Cylchgrawn Nawr

14.00 - 15.00 – Cyflwyniadau cyflym am ffotolyfrau

Hoffech chi’r cyfle i gyflwyno eich ffotolyfr – waeth pa gam o’i greadigaeth y mae arno – i gynulleidfa? Cofrestrwch i gael slot o 5 munud yn ein ‘Cyflwyniad Cyflym am Ffotolyfrau’ galw heibio.

Rydym eisiau i’r cyflwyniadau cyflym hyn am ffotolyfrau fod yn gyfle i artistiaid greu cysylltiadau dros eu gwaith, canfod pobl greadigol newydd i fod yn aelodau o’r gynulleidfa a mireinio eu syniadau eu hunain.

Continue reading

L'homme en objet et en animal / Nimissa - Elysium Gallery

Posted on August 29, 2023

Mae’r arddangosfa hon, sy’n gydweithrediad rhwng Elysium a Ffotogallery, yn arddangos gwaith diweddar gan Fatoumata Diabaté, ffotograffydd o Bamako ym Mali. Mae gan Fatoumata ddiddordeb arbennig yn y lle sydd gan ferched mewn cymdeithas, ac mae hi’n llywydd yr Association des Femmes Photographes du Mali. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn eang mewn arddangosfeydd solo a grŵp ac mae hi wedi derbyn nifer o wobrau.

Ochr yn ochr â’i phortreadau breuddwydiol a chyfareddol sydd wedi eu hysbrydoli gan chwedloniaeth a straeon tylwyth teg o’i phlentyndod, L’homme en object et L’homme en animal, mae’r arddangosfa hon yn dangos Nimissa (sy’n golygu edifarhau yn yr iaith Bambara) yn y DU am y tro cyntaf. Trwy hanes cyffredin nifer o fenywod sydd, fel yr artist, wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), mae’r delweddau sydd yn Nimissa yn cyfrannu at broses o ail adeiladu hunaniaeth fenywaidd coll, a ladratwyd oddi wrth hunan personol sydd wedi diflannu.

Gwelwch wefan Oriel Elysium i gael mwy o fanylion.

Continue reading

Feeling at Home

Posted on August 29, 2023

Feeling at Home: ffotograffau gan bobl gydag anableddau dysgu sy’n rhannu eu profiadau o fyw mewn cartrefi grŵp.

Mae’n bleser mawr gennym fod yn cynnal yr arddangosfa dros dro hon yn Ffotogallery o 11 - 21 Hydref 2023.

Mae Feeling at Home yn arddangos gwaith gan 19 o ffotograffwyr gydag anableddau dysgu ledled Brighton a Llundain. Maen nhw wedi bod yn cwrdd mewn grwpiau bach i fyfyrio ar y pethau sy’n eu helpu i deimlo’n gartrefol, a beth sy’n rhwystr hynny. Mae’r arddangosfa’n rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y byd drwy lygaid pobl sydd ag anableddau dysgu, ac i fyfyrio ar eu hymatebion eu hunain i’r gwaith hwn.

Mae’r arddangosfa’n rhan o’r astudiaeth ymchwil Feeling at Home, a ariannwyd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol y Sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cenedlaethol. Rydym wedi defnyddio ffotolais, sef dull ymchwil lle mae pobl yn dweud eu straeon, yn rhannu eu profiadau ac yn gweithio tuag at wella eu bywydau drwy ffotograffiaeth.

Rydym hefyd yn hyrwyddo gweithdy ar-lein ymarferol ar ‘photovoice’ Ddydd Mercher 18 Hydref, dan arweiniad Dr Deborah Chinn.

Continue reading

Dathlu Arddangosfa a Lansio Llyfr

Posted on August 29, 2023

Hoffem eich gwahodd yn gynnes iawn i ymuno â ni am noson o ddathlu ein harddangosfa gyfredol You and I gan Jack Moyse, ddydd Sadwrn 9fed Medi.

Byddwn hefyd yn lansio’r gyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau sy’n canolbwyntio ar y fenter Ymyriadau: Ailosod Oriel, gyda lluniau o’r arddangosfa a thraethodau gan Jack Moyse a Karin Bareman. Wedi ei argraffu mewn argraffiad cyfyngedig o 100, dyma’r cyfle perffaith i gael gafael ar gopi.

Gallwch hefyd ddisgwyl setiau DJ gan Jack Moyse a’i ffrindiau, a danteithion hen ffasiwn, gwin a chwrw (byddwn yn hapus iawn i dderbyn rhoddion).

Continue reading

Dydd Mawrth Te a Theisen: The Bells of Santiago

Posted on August 25, 2023

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn arbennig iawn o Ddydd Mawrth Te a Theisen ar 8 Awst rhwng 11am a 1pm. Bydd staff ar gael fel y maent bob tro i’ch cyfarch ac i ddweud mwy wrthych am yr arddangosfa gyfredol, ond mae’n bleser mawr gennym hefyd gynnal sgriniad arbennig o’r ffilm archifol ‘The Bells of Santiago’.

Mae'r perfformiad operatig o 1973 yn adrodd stori'r tân trychinebus a ddinistriodd yr Eglwys Jeswit yn Santiago ar 8fed Rhagfyr 1863, yr eglwys Chileaidd oedd yn gartref i Glychau Santiago. Cafodd yr opereta ei chreu yn rhan o'r dathliadau ar gyfer 50fed pen-blwydd Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Cafodd y geiriau a'r gerddoriaeth eu cyfansoddi gan Terence Minty, cefnogwr ffyddlon i Ffotogallery.



Thumbnail image: Ruins of the Church of the Compania at Santiago, Chile, after the conflagration. Source

Continue reading

Trafodaeth Panel: Rhwystrau sy’n Wynebu Artistiaid Anabl Ifanc

Posted on August 22, 2023

Ymunwch â ni Ddydd Iau 7 Medi i gael trafodaeth am y rhwystrau sy’n wynebu artistiaid anabl ifanc. Bydd dehongliad BSL ar gyfer y digwyddiad hwn.

Mae’n bleser mawr gennym groesawu panel amrywiol o unigolion sydd oll yn gweithio yn y sîn gelfyddydau yng Nghymru. Byddent yn rhannu eu profiadau personol eu hunain, sut y goresgynwyd rhai o’r rhwystrau roeddent yn eu hwynebu, a beth sydd angen newid o hyd i wneud y sector yn fwy hygyrch a chynhwysol. Bydd y gynulleidfa hefyd yn cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau neu rannu eu profiadau eu hunain.

Yn cymedroli’r drafodaeth bydd y ffotograffydd ac artist Suzie Larke, yng nghwmni ein panelwyr Jack Moyse, Joshua Jones a Danielle Webb.

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, y DU. Mae ei ffotograffiaeth celfyddyd gain yn archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn ac iechyd meddwl. Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Joshua Jones (fo/ef) yn ysgrifennwr ac artist cwiar ac awtistig o Lanelli, De Cymru. Ef yw cyfarwyddwr ac un o sefydlwyr Dyddiau Du, sef hwb cymdeithasol a chanolfan celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng nghanol Caerdydd. Mae Danielle Webb, yn awdur plant a hi sefydlodd / greodd Life Being Little a Short Perspectives. Mae Webb hefyd yn ddawnsiwr, actor, cynrychiolydd i Brifysgol De Cymru, trefnydd yr ŵyl Reggae’n’Riddim, ac yn Swyddog Cyfathrebu Ieuenctid yn Urban Circle.

Darllenwch fanylion ein panelwyr yn llawn isod.

Continue reading

Sesiwn Bywluniad

Posted on August 14, 2023

Ar ddydd Iau 24 Awst rydym yn cynnal sesiwn bywluniad gyda Jack Moyse fel model. Mae arddangosfa Jack You and I yn gyfres ddogfennol fewnsyllgar sy’n dilyn artist ifanc sy’n ceisio deall yr effeithiau ffisegol a meddyliol o fyw gyda dystroffi cyhyrol. Mae’r arddangosfa hon yn cael ei dangos ar hyn o bryd yn yr oriel tan 9 Medi 2023 yn rhan o’r fenter Interventions: Gallery Reset.

Mae’r sesiwn yn addas i bob oedran a gallu, p’un a ydych eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’n chwilio am esgus i ymarfer eich sgiliau tynnu llun. Darperir y defnyddiau ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai chi’ch hun hefyd – bydd yr islau ar gael i’r rhai cyntaf sy’n cyrraedd.

Mae’r sesiwn hon yn rhad ac am ddim ond mae’r lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig felly mae gofyn archebu lle drwy Eventbrite.

Continue reading

Gweithdy Cyanoteip – Gyda dehongliad BSL

Posted on August 14, 2023

Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn 19 Awst am awr o sesiwn lle byddwch yn dysgu sut i wneud eich cyanoteipiau eich hun! Bydd dehongliad BSL ar gael yn y sesiwn hwn.

Mae cyanoteip yn fath o ffotograffiaeth heb gamera lle mae gwrthrychau’n cael eu rhoi ar arwyneb sy’n sensitif i olau ac sydd wedyn yn cael eu gadael yn agored i olau dydd, gan greu delwedd fonocrom.

Mae’r gweithdy hwn yn rhad ac am ddim a bydd y defnyddiau i gyd wedi eu darparu. Nid oes angen archebu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar rai o’r digwyddiadau eraill sy’n digwydd ar yr un diwrnod – dau dro a sgwrs o amgylch yr arddangosfa gyda’r artist Jack Moyse.

Continue reading

Tro a Sgwrs gydag Artist 1

Posted on July 25, 2023

Rydym wedi trefnu cyfres o sesiynau tro a sgwrs gyda’r artist Jack Moyse, ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos a thrwy gyfrwng y Gymraeg a gyda dehongliad BSL, felly gobeithio y bydd rhywbeth i bawb. Bydd Jack yma i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i roi safbwynt unigryw am ei waith a sut y mae ei arddangosfa wedi dwyn ffrwyth. Bydd hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Continue reading

Tro a Sgwrs gydag Artist 2 - yn Gymraeg

Posted on July 25, 2023

Rydym wedi trefnu cyfres o sesiynau tro a sgwrs gyda’r artist Jack Moyse, ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos a thrwy gyfrwng y Gymraeg a gyda dehongliad BSL, felly gobeithio y bydd rhywbeth i bawb. Bydd Jack yma i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i roi safbwynt unigryw am ei waith a sut y mae ei arddangosfa wedi dwyn ffrwyth. Bydd hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Continue reading

Tro a Sgwrs gydag Artist 3 - Cymorth cyfathrebu BSL

Posted on July 25, 2023

Rydym wedi trefnu cyfres o sesiynau tro a sgwrs gyda’r artist Jack Moyse, ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos a thrwy gyfrwng y Gymraeg a gyda dehongliad BSL, felly gobeithio y bydd rhywbeth i bawb. Bydd Jack yma i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i roi safbwynt unigryw am ei waith a sut y mae ei arddangosfa wedi dwyn ffrwyth. Bydd hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Continue reading

Diwrnod Gosod Agored

Posted on July 25, 2023

Am y tro cyntaf yn Ffotogallery, rydym yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ymweld â’r oriel tra bo’r arddangosfa’n cael ei gosod, rhwng 12 a 7pm ar Ddydd Iau 3 Awst. Bydd ymwelwyr yn gallu rhyngweithio â’r artist a staff Ffotogallery o oriel wylio, felly dyma’r cyfle perffaith i chi ddysgu rhagor am y broses dechnegol a churadurol o osod arddangosfa,

Mae’r arddangosfa’n dangos gwaith yr artist a ffotograffydd o Abertawe, Jack Moyse. Bydd enghreifftiau o brosiect Jack What it’s like (being me) yn cael eu dangos drwy gydol mis Awst, ochr yn ochr â gwaith newydd a rhaglen o ddigwyddiadau a darnau perfformio.

Bydd yr oriel yn agored fel arfer o Ddydd Gwener 4 Awst hyd ddydd Sadwrn 9 Medi. Oriau agor arferol ein horiel yw Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 – 5pm.

Continue reading

Interventions: Gallery Reset

Posted on July 10, 2023

Yn gynharach eleni, gwahoddwyd y ffotograffydd ac artist o Abertawe, Jack Moyse, i ail feddwl am yr oriel gyfan – yn ffisegol ac yn drosiadol – ar ôl ennill yr alwad agored Interventions: Gallery Reset mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru.

Bydd enghreifftiau o brosiect Jack Fi a Ti yn cael eu dangos drwy gydol mis Awst, ochr yn ochr â gwaith newydd a rhaglen o ddigwyddiadau a darnau perfformio.

Mae Fi a Ti yn gyfres o raglenni dogfen mewngolyddol sy’n dilyn artist ifanc wrth iddo ymdrechu i ddeall yr effeithiau meddyliol a chorfforol o’r anabledd mae e wedi cael ers yn 17. Mae ei adlewyrchiadau yn dangos naratif sy’n cynnwys cipolwg ar gyfran fach o’r llu o rwystrau mae pobl sydd ag anableddau yn eu profi, gan gynnwys perthnasau romantig, y gallu i fagu plant, ag anghyfiawnder.

Trwy ffotograffiaeth yn bennaf, mae’r prosiect yn cwestiynu safbwyntiau rhagfarnol. Mi fydd yn archwiliad trwy brofiad anabledd go iawn, gan gynnig mewnwelediad i fywyd dyddiol grŵp ymylol y mae gweddill y gymdeithas ân aml yn ddall iddynt.

Mae Interventions: Gallery Reset yn gyfres o sesiynau meddiannu’r oriel diolch i gymorth grant ‘Reimagine’ Art Fund, sy’n rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid arbrofi, herio a gofyn cwestiynau pryfoclyd, gyda ffocws ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a’r amgylchedd.

Continue reading

Ein Llygaid, Ein Stori

Posted on July 03, 2023

Fis diwethaf, daeth grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n mynd i Oasis Caerdydd at ei gilydd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai ffotograffiaeth. Bu’r criw’n gweithio gyda’r ffotograffydd proffesiynol Dafydd Owen a Ffotogallery i ddysgu am elfennau sylfaenol ffotograffiaeth a defnyddio’r hyn a ddysgwyd ganddynt i dynnu eu lluniau eu hunain.

Mae Ein Llygaid, Ein Stori yn arddangosfa o ganlyniadau’r gweithdai hyn, sy’n rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth i ni am y ffordd y mae’r cyfranogwyr yn gweld dinas Caerdydd. Bydd yn digwydd yn yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes drwy’r wythnos nesaf i gyd yn rhan o wythnos Ffrinj Tafwyl 2023, gyda digwyddiad agoriadol ar Ddydd Llun 10 Gorffennaf o 7pm.

Continue reading

Sgwrs Chris Fairweather

Posted on June 19, 2023

Ar Ddydd Iau 13 Gorffennaf o 6.30pm mae’n bleser mawr gennym gynnal ail sgwrs ag artist mewn cydweithrediad â’r arddangosfa Assignments 23. Yn ymuno â ni bydd y ffotograffydd arobryn sy’n aelod o BPPA, Chris Fairweather.

Mae Chris yn ffotograffydd staff a Phennaeth Datblygiad Lluniau a Fideo yn yr Huw Evans Picture Agency, sef yr asiantaeth ffotograffiaeth fwyaf blaenllaw yng Nghymru. Pan orffennodd yr ysgol, dechreuodd ar ei daith broffesiynol yn yr ardal y mae’n hanu ohoni yn Swydd Gaerloyw, gan weithio i’r asiantaeth Thousand Word Media. Am ei fod eisiau tyfu ymhellach, mentrodd draw i Leeds lle cymerodd rôl ffotograffydd yn Ross Parry News & Picture Agency.

Yn 2013, symudodd Chris i Gaerdydd, dinas sydd wedi dod yn gynfas i’w straeon ffotograffig. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi dangos amrywiol agweddau o fywyd yn Ne Cymru, digwyddiadau fel Cystadlaethau Cwpan Rygbi’r Byd, ymweliadau gan aelodau o’r teulu brenhinol, straeon newyddion sy’n torri, ac amrywiol brosiectau masnachol. Mae eleni – 2023 – yn garreg filltir arwyddocaol, sef degawd ers i Chris ymgartrefu yn Ne Cymru. Yn ystod y digwyddiad hwn bydd yn rhannu atgofion ac yn arddangos ei hoff luniau, gan ddarlunio hanfodion taith wych ei fywyd yng Nghymru.

Archebwch eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.

Continue reading

Hannah McKay yn sgwrsio â Paul Ellis

Posted on June 13, 2023

Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn Ffotogallery ar Ddydd Mercher 28 Mehefin o 6pm ymlaen i fwynhau digwyddiad ‘sgwrsio’ arbennig rhwng Hannah McKay, sy’n ffoto-newyddiadurwr i Reuters, a Paul Ellis, Cadeirydd y BPPA. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o sgyrsiau sy’n digwydd ochr yn ochr â’r arddangosfa bresennol ‘Assignments 23’ mewn partneriaeth â Chymdeithas Ffotograffwyr y Wasg Brydeinig.

Mae Hannah McKay yn ffotograffydd staff i Reuters sydd wedi’i seilio yn Llundain. Mae hi’n ymdrin ag amrywiaeth o newyddion, chwaraeon ac erthyglau nodwedd. Cwblhaodd Hannah radd BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol (UCA) yn 2009 cyn cael profiad diwydiannol fel newyddiadurwr preswyl i’r papur newydd The Coventry Telegraph. Yn 2012, symudodd Hannah i Lundain i weithio fel ffotograffydd i asiantaeth ffotograffau ranbarthol cyn gweithio’n llawrydd i asiantaethau gwifren rhyngwladol. Pan ymunodd Hannah â Reuters yn 2017, cafodd y cyfle i weithio ar aseiniadau drwy’r byd i gyd, yn cynnwys: Gemau Olympaidd, Cwpan y Byd Fifa, y Garafan Mudwyr, Priodas, Angladd a Choroniad Brenhinol, Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau ac Angladd y Frenhines. Derbyniodd Hannah Wobr Pulitzer am ei gwaith ar Argyfwng Ffoaduriaid Rohingya. Enillodd wobr Ffotograffydd Asiantaeth y Flwyddyn y Guardian ac mae ei gwaith wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Wobrau Newyddiaduraeth Prydain, gwobrau Picture Editors’ Guild, Cymdeithas Ffotograffwyr y Wasg Brydeinig (y BPPA) a’r Gwobrau Ffotograffiaeth Rhyngwladol (IPA).

Mae Paul Ellis wedi bod yn ffotograffydd staff i Agence France-Presse yng ngogledd Lloegr am 17 mlynedd yn adrodd am bopeth bron sy’n digwydd. Llawer o chwaraeon, ond hefyd newyddion sy’n torri, ymweliadau brenhinol a digwyddiadau gwleidyddol yn y wlad hon a thramor. Mae’n gadeirydd y BPPA, rôl y mae’n hynod o falch ohoni, gan sicrhau ymrwymiad y gymdeithas i hyrwyddo ffoto-newyddiaduraeth a ffotograffiaeth y wasg. Astudiodd ffoto-newyddiaduraeth gyda’r NCTJ yn Sheffield fwy na 25 mlynedd yn ôl, gan weithio mewn papurau newydd wythnosol a rhanbarthol, asiantaethau’r wasg leol a chenedlaethol, fel newyddiadurwr llawrydd i bapurau newydd ac yn rhyngwladol gyda’r Associated Press ac yn awr AFP.

Archebwch eich tocyn rhad ac am ddim ar-lein drwy Eventbrite.

Continue reading

Sgrinio ffilm: Samos On Fire - Songs In Asylum

Posted on June 09, 2023

I ddathlu Wythnos y Ffoaduriaid 2023 (19 – 25 Mehefin) mae’n bleser gan Ffotogallery gynnal sgriniad arbennig o’r ffilm fer Samos On Fire - Songs In Asylum ar nos Iau 22ain Mehefin am 6pm.

Bydd y cyfarwyddwr Freid Atta yn ymuno â ni wedyn i gyflwyno’r ffilm ac i gynnal sesiwn holi ac ateb.

Mynediad am Ddim – Rhaid archebu lle drwy Eventbrite.

Crynodeb o’r ffilm:

Un rhan o’r gwaith o ddatrys yr argyfwng ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg yw dangos i Ewrop beth sydd gan yr unigolion hynod hyn i’w gynnig. Rwy’n ystyried y ffilm hon yn gais i ddangos elfennau cadarnhaol bywyd fel ffoadur, ac mae’n rhoi cipolwg bach i ni ar yr unigolion eu hunain.

I ddangos sut mae gan gerddoriaeth a chreadigedd y grym i weddnewid bywydau. I ddangos nad yw ffoaduriaid byth yn colli gobaith er gwaethaf ansicrwydd y broses geisio lloches, eu hamodau byw a’u breuddwydion am fywyd y tu allan i’r gwersyll…

Mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Samos, mae grŵp o gerddorion o Affrica a’r Dwyrain Canol yn cyfarfod i greu cerddoriaeth. Does dim i roi taw ar eu sesiynau, ddim hyd yn oed pan mae’n rhaid iddynt ymdopi â thanau, daeargrynfeydd ac yn waeth na dim…y broses geisio lloches hynod ddryslyd.

Mae’r ffilm ddogfen yn arddull y cinema verité ac yn y dull barddonol. Nod y ffilm yw creu cyfosodiad rhwng amodau di-drefn ac enbyd gwersyll Vathy, a llawenydd canu, offerynnau cerddorol a dawns.

Yn y pen draw, nod y ffilm ddogfen yw portreadu bywydau’r cerddorion a’r artistiaid hyn gyda’r holl dristwch a siom a ddaw law yn llaw â’u sefyllfa, ond hefyd y gwreichion o lawenydd yn y gwersyll.

Meddai Cyfarwyddwr Samos on Fire, Fareid Atta:

“Rwy’n ystyried y ffilm ddogfen yn gais i ddangos yr ochr gadarnhaol i brofiad y ffoaduriaid, ond yn bwysicach na hynny – i ddangos yr agwedd obeithiol a welwn ymysg yr unigolion bob amser – waeth pa mor ddiflas neu undonnog yw’r adegau hynny.”

Continue reading

Rhagolwg o'r Arddangosfa: Assignments 23

Posted on May 30, 2023

Gobeithio y gallwch ymuno â ni o 6pm ar Ddydd Iau 8fed Mehefin ar gyfer rhagolwg yr arddangosfa, lle byddwn hefyd yn cael cwmni’r ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau arobryn Joann Randles, a fydd yn rhannu cyflwyniad o’i gwaith o 7.45pm.

Mae arddangosfa eleni’n cynnwys straeon o fis Gorffennaf 2021 hyd y Gwanwyn 2023 ac mae’n ymwneud â phopeth o chwaraeon ac adloniant i wleidyddiaeth a phrotestiadau, ac yn edrych ar aelodau’r teulu brenhinol, sêr a digwyddiadau byd-eang drwy lygaid ffotograffwyr y gymdeithas.

From filmmaker to photographer. Joann’s photojournalism career kick-started in January 2021, during the second year of the covid pandemic, after being acknowledged by The Daily Express and V&A who exhibited one of her images in the prestigious museum. What was initially a creative outlet during the pandemic, Joann soon began to transpose her skills from filmmaking to be utilised in photography, from researching stories to finding her own photographic style, particularly in portraiture. In 2022 Joann won the Journalists Charity Wales Media Awards ‘Photographer of the Year,’ Peoples Choice Award in the ‘Portrait’ category of the British Photography Awards and Winner of the BPPA Portrait category.

Continue reading

Canu ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Posted on May 04, 2023

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyhoeddi’r dyddiad newydd ar gyfer noson o ganu gyda Choir With No Name a Choirs For Good, sef Dydd Mercher 17 Mai, 6-8pm.

Mae Choir with No Name wedi bod yn cynnal corau’n llwyddiannus ac yn datblygu cymunedau llawen gyda phobl ddigartref a phobl wedi eu hymyleiddio ers 2008. Mae chwe chôr ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Cafodd y côr yng Nghaerdydd, a redir mewn partneriaeth â’r Wallich, ei lansio yn 2021.

Mae Choir With No Name wedi ei seilio ar y ffaith bod canu’n gwneud i chi deimlo’n dda; mae’n tynnu eich sylw oddi ar holl nonsens bywyd ac yn eich helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau a gwneud ffrindiau dilys, hirdymor.

Mae Choirs For Good yn rhwydwaith o gorau lles cymunedol. Maen nhw’n bodoli i hyrwyddo pwysigrwydd a buddion canu cymunedol, nid yn unig er lles corfforol a meddyliol unigolyn, ond hefyd yr holl ffyrdd gwych y gall corau uno pobl a chyfrannu yn ôl i’w cymunedau lleol a gwireddu eu potensial yn y gymuned ehangach.

Yn ystod y noson bydd y ddau gôr yn perfformio caneuon hyfryd i ni, yn ogystal â darparu gweithdy byr lle gallwn oll gymryd rhan a phrofi grym y gân i wella ein lles. Felly mae’n briodol y bydd y digwyddiad hwn yn digwydd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Continue reading

GOHIRIO DIGWYDDIAD: Robert Frank Redux: Golwg arall ar Ffilmiau a Ffotograffiaeth Robert Frank (1924-2019)

Posted on April 04, 2023

Yn anffodus, am fod sefyllfa annisgwyl wedi codi, rydym wedi gorfod gohirio’r drafodaeth ‘Robert Frank Redux’ yfory. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol lle gobeithiwn gyhoeddi dyddiad newydd cyn hir. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a diolch yn fawr am eich dealltwriaeth.

Am fod Robert Frank wedi marw yn 2019, mae’n amser da i fynd ati i ailwerthuso ei gorff o waith eithriadol o amrywiol. Gan gychwyn gyda dywediad Frank ‘Rwyf bob amser yn edrych tu allan, yn ceisio edrych tu mewn”, bydd y sesiwn hwn am y ffotograffydd Swisaidd/Americanaidd yn ail archwilio nodweddion ffurfiol ac emosiynol gwaith Frank ac, yn y broses, yn olrhain ei symudiad o fod yn ddogfennwr ‘ar y tu allan’ nodweddiadol o America’r 1950au i’w waith ffilm a ffotograffiaeth yr honnir ei fod yn fwy ‘mewnol’ o’r 1960au ymlaen. Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar ei waith eiconig cynnar The Americans (1958), natur eiconigrwydd o fewn y gwaith hwn, a defnydd diweddarach Frank o luniau polaroid, ffilmiau a fideo fel ffordd o arysgrifio ystyr i mewn i’r ffrâm drwy waith ysgrifennu, darniad a ffyrdd eraill o gyfleu.

Siaradwyr a Phapurau:

1. Sarah Garland, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Americanaidd (Prifysgol East Anglia): ‘Thinking through the icon: Robert Frank’s The Americans (1958)’

2. Nicolo Giudice, Arweinydd Cwrs Ffotograffiaeth, (Prifysgol Swydd Bedford): ‘“Reading the lines of his hand” – Robert Frank’s Re-edition of The Lines of My Hand (1972, 1989)’

3. Caroline Blinder, Darlithydd mewn Llenyddiaeth a Diwylliant Americanaidd, (Goldsmiths): ‘Possessions and Souvenirs: The Grammar of Objects in Robert Frank’s Still Life Polaroids’

4. Mark Durden, Athro mewn Ffotograffiaeth (Prifysgol De Cymru): ‘“Trying to Look Inside”: On The Films and Videos of Robert Frank’


Llun: Hold Still-Keep Going, 1989. From the Robert Frank Collection, National Gallery of Art, Washington D.C.

Continue reading

Sgyrsiau Sadwrn (Higgins Photography Initiative in Ffocws)

Posted on April 03, 2023

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyd-gynnal cyfres o ‘Sgyrsiau Sadwrn’ yn rhan o alwad agored Menter Ffotograffiaeth Higgins mewn cydweithrediad â Cardiff MADE.

‘Dyn ni’n deall nad oes gan bawb y cyfle i astudio ar safon addysg uwch, neu efallai bod amser maith wedi pasio ers hyn, sef y rheswm pam ‘dyn ni’n cyflwyno’r galwad agored ‘Higgins Open Call’ yn benodol ar gyfer ffotograffwyr sydd yn y broses o ddatblygu eu gweledigaeth ffotograffig, sydd ddim ar hyn o bryd yn astudio’r celfyddydau ar safon addysg uwch.

Yn lansio’r galwad agored ym mis Ebrill, bydd cyfres o sgyrsiau i gyflwyno’r gwahanol safbwyntiau a gwaith y ffotograffwyr proffesiynol bydd yn gweithredu fel mentoriaid i’r cydgyfrannogion.

Ar ôl cyflwyno crynodeb o’r themâu a’r prosiectau arwyddocaol sydd yn eu gwaith, bydd cyfle i bobl sy’n bwriadu ymgeisio i Fenter Higgins a’r garfan sy’n rhan o’r cynllun Ffocws ar hyn o bryd, archebu slot gyda’r siaradwr gwadd i ddangos a thrafod agweddau o’u gwaith eu hunain.


Rhaglen


Dydd Sadwrn 22 Ebrill, 3.15 - 4.15pm, yn Ffotogallery - Paul Cabuts

Mae Paul Cabuts yn defnyddio ffotograffiaeth i archwilio hanes gweledol Cymoedd de Cymru yn y DU. Mae Cabuts, sydd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi cael ei gomisiynu i weithio ar nifer o brosiectau ffotograffiaeth yn cynnwys y prosiect Capture Wales gan y BBC sydd wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.

Dydd Sadwrn 29 Ebrill, 6.30 - 9pm, yn Cardiff MADE - Michal Iwanowski

Mae Michal Iwanowski yn artist sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddo ddiddordeb yn y themâu mudo, hunaniaeth (genedlaethol), perthyn a cholled. Gallwch wedi ei waith yng nghasgliad parhaol sefydliadau rhyngwladol, yn cynnwys yr Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes yn Zagreb ac Amgueddfa Cymru.


Dydd Sadwrn 13 Mai, 6.30 - 9pm, yn Cardiff MADE - Abbie Trayler-Smith – ARCHEBWCH NAWR

Mae Abbie Trayler-Smith yn ffotograffydd dogfennol a phortreadau, sy’n arbenigo mewn tynnu llun adweithiau ac ymatebion pobl i ddigwyddiadau cyfoes a materion cymdeithasol. Mae gwaith Abbie yn aml yn heriol, weithiau gydag arlliw o hiwmor eironig, ond bob amser wedi ei greu’n hyfryd, ac mae’n wych o bersonol ac yn naturiol o arsylwadol.


Dydd Sadwrn 20 Mai, 2 - 4.30pm, yn Ffotogallery - Paul Reas – ARCHEBWCH NAWR

Mae Paul Reas yn ffotograffydd ac addysgwr. Ymddeolodd yn ddiweddar fel Arweinydd Cwrs y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd. Mae Paul wedi gweithio’n fasnachol ac yn olygyddol am flynyddoedd lawer ac mae’n cyhoeddi ac yn arddangos gwaith yn rhyngwladol. Mae ei waith wedi ei gynrychioli gan Oriel James Hyman yn Llundain.


Dydd Sadwrn 27 Mai, 2 - 4.30pm, ar-lein ac yn Cardiff MADE -

Clementine Schneidermann (ar-lein) - ARCHEBWCH NAWR
Faye Chamberlain (Cardiff MADE) - ARCHEBWCH NAWR

Mae Clémentine Schneidermann yn ffotograffydd Ffrengig. Ers 2013 mae hi wedi gweithio ar brosiectau tymor hir niferus yn ne Cymru ac yn rhyngwladol. Mae Faye Chamberlain wedi gweithio’n gyson fel artist ffotograffig proffesiynol ers 1996. Mae gandddi hanes o gynhyrchu gweithiau arloesol… wedi eu teilwra i amgylcheddau a chynulleidfaoedd penodol.'

Continue reading

Bonansa Celf Mawr Queerdos i Deuluoedd Enfys

Posted on March 13, 2023

Bonansa Celf Mawr Queerdos i Deuluoedd Enfys

Dewch i ymuno â ni i fwynhau diwrnod o lawenydd creadigol! Byddwn yn gwneud bathodynnau, yn cynnal gweithdai sînau, yn creu darn celf cydweithredol enfawr y gall pawb a phob un gyfrannu ato, a mwy! Rydym eisiau dod â rhieni LHDTC+ a’u plant ac ieuenctid cwiar at ei gilydd i gysylltu a chreu er mwyn dathlu ein cymuned enfys ardderchog o liwgar a bywiog.

Bydd gwestai arbennig yma hefyd i gynnal amser stori gyda’r plant!

Beth mae’n olygu i fod yn deulu enfys? Hoffem archwilio hyn a rhoi lle i deuluoedd ac ieuenctid cwiar fynegi eu hunain ym mha ffordd bynnag y dewisant gyda phaent, glud, glitr a llond calon o gariad.

Continue reading

Assignments 23

Posted on March 04, 2023

Rhagolwg o'r Arddangosfa: Dydd Iau 8 Mehefin, 6 - 9pm

Byddwn wrth ein boddau yn Ffotogallery yr Haf hwn yn cynnal ‘Assignments23’, sy’n teithio i Gymru am y tro cyntaf. Cymdeithas Ffotograffwyr y Wasg Brydeinig (BPPA) sy’n trefnu’r arddangosfa dirnod hon, a bydd yn cynnwys detholiad o ffotograffiaeth orau’r wasg Brydeinig fydd yn cael ei ddewis o alwad agored. Bydd hyn yn dilyn ei gyfnod cychwynnol o ddeg diwrnod yn Bargehouse Llundain ar y Southbank ym mis Mai.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gynnal yr arddangosfa ‘Assignments23’ yma yn Ffotogallery, nid yn unig am mai dyma’r tro cyntaf iddi gael ei harddangos yng Nghymru, ond hefyd am ei bod yn arddangos ffotograffau a fydd yn chwarae rôl hanfodol i’n helpu i gofio a myfyrio ar rai o’r digwyddiadau allweddol sydd wedi digwydd ym Mhrydain yn y flwyddyn ddiwethaf yma.”

“Mae’n bleser mawr gan BPPA ddod ag ‘Assignments23’ i Gymru am y tro cyntaf yn dilyn ymlaen o’n harddangosfa yn Llundain. Ein nod yw cymryd y ffotograffau o’u harddangosiad cyntaf i rannau eraill o Brydain a’u rhoi i gynulleidfa ehangach ac rydym wrth ein boddau cael gweithio gyda Ffotogallery i ddod â’r cynrychioliad anhygoel hwn o ffotograffiaeth y wasg Brydeinig i Gaerdydd.” - Paul Ellis, Cadeirydd BPPA

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys ffotograffau a gyflwynwyd drwy alwad agored ‘Assignments23’, a gwnaed y dewisiadau gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys Phil Coburn (Daily Mirror), Talar Kalajian (Agence France-Presse), Matthew Fearn (The Telegraph), Alan Crowhurst (Getty Images) a Freddie Sloan (Hello Magazine).

Continue reading

Faadi / Y Stafell Fyw / The Living Room

Posted on March 03, 2023

Mae Faadi/Y Stafell Fyw/The Living Room yn brosiect ffotograffiaeth a ffasiwn rhwng y cenedlaethau sy’n rhannu lleoliadau teuluol personol yng nghartrefi pobl Somali-Gymreig. Mae pwyslais y prosiect ar ddathlu ac mae’n cynnwys delweddau o fodelau lleol ifanc mewn gwisgoedd priodferch, aelodau o’r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah Dhaqan a Diraq, brawdoliaeth a gwrywdod meddal a’r ddawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Bu tua 40-50 o aelodau’r gymuned yn cymryd rhan yn y sesiwn dynnu lluniau hon, naill ai fel modelau, dawnswyr neu’n darparu deunyddiau a dillad traddodiadol. Dyma’r prosiect cyntaf rhwng y cenedlaethau sy’n arddangos profiad a bywyd y Somaliaid Cymreig gyda phwyslais ar fenywod ifanc y gymuned. Mae adfywiad y ddawns draddodiadol Ciyaar Somali yn y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfle gwych i aelodau iau’r gymuned gysylltu â’u treftadaeth ddiwylliannol, ac fel priodas a dawns ddathlu, roeddem yn credu ei bod yn bwysig dogfennu’r adeg hynod bwysig hon i’r gymuned Somali-Gymreig yng Nghaerdydd.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, a Young Queens. Mae Al Naeem yn gylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf pobl Ddu a Mwslimaidd. Mae Young Queens yn grŵp celfyddydol i fenywod ifanc Somali-Gymreig o Gaerdydd, a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, gyda chefnogaeth ariannol y Loteri Treftadaeth.

Clodrestr

Cyfarwyddwyd gan Asma Elmi

Uwch Gynhyrchydd: Izzy Rabey

Ffotograffydd: Yasmin Jama

Fideograffydd: Saif

Steilydd a Chynllun y Set: Asma Elmi, Haida Hamidi

Cast: Young Queens, Marwah Ahmed, Nadia Nur, Muna Ali, Mohamed Hassan, Kamal Yussuf

Diolch yn fawr i: Cylchgrawn Al Naaem, Young Queens, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, Heavenly Boutique, Blossom Bay Events

Continue reading

Ffair Llyfrau Ffotograffau

Posted on March 01, 2023

Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn 22 Ebrill, 12-5pm ar gyfer ein Ffair Llyfrau Ffotograffau!

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan Paul Cabuts, David Barnes, Alejandro Acīn & Sebastian Bruno, a gweithdy techneg rhwymo llyfrau gyda Bill Chambers ac amrywiaeth wych o stondinwyr, yn cynnwys Offline Journal, Vaine Magazine, Spacecraft Magazine, Elijah Thomas, Yellow Back Books, Bartosz Nowicki, ICVL, 2TenBooks a rhagor!

Gwelwch yr amserlen lawn isod:

12.00 – Drysau’n agor

12.30 - Alejandro Acín a Sebastian Bruno yn sgwrsio

13.00 - Bill Chambers: Cyflwyniad i Lyfrau wedi eu Gwneud â Llaw (mae’r lle’n gyfyngedig – y cyntaf i gyrraedd fydd yn cael lle)

15.15 – Sgwrs Paul Cabuts gyda David Barnes a Brian Carroll, Offline Journal

16.00 – Y ffair yn cau

Continue reading

Trafodaeth Panel: Moeseg Ffotograffiaeth yn Ystod ac yn Dilyn Gwrthdaro

Posted on January 26, 2023

Ymunwch â ni ar Ddydd Iau 16 Chwefror i fwynhau trafodaeth fanwl am foeseg ffotograffiaeth yn ystod ac yn dilyn gwrthdaro, i gyd-fynd â’n harddangosfa bresennol, We Are Here, Because You Were There: Afghan Interpreters in the UK.

Rydym wrth ein boddau bod yr aelodau panel dilynol yn ymuno â ni;

Nelly Ating, ffotonewyddiadurwr sy’n cynhyrchu gwaith gyda ffocws ar gwestiynau hunaniaeth, ymgyrchu, addysg, eithafiaeth a mudo;

Tudor Etchells, ffotograffydd, ymchwilydd a chyfreithiwr hawliau dynol i gleientiaid yn y system fudo;

Benjamin Chesterton, cyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu ffilmiau duckrabbit sydd wedi ennill sawl gwobr;

Andy Barnham, ffotograffydd a chyn-filwr a wasanaethodd fel swyddog gyda’r Magnelwyr Brenhinol, gan fynd ar gyrchoedd gweithredol nifer o weithiau i Irac, Cyprus ac Affganistan lle dogfennodd ei brofiadau.

Dan gadeiryddiaeth ein cyfarwyddwr, Siân Addicott, bydd ein panel o ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau cyfoes yn archwilio’r codau moesol a ddefnyddir gan y rheiny sy’n dogfennu pobl a lleoedd a effeithiwyd gan weithredoedd rhyfelgar.

Edrychwn ymlaen at noson o drafod craff a diddorol gan aelodau ein panel a’n cynulleidfa.

Mae’r arddangosfa We Are Here, Because You Were There: Afghan Interpreters in the UK yn parhau hyd 25 Mawrth, gan agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 - 5pm.

Continue reading

The Newport Intervention: We Are Here, Because You Were There

Posted on January 26, 2023

Dewch i ymuno â ni yng Nglan yr Afon ar Ddydd Iau 9 Chwefror, 6pm – 8.30pm, pan fyddwn yn dod â’n harddangosfa bresennol We Are Here, Because You Were There i Gasnewydd drwy gyfrwng trafodaethau a gosodiad taflunio.

Mae hon yn argoeli i fod yn noson ddiddorol lle gallwn ganolbwyntio ar sefyllfa’r cyfieithwyr o Affganistan oedd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wedi i’r lluoedd tramor ymadael gan ddod i ymgartrefu ym Mhrydain. Mae croeso i bawb ymuno â ni a’n helpu i barhau â’r sgwrs.

Dyma amserlen y noson:

6pm – Croeso – Cyntedd Glan yr Afon

6.15 – 6.30pm – Gosodiad awyr agored: Ymunwch â ni wrth y Don Ddur i weld tafluniad o ffilm fer a grewyd o luniau a sain o’r arddangosfa. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar ochr adeilad Glan yr Afon.

6.45 - 7.45pm – Trafodaeth panel – Adsefydliad Cyfieithwyr Affganaidd ym Mhrydain a Chasnewydd fel Dinas Noddfa.

Bydd y caffi’n agored wedyn i gael bwyd a diod.

Trwy gydol y noson hefyd, bydd yr artist Stephanie Roberts yn cynnal gweithdy creu mosaig y gallwch alw i mewn iddo i’w fwynhau yn rhad ac am ddim.

Continue reading

We Are Here, Because You Were There: Symposiwm

Posted on January 16, 2023

Ymunwch â ni ar Ddydd Sadwrn 28ain Ionawr i fwynhau prynhawn a fydd yn orlawn â sgyrsiau ysbrydoledig, rhannu profiadau a dadleuon bywiog, gan ganolbwyntio ar y pynciau a godir yn ‘We Are Here, Because You Were There; Afghan Interpreters in the UK’.

12.30pm - Sgwrs am y prosiect gan y cyd-grewyr, y ffotograffydd Andy Barnham a’r academydd Sara De Jong.

2pm - Rhannu profiadau byw gan Gyfieithwyr o Afghanistan

3.30pm - Trafodaeth Panel - Ailsefydlu yn y DU a Chymru: Cenedl o Noddfa

Nodwch os gwelwch yn dda – ni fydd hawl i unrhyw un dynnu lluniau neu fideograffi yn y digwyddiad hwn / digwyddiadau hyn, oherwydd mae’n bwysig peidio datgelu pwy yw’r cyfieithwyr sydd wedi bod yn ddigon caredig i gynnig rhannu eu profiadau gyda ni.

Continue reading

The Female Line gyda Adeola Dewis

Posted on December 20, 2022

Ar Ddydd Gwener 13 Ionawr 2023, bydd Ffotogallery yn cynnal digwyddiad gyda’r nos ar gyfer The Female Line gyda’r siaradwr gwadd Adeola Dewis.

Bydd y digwyddiad hwn, yn benodol i fenywod o liw, yn darparu ac yn creu lle diogel i ferched ddatblygu cysylltiadau ac ymatebion creadigol i faterion, syniadau a phryderon a rennir ganddynt, gyda siaradwr gwadd i ysbrydoli’r sgyrsiau.

Mae Adeola yn artist ac ymchwilydd. Mae hi’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn perfformiadau diwylliannol defodol, gwerin a brodorol. Mae hi’n cael ei denu’n arbennig at estheteg perfformiad yn nawnsiau masgiau a Charnifal Trinidad a’r ffyrdd posibl y gall dealltwriaeth o’r rhain – ac o fathau eraill o berfformiadau rhyddhau – fod yn berthnasol i greu celf neu gyflwyniadau celf i unigolion neu grwpiau sy’n mynd trwy fathau o ddadleoliad a phryder cymdeithasol mewn cymunedau gwasgaredig. Mae ei gwaith yn ymwneud â pherfformiadau o weddnewidiad ac mae’n archwilio ffyrdd o ail gyflwyno’r hunan. Mae ei bywyd a’i phrofiadau fel mam a mewnfudwr o’r Caribî wedi hysbysu agweddau o’i gwaith ac yn parhau i gyfrannu at y ffyrdd y mae ei gwaith yn datblygu.

Bydd Adeola yn siarad am ei thaith hyd yn hyn, gan edrych ar gwestiynau yn ymwneud â chartref, masgio a pherthyn. Bydd hi hefyd yn arwain gweithdy creadigol mewn perthynas â gwneud masgiau.

Mae The Female Line yn ofod i bobl sy’n eu hystyried eu hunain yn fenywod sy’n gweithio yn y sector creadigol i gwrdd, cysylltu a rhannu. Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb rheolaidd gyda siaradwyr gwadd a grŵp ar-lein yn dod â’r rhai sy’n eu hystyried eu hunain yn fenywod at ei gilydd yng Nghaerdydd, De Cymru. Gyda grwpiau cymunedol penodol a digwyddiadau i’r rheiny sy’n eu hystyried eu hunain yn anneuaidd a merched o liw. Mae’n cael ei ddarparu gan Her Mark a MADE Caerdydd mewn partneriaeth â Ffotogallery.

Mae’r bartneriaeth a’r digwyddiad hwn yn bosibl diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Continue reading

We Are Here, Because You Were There

Posted on December 12, 2022

Rhagddangosiad o’r Arddangosfa: Dydd Gwener 27 Ionawr, 6pm

Ym mis Ionawr 2023 bydd hi’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno arddangosfa newydd ‘We Are Here, Because You Were There’, sef prosiect ar y cyd gan y ffotograffydd Andy Barnham a’r ymchwilydd Dr Sara de Jong. Mae’r gwaith yn defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig ac a ddaeth i ailgartrefu’n ddiweddar yn y DU.

Mae’r ffotograffydd Andy Barnham wedi golygu’r portreadau i helpu i sicrhau nad oes modd adnabod y cyfieithwyr hynny sy’n dal i fod dan risg, ac sydd â theulu yn Afghanistan sydd o dan fygythiad. Mae’r portreadau a gyflwynwyd yn gyfansoddiad o hyd at ddwsin o fframiau sydd wedi eu pylu neu eu picseleiddio ac sydd wedyn wedi eu gosod dros ei gilydd i gyflwyno portread terfynol. Gellir ystyried bod y broses hon yn peri trawma i’r portreadau, i gydnabod y digwyddiadau a brofwyd wrth wasanaethu gyda lluoedd NATO ac wrth ddianc o Afghanistan.

Daw’r dyfyniadau o gyfweliadau manwl a wnaed gan Sara de Jong, sy’n ymwneud â chymhellion cyfieithwyr o Afghanistan i weithio i Luoedd Arfog Prydain, eu gwaith ochr yn ochr â milwyr, y bygythiadau roedden nhw’n eu hwynebu yn Afghanistan, eu hymgiliad o’r wlad, eu profiadau cynnar yn y DU a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.

Trwy ganolbwyntio ar straeon y cyfieithwyr Affgan eu hunain, gwahoddir ymwelwyr i ymgysylltu â’r bobl y tu ôl i’r penawdau, ac mae hefyd yn eu hannog i feddwl am y clymau dwfn rhwng y DU ac Afghanistan. Gyda’i gilydd, mae eu straeon a’u lluniau unigol yn adlewyrchu effaith strwythurol a hirbarhaus arferion cyflogaeth milwrol Prydain, ei chyfreithiau mudo a’i pholisi tramor.

Continue reading

Her Dyddlyfr Ffotograffau Codi Calon Mis Ionawr!

Posted on November 26, 2022

Yn Ffotogallery rydym wrth ein boddau gyda dathliadau’r Nadolig! Ond gwyddom hefyd fod Ionawr, gyda’i ddyddiau oer a thywyll, yn gallu bod yn fis digon llwm ar ôl yr holl ddathlu. Felly, roeddem yn meddwl y byddai cynnal prosiect hwyliog i ganolbwyntio arno’n helpu i godi ein calonnau i gyd.

Ymunwch â ni drwy gydol mis Ionawr ar gyfer Her y Dyddlyfr Ffotograffau i Godi Calon! Byddwch yn creu dyddlyfr ffotograffau gyda phromptiau bob dydd i helpu gyda’ch lles ac i’ch ysbrydoli i edrych ar yr elfennau cadarnhaol o’ch cwmpas i gyd. Bob dydd, byddwn yn postio gair newydd fel prompt i greu ffotograff. Ar ddiwedd y mis, byddwn yn cynnal gweithdy ar-lein i ddangos sut i greu e-ddyddlyfr o’ch ffotograffau a gallwch ddewis archebu hwn wedyn fel dyddlyfr wedi ei argraffu. Rydym hefyd wedi creu grŵp Facebook lle gallwch rannu eich ffotograffau gyda phawb arall drwy gydol y sialens os dewiswch.

Os gallwch ymuno yn yr her bob dydd, gwych – ond yn fwy na dim arall dylai hwn fod yn brosiect hwyliog i’w fwyhau felly, os byddwch eisiau galw i mewn ac allan pan fydd amser gennych, mae hynny’n wych hefyd, dim pwysau! Gallwch ymuno â ni ar gyfer y gweithdy ar-lein, rhannu eich lluniau gyda phobl eraill sy’n ymuno yn y prosiect yn ein grŵp Facebook neu gadw eich ffotograffau fel casgliad hapus o atgofion mis Ionawr.

Bydd y prosiect yn dechrau ar 1 Ionawr 2023 ac yn rhedeg bob dydd hyd 31 Ionawr. Cadwch lygad ar y promptiau dyddiol ar straeon y cyfryngau cymdeithasol drwy’r grŵp Facebook. (Cofiwch os gwelwch yn dda bod hwn yn grŵp cyhoeddus. Byddwch yn garedig a chofiwch y dylai’r lluniau sy’n cael eu rhannu fod yn briodol i bawb.)

Neu gallwch lanlwytho eich ffotograffau i’r ffolder hon a rennir.

Ymunwch yn yr her!

Rheolau

Trwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rydych yn cytuno i’r amodau a ganlyn:

Mae’r cyfranogwyr yn cadw perchnogaeth a hawlfraint y ffotograffau a gyflwynant. Gallai’r ceisiadau gael eu cyhoeddi ar-lein yn ôl dewis Ffotogallery. Yr unig ffordd y bydd Ffotogallery yn defnyddio’r delweddau fydd ar gyfer hyrwyddo, cyhoeddusrwydd, newyddion, neu i greu ymwybyddiaeth neu addysgu gwybodaeth.

Mae’r cyfranogwyr yn cytuno mai nhw sydd wedi creu’r ffotograffau a/neu eu bod wedi eu hawdurdodi i ddefnyddio’r ffotograffau fel y cawsent eu cyflwyno. Dylid cyfeirio at, neu roi credyd i gyd-awduron a ffynonellau gwreiddiol sy’n berthnasol ac ni fydd ein defnydd o’r ffotograffau ar gyfer eu cyhoeddi ar-lein yn torri hawlfraint trydydd parti nac unrhyw hawliau eraill chwaith.

Continue reading

The MADE Line

Posted on November 24, 2022

15th December, 6 - 8pm

Hosted by Queerdos

with guest speaker, Frances Abigail Bolley At Ffotogallery, Cardiff

CONNECT SHARE INSPIRE

The MADE Line is a community event specifically for Queer Women and Non-Binary people. Providing a safe space to meet, connect, share and hear from the guest speakers. During the December event, musician, composer and artist, Frances Abigail Bolley will talk about her work that is concerned with humanness, what it is to be alive; her praxis is concerned with tuning into the moment, learning to be attentive and poised in the present.

The Resilience of Play: Talk

"Improvisation is central to my creative practice. Through examples of my work (including visual and audio art) I hope to tell but mostly show how that foundational improvisation practice informs the wide range of work I make, including my embroidery, performance art, scratch work and songs."

Book on eventbrite.

Free.

Open to all ages.

Drinks and nibbles provided

Continue reading

Christmas Family Fun Day

Posted on November 17, 2022

Dechreuwch dymor y Nadolig gyda Ffotogallery yn ein Diwrnod Hwyl yr Ŵyl i’r Teulu!

Ymunwch â ni ar Ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr i fwynhau diwrnod llawn o hwyl gyda gweithdai galw heibio, gemau a gweithgareddau.

Gallwch fod yn greadigol drwy greu collage ffotograffau neu fathodynnau Nadolig, chwarae heriau Nadoligaidd, mwynhau gemau bwrdd a mwy!

Mynediad AM DDIM ac mae’n agored i bawb

Continue reading

Gweithdai Artistiaid Ffocws

Posted on November 11, 2022

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni ar gyfer cyfres o weithdai ar-lein gyda’r deuddeg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws.

Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2 - 4pm

Ed Worthington, Kerry Woolman, Laurie Broughton, a Paris Tankard

Dydd Mercher 23 Tachwedd 2 - 4pm

Ada Marino, Pinar Köksal, Ross Gardner, a Laurentina Miksys

Dydd Iau 24 Tachwedd 2 - 4pm

Alice Durham, Dione Jones, Billy H. Osborn, a Jack Winbow

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid sy’n dod yn gynyddol amlwg ac sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd.

Mae’r gweithdai artistiaid ar-lein hyn yn gyfle i sgwrsio â’r artistiaid a dysgu ganddynt am eu harferion. Bydd pob un o’r deuddeg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws yn siarad am eu gwaith.

Y nod ar gyfer y gweithdai yw datblygu lleoedd i gael trafodaethau beirniadol a chreu deunyddiau sy’n cefnogi dealltwriaeth pobl o’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan artistiaid gweledol yn byw yng Nghymru, neu’n hannu ohoni, sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa ac sy’n dod yn gynyddol amlwg.

Ymysg y cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn bydd y rhain:

• Sut ydych chi’n meddwl y gallai artistiaid a sefydliadau/mudiadau fod yn fwy agored â’i gilydd?

• Ydych chi’n difaru nad oeddech yn gwybod am y diwydiant celfyddydau gweledol cyn i chi gychwyn? A pha gyngor allech chi ei gynnig i’ch cymheiriaid?

• Sut allwn ni sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael mewnwelediad, dealltwriaeth ac ystyr go iawn o’ch gwaith.

• Beth yw rhai o’r profiadau a’r heriau y mae artistiaid sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd yn eu cael neu’n eu hwynebu wrth weithio fel artistiaid gweledol heddiw?

Mae’r gyfres hon o weithdai’n digwydd ar-lein drwy Zoom. Maen nhw’n agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid cadw lle o flaen llaw. Byddwn yn e-bostio manylion ynglŷn â sut i ymuno â’r gweithdai ar-lein yn agosach at y dyddiad.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch ag Alex Butler ar [email protected] cyn y digwyddiad ac fe wnawn ein gorau i ddarparu’r cymorth perthnasol.

Continue reading

More Than A Number at Afrika Eye

Posted on October 31, 2022

We are delighted that our touring exhibition More Than A Number will be on display at Trinity Arts Centre, Bristol, as part of Afrika Eye Festival in November 2022.

7th - 15th November, The Graffiti Room @ Trinity Centre, Bristol.

---

More Than a Number is an exhibition which looks to explore our thinking of an Africa caught between modernity and tradition, and how different cultures can produce meaning through images. It invites the audience to engage with the exceptional and thought-provoking work of 12 photographers from Africa. And encourages us to look deeply and clearly into the face of the individual in front of you and engage in a conversation. As Elbert Hubbard wrote, “If men could only know each other, they would neither idolise nor hate”.

Cultural difference and questions of identity within the ‘rights of recognition’ have, for many of the people who have been regulated to the margins of society, been front-line battles in establishing their identity and human worth (Hall, 1992). What happens when we neglect people’s material culture and not truly value it or represent it everywhere for everyone to engage with? And how can we as the audience, be that as individuals or cultural organisations, draw conclusions from what we already know and understand about Africa and Africans through a visual medium. And finally, how can we as cultural organisations in the West be more responsible in how we represent photography from Africa?

More Than a Number is centred around three themes: Representing Fearlessness, Zones of Contact, and Radical Sociality. Amina Kadous, Brian Otieno, Sarah Waiswa and Wafaa Samir’s projects offer highly subjective visions of African identity while exploring what true freedom and fearlessness in art looks like. Nana Kofi Acquah, Salih Basheer, Tom Saater and Yoriyas Yassine Alaouiteleport the audience into their zones of contact and explore the idea of remaking and reimagining our identities. Fatoumata Diabaté, Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi and Jacques Nkinzingabo’s projects remind of us of the importance of preserving and caring for our material culture, cultural heritage and its impact, especially in regard to questions of migration, decolonisation, belonging and experience.

Continue reading

Y Wal Goch - Sgwrs

Posted on October 24, 2022

Ymunwch â’r ffotograffydd dogfennol Anthony Jones yn Ffotogallery ar Ddydd Sadwrn 19 Tachwedd i sgwrsio am ei waith diweddar Y Wal Goch.

Y Wal Goch yw’r ymadrodd y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod fel enw cefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae’r prosiect, sydd â’r un enw, yn mynd ati i archwilio’r cefnogwyr hyn. Mae hon yn rhaglen ddogfennol sy’n edrych ar gefnogwyr pêl-droed Cymru, y diwylliant, a’r angerdd y maent wedi dod yn adnabyddus amdano bron drwy’r byd i gyd. Trwy ganolbwyntio’n bennaf ar y cefnogwyr, mae’n olwg hanfodol ar y diwylliant a’r angerdd sydd gan gefnogwyr Cymru am y gêm. Yn ystod y sgwrs, bydd Anthony’n trafod y diwylliant a’r angerdd hwn yn ogystal â’r ffordd y llwyddodd i gael y ffotograffau a ddefnyddiwyd yn y prosiect.

Continue reading

FFOCWS

Posted on October 11, 2022

Rhagddangosiad o'r Arddangosfa: Dydd Iau 3 Tachwedd, 6-9pm

Yr artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Ed Worthington, Dione Jones, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Kerry Woolman, Jack Winbow, Pinar Köksal, Paris Tankard, Ross Gardner.

Mae Ffotogallery yn deall bod teimladau o ansicrwydd am y dyfodol yn gofidio a blino artistiaid sydd yn nyddiau cynnar eu gyrfaoedd, a bod adroddiadau am brinder cyfleoedd yn ychwanegu mwy o ansicrwydd i yrfa sy'n ddigon bregus yn barod, gan greu pwysau negyddol ar y meddwl. Mae bod yn artist yn ymwneud â mwy na deunyddiau, anghenion ac arferion - mae'n ymwneud â phrofi'r sefyllfa sy'n eich wynebu ar y pryd. Felly, mae Ffotogallery wedi ymrwymo i'w egwyddorion arweiniol o hyrwyddo gwell amrywiaeth ddiwylliannol, mynediad a chynhwysiad, dysgu gydol oes, arloesi a rhagoriaeth.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd neu sy'n dechrau dod i'r amlwg. Ei nod yw arolygu'r graddedigion diweddar sydd wedi astudio'r celfyddydau gweledol yng Nghymru yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd heb fod mewn addysg gelf a chreadigol ffurfiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae Ffotogallery yn cyflwyno gwaith deuddeg artist gwych sy'n herio'r broses a'r cyfrwng ffotograffig a chymhwysiad ffotograffiaeth. Mae Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Ed Worthington, Dione Jones, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Kerry Woolman, Jack Winbow, Pinar Köksal, Paris Tankard, a Ross Gardner yn creu gwaith sy'n ysbrydoli dehongliadau a safbwyntiau newydd. Yn ogystal ag arddangos eu gwaith yn sefydliad ffotograffig arweiniol Cymru, caiff yr artistiaid eu cefnogi gan raglen ddatblygu broffesiynol chwe mis wedi'i theilwra.

Meddai Cyfarwyddwr Ffotogallery Siân Addicott:

“Rydym wrth ein boddau yma yn Ffotogallery ein bod yn cael arddangos y detholiad gwych hwn o artistiaid dawnus sy'n dod i'r amlwg. Mae'r amrywiaeth o bynciau, technegau ac arddulliau unigryw yn ein harddangosfa'n amlygu dyfnder y creadigedd ffotograffig yma yng Nghymru.

Trwy gyfrwng Ffocws rydym yn ceisio darparu cyfleoedd rhwydweithio a chefnogi gyrfaoedd hanfodol sydd wedi eu teilwra i helpu'r artistiaid ar eu teithiau proffesiynol - yn enwedig ar y camau heriol hyn yn gynnar yn eu gyrfaoedd."

Hoffai Ffotogallery ddiolch i Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant / Coleg Celf Abertawe am eu cymorth hael i wneud yr arddangosfa hon yn bosibl.

Continue reading

Sgwrs artist yn rhan o’r Ffair Llyfrau Ffotograffau

Posted on September 28, 2022

Sgwrs artist yn rhan o’r Ffair Llyfrau Ffotograffau

Bydd Peter Finnemore yn trafod esblygiad ei gorff newydd o waith dros 5 mlynedd a’i brosesau gweithio a dyfodd i greu’r arddangosfa a’r llyfr ffotograffau newydd – Looking for Signs. Sgwrs Gymraeg fydd hon.

Continue reading

Cystadleuaeth Ffotograffau Calan Gaeaf

Posted on September 22, 2022

Rydym yn cynnal cystadleuaeth ffotograffau Calan Gaeaf arswydus o Hydref y 1af!

Anfonwch eich ffotograffau mwyaf arswydus, iasoer a bwganllyd atom er mwyn cael cyfle i ennill pethau da gan Ffotogallery! Gallwch fod yn greadigol gyda gwisgoedd ac arbrofi gyda goleuadau i greu ffotograffau bendigedig o frawychus. Byddwn yn rhannu ein hoff rai ar y cyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod mawr – a bydd yr holl geisiadau wedi eu cynnwys mewn oriel ar-lein arbennig ar ein gwefan.

Anfonwch eich ceisiadau i [email protected] erbyn Dydd Mercher 26ain Hydref i gael cyfle i ennill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw ac o ble y dewch chi yn eich e-bost. Dim mwy na 2 gais fesul person.

Bydd y wobr gyntaf yn cynnwys bag cario, copi o lyfr Ffotogallery, Chronicle, bathodyn pin Ffotogallery a phrint o’ch ffoto mewn ffrâm. Bydd y rhai sy’n dod yn agos at ennill yn derbyn bathodyn pin Ffotogallery.

Continue reading

Looking for Signs

Posted on August 31, 2022

Lansio Llyfr: Dydd Iau 6 Hydref, 6pm

Ffair Lyfrau: Dydd Sadwrn 15 Hydref, 12-5p

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyflwyno gwaith Peter Finnemore ‘Looking for Signs’ mewn arddangosfa wib yn ein horiel yn Cathays, i ddathlu cyhoeddi ei lyfr ffotograffau newydd sy’n dwyn yr un teitl.

Ymunwch â ni o 6pm ar Ddydd Iau 6 Hydref i fwynhau’r digwyddiad swyddogol i lansio’r llyfr ac agor yr arddangosfa.

Mae’r corff hwn o waith yn brosiect ffotograffig a chelf destun unigryw, a wnaed ac a ysbrydolwyd gan ddau drip i India yn 2017 a 2018. Cafodd y cyntaf o’r rhain ei gomisiynu gan Ffotogallery yn rhan o’r Prosiect India a Chymru Dreamtigers, i nodi 70 mlynedd o annibyniaeth.

"Profiad o India drwy ffrâm ddangosiadol camera llaw yw Looking For Signs. Defnyddir y ciplun hwn i ddogfennu’n greadigol ac yn rhugl brofiadau a mannau cymdeithasol yr hunan, wedi eu gosod yn awyrgylch ac arena ddynamig India. Mae tiriogaeth artistig y gelfyddyd hon i’w chael mewn cyfarfyddiadau cymdeithasol haniaethol, darniog a dirfodol. Cyd-gyfarfod diflanedig ymddangosiadau a gwahaniad, lle mae’r hunan a rhywun arall yn cwrdd a chyfuno drwy fan cyfarfod y camera. Mae estheteg ciplun, gyda’i rwyddineb, ei ddiffyg hierarchaeth a’i ynni darluniadol wedi’i ddefnyddio yma drwy gyfrwng iaith eang celfyddyd gain, lle mae’r ystyr yn agored, wedi ei ehangu ac yn ansicr. Crëir y ffotograffau goddrychol hyn o deithio yn y meddwl, lle mae’r camera’n cyfryngu rhwng ymddangosiad, profiad a syniad. Yr hyn sy’n fy nghymell i yw profiad pererin nid twrist.

Agor amser a naratif sy’n digwydd yn y llyfr hwn, llif sinematig o ymddangosiadau. Mae’r synnwyr o symud a thaith wedi ei wreiddio hefyd yn y lluniau eu hunain lle mae cyfarfyddiadau cymdeithasol ag ymddangosiadau’n agor ‘fel sioe sy’n pasio’. Yn y fan yma, mae creu darluniau llawn mynegiant yn cyd-daro ac yn clymu â phenodolrwydd ac ecosystem cymunedau, diwylliant a drama lle.

Mae India yn ddiwylliant cymhleth, dynamig a goleuedig sydd â gwreiddiau dwfn, ac sy’n cynnwys deuoliaethau a chyferbyniadau cymdeithasol. Ochr yn ochr â’r profiad hwn o is-gyfandir India, mae hunanymwybyddiaeth o ddynameg y person ar y tu allan fel rhywun sy’n creu’r darluniau. Yr hyn sy’n cael ei ddathlu i’r un graddau yn y fan yma yw cyfarfyddiadau ag amrywiaeth fawr o ddelweddau, arteffactau ac arwyddion wrth iddynt gael eu cyflwyno, eu harddangos a’u profi mewn mannau cyhoeddus. Ar y cyd yma, maen nhw’n dangos cynrychiolaeth a’i gymhlethdod.”

- Peter Finnemore

Bydd Looking for Signs ar gael i’w brynu o siop lyfrau oriel a siop ar-lein Ffotogallery o 7 Hydref.

Continue reading

Ffair Llyfrau Ffotograffau

Posted on August 22, 2022

Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn 15 Hydref i fwynhau diwrnod o ddigwyddiadau sy’n dathlu’r llyfr ffotograffau. Byddwn yn dechrau am 11am gyda sgwrs arbennig yn y Gymraeg gan yr artist Peter Finnemore, ac yn hwyrach ymlaen o 2pm bydd yn cael cwmni Alejandro Acin, artist, dylunydd ac addysgwr, a sylfaenydd IC Visual Lab ym Mryste.

Rhwng 12 a 3.30pm mae gennym amrywiaeth gyffrous o stondinau i chi bori drwyddynt gyda gwerthwyr sy’n cynnwys Offline Journal, Nawr Magazine, 103 Books, iPigeon a mwy – a byddwch yn gallu prynu rhai o gyhoeddiadau Ffotogallery am brisiau gwych.

Mwy o fanylion i ddod!

Continue reading

Restore / Prosiect Change Makers

Posted on August 18, 2022

O 16 Medi, mae’n bleser mawr gennym allu arddangos canlyniadau artistig o ddau brosiect allgymorth cymunedol mewn partneriaeth ag Oasis Cardiff ac Engage Cymru yn yr arddangosfa dros dro hon yn ein horiel yn Cathays.

Restore – Prosiect Ffotograffiaeth gydag Oasis

Yn 2022, aeth Ffotogallery i bartneriaeth ag Oasis Cardiff i greu Restore, sef prosiect ffotograffiaeth sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Rhoddodd y prosiect gyfle i bobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau – o ddechreuwyr i bobl sy’n gobeithio sefydlu gyrfaoedd yn y maes ffotograffiaeth – i ymgysylltu â ffotograffiaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bu’r cyfranogwyr yn archwilio amrediad o arferion, technegau ac offer ffotograffig, o wneud montage ffotograffig, a thaith gerdded ffotograffig drwy Gefn Onn, i ddefnyddio camerâu tafladwy a thynnu lluniau portread ar gamerâu proffesiynol mewn stiwdio symudol. Cawsent eu cefnogi gan yr artist proffesiynol Tudor Etchells drwy gydol y broses.

Yn dilyn ei arddangosiad cyntaf yn Oasis Cardiff yn gynharach yn y flwyddyn, mae Ffotogallery’n falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n arddangos canlyniadau creadigol anhygoel y bobl a gymerodd ran.

Change Makers

Mae’r prosiect Change Makers yn ddull cydweithredol o arallgyfeirio’r gweithlu drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc fynd i mewn i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a datblygu.

Aeth Engage Cymru i bartneriaeth ag Eyst, Cardiff Fusion, Unify Artists Collective, Canolfan Mileniwm Cymru, Ziba Creative a Ffotogallery i gefnogi grŵp o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol yng Nghaerdydd i weithio tuag at eu Arts Award Efydd, sef cymhwyster Lefel 1 ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) sy’n agored i bobl ifanc 11 i 25 oed.

Cymerodd y grŵp o unigolion ifanc ran mewn amrywiaeth eang o brofiadau yn cynnwys gweithdai ymarferol gan artistiaid blaenllaw lleol; ymweliadau ag orielau a safleoedd celf dinesig; roedden nhw’n aelodau o’r gynulleidfa mewn sioe gerdd flaenllaw; cawsent ddysgu sut i gyflwyno sioe radio; a chawsent archwilio eu hoff fath o gelf dros raglen chwe mis. Cawsent fwynhau eu diddordebau eu hunain mewn amrywiaeth o gyfryngau a rhannu eu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid.

Pasiodd bob un eu Arts Award Efydd gyda graddau rhagorol ac mae Ffotogallery yn falch o allu rhannu eu canlyniadau creadigol gyda chynulleidfa ehangach drwy gyfrwng yr arddangosfa hon o’u gwaith terfynol.

Dyddiadau i’ch dyddiaduron:

Dydd Iau 15 Medi, 6 - 8pm – Dathliad Agoriadol Arddangosfa Oasis

Continue reading

Where Will I Be

Posted on August 02, 2022

Where Will I Be is an exhibition featuring two Welsh photographers, Walter Waygood and Huw Alden Davies, whose work is rooted in the place they come from, the South Wales Valleys, and revolves around their immediate family, friends and a colourful cast of local characters.

Walter Waygood, who photographed in Blaenafon and Merthyr in the late 1970s and early 1980s, sees 'beauty in the ordinary' and nobility in the lives of the people he grew up with, however mixed their fortunes turned out to be.

Arranged as a collection of photographs and short texts, Huw Alden Davies’ ‘Prince’ is a detailed and often humorous study of the artist’s father. The story unfolds in the village of Tumble, where Davies and his family still live.

Where Will I Be is part of a series of exhibitions and projects Ffotogallery is undertaking which explore social, cultural and environmental issues in the context of contemporary Wales. Our aim is to highlight the role of photography, as arguably the world’s most democratic and visible medium, to record current experiences as lived, and to represent the processes of social, economic and cultural transformation that inform Wales’ identity and its standing in the world.

Continue reading

in solution

Posted on August 01, 2022

Emerging from the economic and social fallout of the decline of the region’s heavy industries, communities in south Wales are re-defining themselves for a new future.

in solution offers a series of evolving and interconnected strands that explore the active processes and changing ideas of culture in contemporary society and the tensions between a local experience of place and an increasingly global world.

The work considers nuances and unseen particularities of community life, ranging from often overlooked processes of environmental change or rural development, to the various subtle systems that can be seen to affect 'lived' experience and inter-generational change. in solution also questions the complex histories and ideologies that impact on our lives and the way in which ideas and systems become more or less dominant with the passing of time.

“Structures of feeling can be defined as social experiences in solution. 'Feeling' is chosen to emphasize a distinction from more formal concepts of 'world view' or 'ideology'. It is not only that we must go beyond formally held and systematic beliefs, though of course we always have to include them. It is that we are concerned with meanings and values that are actively lived and felt, and the relations between these and formal or systematic beliefs [Raymond Williams, Marxism and Literature 1977]

This new Ffotogallery commission, supported by the Arts Council of Wales and Caerphilly County Borough Council, reflects Barnes’ work over the last four years. As a continuation of his long-term preoccupation with life and history in the region, in solution explores the competing forces that shape social identity and cultural change.

Continue reading

Bi Nam

Posted on August 01, 2022

Artists: Raz Golestani, Hadise Hosaini, Mehregan Kazemi, Amak Mahmoodian, Sharare Mossavi, Raoofe Roostami, Mohsen Shahmardi, Arya Tabandepoor, Mohsen Yazdipoor

Bi Nam
is a group exhibition representing the work of nine contemporary Iranian photographers. The photographic and video content of the exhibition explores the cultural and social life of modern Iran, with an emphasis on religion, gender and identity. Using a structure that evokes the classic Middle Eastern collection of stories One Thousand and One Nights, Bi Nam explores the subtleties of everyday life in contemporary Iran and specific codes of conduct that influence a person’s mood, behaviour, relationships and sense of self. There is an undertone of sadness and longing, but also one of beauty, love and devotion. Amak Mahmoodian, one of the participating artists and the exhibition curator, describes the exhibition as ‘quiet thoughts from modest photographers for whom the essence of culture is in the display of their works.’

Originally exhibited at Ffotogallery’s Turner House in Penarth in 2012, Bi Nam will be travelling to Bristol Student’s Union, opening on Thursday 8th April. In conjunction with IC-Visual Lab and Bristol University, there will be an event towards the end of the exhibition, an evening with Danish-Iraqi artist Lina Hashim, and Amak Mahmoodian. The event will be held on Friday 29th April, from 7pm. Tickets cost £4 / £2 for ICVL members (payment on the door).

Continue reading

IN TRUST - Reframing Wales' Stories

Posted on August 01, 2022

In July 2014, Lithuanian photographer Arturas Valiauga visited four National Trust properties in Wales as part of his European Prospects residency with Ffotogallery. At Dyffryn Gardens, Tredegar House, Plas Newydd and Penrhyn Castle he encountered the private and public faces of these historic places and the men and women who make up the community of people who look after them today. Thanks to the generous access granted by the National Trust Wales and the help given by its staff and volunteers, Valiauga was able to explore the four houses in all their aspects – behind the scenes and after closing time. His images encapsulate a moment in time in the lives of these places, which have since outlived those who built them. His quiet, poetic photographs celebrate the commitment of the people who ‘serve’ these houses and offer us a privileged insight.

Exhibition opening times:

16 April - 29 May 2016

We would like to thank the National Trust Wales for their generous support of this project, and the Lithuanian Cultural Institute and the Embassy of the Republic of Lithuania, London.

Continue reading

Adopted Welsh

Posted on July 30, 2022

What does it mean to be Welsh? If you want to integrate into the Welsh community, what should you wear, and how do you need to behave to be accepted?

These are some of the questions posed by Russian artist Jana Romanova in this body of work Adopted Welsh.

Developed as part of a Ffotogallery residency in 2015 within the European Prospects international programme, Romanova crowd sourced ideas, calling out to people across Wales with the question “If I was to become Welsh, what would my future here look like?”

Travelling across Wales, she did exactly what people suggested she should do – sing in a choir, play and watch rugby, join a historical re-enactment society, become a local schoolteacher.

This first exhibition of the resulting work shows in warm, and often hilarious, terms what it means for a Russian woman to become ‘adopted Welsh’. The exhibition will be presented in a new temporary city centre venue and Ffotogallery is delighted be partnering with Cardiff Contemporary for their third citywide festival with the theme “Communication”.

David Drake, Ffotogallery’s Director, comments

“Hailing from St Petersburg, Jana Romanova is a very exciting photographic artist and we are proud to be presenting her work during Cardiff Contemporary 2016. With a highly participatory approach, alongside her photography and video work the artist uses her own body and performance, questioning her own identity and exploring the different roles photography plays within our society”.

Continue reading

Dyma Fi!

Posted on July 13, 2022

Dyma Fi! Diwrnod o Weithdai Creadigol o Amgylch Thema Hunaniaeth

Mae Ffotogallery yn cynnal diwrnod cyfan o weithdai creadigol ar Ddydd Sadwrn 6 Awst o amgylch y thema Hunaniaeth. Trwy wneud gweithgareddau ymarferol, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i fynegi eu hunain go iawn mewn lle diogel.

Byddwn yn darparu’r holl ddefnyddiau, dŵr a diodydd poeth.

Gweithdai ac amseriadau:

11am - 1pm Gweithdy Gwneud Vignettes

1 - 3pm Gweithdy Gwneud Bathodynnau

3 - 5pm Gweithdy Gwneud Sînau

Gweithdy Gwneud Vignettes

Bydd Cath (Ffotogallery) yn cynnal y gweithdy creadigol hwn o amgylch themâu hunaniaeth. Gan ddefnyddio bocs golau bach fel safle, byddwn yn creu ein bydysawdau bach ein hunain drwy adeiladu vignettes o ffotograffau a collage. Gallwch ddewis o amrywiaeth o gefndiroedd parod a phropiau i gynnig lle sy’n dweud wrth y byd amdanoch chi! Mae croeso i chi ddod ag unrhyw ffotograffau bach gyda chi i ychwanegu at eich darn hefyd. Yna byddwn yn defnyddio ein ffonau i ddangos y bydoedd bach yma mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn fwy real fyth.

Gweithdy Gwneud Bathodynnau

Amlinelliad o’r gweithdy: Ymunwch â Reg o SPAF Collective i glywed am rai o’i hoff fathodynnau cwiar, gwleidyddol, protest ac amrywiol rai eraill o’r degawdau diwethaf. Mae croeso chi wneud eich bathodynau DIY grŵfi eich hun i ddathlu Pride, llorio’r llywodraeth, neu beth bynnag y dewiswch chi! Dewch ag unrhyw bapurau newydd neu effemera papur tenau gyda chi yr hoffech eu rhoi fel collage ar fathodyn.

Gweithdy Gwneud Sînau

Bydd Joshua Jones yn cynnal gweithdy gwneud sînau am hunaniaeth. Bydd cyfranogwyr y gweithdy’n ystyried sut i fynegi ac archwilio eu hunaniaeth drwy ddelweddau mewn collage ac yn ystyried sut i ymgorffori testun a deunyddiau. Bydd rhai defnyddiau’n cael eu darparu, yn cynnwys siswrn, glud a phapur, ond mae croeso i chi ddod â’ch defnyddiau collage eich hun.

Continue reading

Paratoi’r Ffordd: Sut mae Hanes LHDTQ+ wedi Dylanwadu ar Gymuned Heddiw

Posted on July 13, 2022

Mae Ffotogallery yn falch iawn eich gwahodd i drafodaeth panel arbennig iawn yn rhan o’n Rhaglen ‘Dathlu Pride yn Ffotogallery’ drwy gydol mis Awst.

Bydd Paratoi’r Ffordd: Sut mae Hanes LHDTQ+ wedi Dylanwadu ar Gymuned Heddiw yn rhoi’r cyfle i ni ystyried sut mae’r bobl hynny a frwydrodd am y cydraddoldeb sydd gennym heddiw wedi helpu i siapio’r tirlun LHDTQ+ modern – o ddileu Adran 28, i gydraddoldeb priodasau, ac i’r iaith a ddefnyddiwn.

Mae’n anrhydedd fawr iawn gennym gael cwmni’r hanesydd Norena Shopland i arwain, a’r panelwyr Lisa Power, sylfaenydd Stonewall; Yan White o The Queer Emporium Caerdydd; a Paris Tankard, Ffotograffydd Queer People Of Colour ac Enillydd Gwobr y Gymdeithas Ffotograffwyr 2022.

Mae hon yn addo bod yn noson ddiddorol, lawn gwybodaeth, o sgyrsiau i’ch ysbrydoli ac estynnwn groeso i chi ei rhannu â ni.

Ymunwch â ni yn ein horiel ar Ddydd Iau 18 Awst o 6-8pm.

Mae’r lleoedd am ddim a byddem yn eich cynghori i gofrestru drwy’r ddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Continue reading

Cydweithfa Ar Dy Wyneb Sgyrsiau Artistiaid

Posted on July 13, 2022

**Yn fyw yn Ffotogallery ac ar-lein**

Trafodaeth rhwng 2 ffotograffydd sydd wedi eu seilio yng Nghymru. Mae gwaith y ddau’n ymateb i’r themâu sy’n gysylltiedig â’r profiad o fod yn artistiaid cwiar sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac yn Rwmania.

Byddwn yn archwilio pwysigrwydd dogfennu cyfarfyddiadau yn y mannau hyn, ond gan gael y rhyngweithio anochel mewn dinasoedd hefyd at ddiben gweithio a chysylltu â’r cymunedau cwiar mwy eu maint.

Mae Oros yn trafod archwilio perthnasoedd drwy’r lens, gan ddogfennu themâu cyfeillach, hunaniaeth ac effaith a goblygiadau technoleg o ran cysylltu cymunedau cwiar â’i gilydd yn y cyfnod hwn yn dilyn y pandemig.

Bydd ffocws Davies ar archwilio sut brofiad yw dychwelyd i fyw yng Nghymru a chanfod mannau cwiar newydd ar ôl byw a gweithio yn Llundain, gweld a chanfod ardaloedd gwledig gan archwilio deuoliaeth delweddau analog a digidol, a sut brofiad yw bod ar-lein ac all-lein.

Continue reading

Queer Flicks

Posted on July 11, 2022

Yn rhan o’n rhaglen o ddigwyddiadau sy’n para mis i ddathlu Pride yn Ffotogallery, byddwn yn cynnal noson o ffilmiau byr gyda themâu LHDTQ+ ar Ddydd Gwener 12fed Awst.

Ymunwch â ni i fwynhau noson sy’n dathlu’r straeon a’r ddawn ryfeddol a welwn yn y ffilmiau byr hyfryd hyn! O wneuthurwyr ffilmiau a chyfarwyddwyr i artistiaid annibynnol a cherddorion gwych, mae gennym gynnig sy’n siŵr o gyffroi, difyrru ac ysbrydoli!

Cydiwch yn eich popgorn ar y ffordd i mewn a gwnewch ein hun yn gyfforddus i fwynhau noson o ffilmiau amgen.

Mewn cydweithrediad â Iris Prize, Auntie Margaret, Winding Snake, Dead Method a On Your Face Collective.

Y ffilmiau sy’n dangos:

Leaf Boat (7m50)

Silent Pride (5m29)

Three Letters (7m09)

Pridewide (1m02)

Femme (3m49)

Community (4m07)

Followers (12m13)

Betrayal Cycle (3m57)

Skinny Fat (5m22)

Gwledig, Radical a Queer: Ffilm Ddogfen On Your Face (20m)

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac, er nad yw’n hanfodol, byddem yn awgrymu eich bod yn archebu lle.

Continue reading

Altered Images

Posted on July 05, 2022

Altered Images: Gweithdy diwrnod cyfan yn archwilio prosesau ffotograffig arbrofol o amgylch y thema ‘hunaniaeth’ gyda Michal Iwanowski yn Ystafelloedd Tywyll y Golchdy yn Stiwdios Made In Roath ar Ddydd Sadwrn 20fed Awst.

Thema’r gweithdy fydd archwilio lliw a ffurf mewn prosesau argraffu di-gamera detholedig, o ffotogramau unlliw, i cyanoteipiau, i anthoteipiau a fydd yn defnyddio defnyddiau naturiol sy’n tyfu yng ngardd Made in Roath. Byddwn yn ceisio defnyddio amrywiaeth o blanhigion ar mwyn cynnwys holl liwiau’r enfys, yn dibynnu ar y fflora sydd ar gael yn yr ardd. Ond gan ddefnyddio cyanoteipiau a thyrmerig o leiaf bydd gennym y melyn a’r glas i greu baner Wcráin.

Bydd y gweithgareddau ymarferol hyn yn cynnwys: Cyflwyniad i’r gweithdy (enghreifftiau o’r gwaith y byddwn yn ei wneud, sut i ddefnyddio’r ystafell dywyll yn ddiogel, iechyd a diogelwch, ac amserlenni).

Yna byddwn yn gweithio drwy dair proses:

1. Ffotogramau

2. Cyanoteipiau

3. Anthoteipiau

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw am fod y lleoedd yn gyfyngedig.

Continue reading

Dathlu Pride yn Ffotogallery

Posted on July 05, 2022

Trwy gydol mis Awst, bydd Ffotogallery yn cynnal rhaglen wych o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu a rhoi llwyfan i’r gymuned LHDTQ+.

Mae ein rhaglen, a fydd yn para am fis, yr un mor amrywiol â’r gymuned yr ydym yn ei dathlu ac yn siŵr o gynnig rhywbeth i bawb. Mae gennym weithdai creadigol, trafodaethau, sgyrsiau gan artistiaid, ffilmiau a llawer iawn mwy ar y gweill, gyda ffocws ar bynciau LHDTQ+.

Dyma rai o uchelbwyntiau’r rhaglen:


Bydd The Queer Emporium yn meddiannu ein siop am y mis cyfan hefyd.

Mae pob digwyddiad am ddim.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn hir gyda manylion am ddigwyddiadau eraill.

Disgwyliwch weld pobl yn meddiannu Instagram drwy gydol y mis hefyd.

Continue reading

More Than A Number yn WOMAD

Posted on July 04, 2022

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd More Than A Number yn cael ei arddangos ar nifer o wahanol safleoedd yn Malmesbury yn rhan o’r 40fed gŵyl WOMAD 2022. Cafodd More Than A Number ei ddangos yn gyntaf yn ystod Gŵyl Diffusion y llynedd, ac mae’n dangos gwaith deuddeg artist o ddeg gwlad Affricanaidd, dan ofalaeth Cynthia MaiWa Sitei. Bydd y gwaith yn cael ei ddangos mewn tri safle gwahanol – Caerbladon, Llyfrgell Malmesbury a’r Abaty – ac mae’r arddangosfa’n rhedeg o 20 – 30 Gorffennaf, gyda digwyddiad lansio ar Ddydd Gwener 22 Gorffennaf, 5-7.30pm, yn cychwyn yn y Llyfrgell.

Gallwch weld rhagor o fanylion ar wefan Caerbladon yma, a gallwch ddarllen rhagor am yr arddangosfa isod.

Continue reading

Lluniau Ohonot Ti – Taith Gerdded Ffotograffig am Hunaniaeth

Posted on June 27, 2022

Ar Ddydd Sul 14 Awst, ymunwch ag Aaron Lowe am 2pm yn y Queer Emporium pan fyddent yn eich tywys ar daith gerdded ffotograffig o amgylch canol Caerdydd. Bydd y tro’n canolbwyntio ar thema Hunaniaeth, ac yn eich gwahodd i edrych ar y ddinas hon o safbwyntiau newydd.

Dewch â’ch camerâu a’ch creadigrwydd!

Mae’r tro yn rhad ac am ddim ond rhaid i chi gadw lle drwy: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Mae 12 lle ar gael. Gwisgwch esgidiau synhwyrol a chofiwch eich hufen haul os bydd hi’n boeth. Os oes gennych gamera da, gwych! Ond os mai dim ond camera eich ffôn sydd gennych, bydd hynny’n hollol iawn.

Mae’n rhaid i chi fod yn 16+

Cyfarfod yn y Queer Emporium
2 - 4 Yr Arcêd Brenhinol
Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1AE

Continue reading

Y Gofod Domestig mewn Ffotograffiaeth a Chelf

Posted on June 24, 2022

Ar nos Iau 28 Gorffennaf, byddwn yn cynnal trafodaeth panel i archwilio themâu’r gofod domestig mewn ffotograffiaeth a chelf. Bydd yr artistiaid Dafydd Williams, Rosy Martin a John Paul Evans yn ymuno â ni ar y panel. Mae pob un o’r artistiaid hyn yn archwilio themâu tebyg yn eu gwaith eu hunain drwy amrywiol ddulliau.

Byddem wrth ein boddau’n eich croesawu chi am noson o sgwrsio llawn ysbrydoliaeth rhwng 6 ac 8pm yn ein horiel hyfryd yn Cathays.

Mae What is lost… what has been yn arddangosfa solo o waith ffotograffig gan yr artist o Gymru John Paul Evans, sy’n digwydd yn Ffotogallery o 17 Mehefin hyd 3 Medi 2022.

Mae’r casgliad hwn o gyfresi John Paul Evans, sy'n cael eu harddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf, yn gofyn cwestiynau am berthynas ffotograffiaeth gyda chof, cariad, colled a chynrychiolaeth.

Gan weithio gyda’i bartner Peter, mae’r artist yn defnyddio portreadu perfformiadol, bywyd llonydd a collage i ailddychmygu mannau cyhoeddus a domestig. O ddelweddau manwl sydd wedi eu hadeiladu’n ofalus i ddogfennu cymyl-luniau yn ystyrlon, mae’r gwaith yn chwareus ac hefyd yn ingol o dyner. Mae gwaith John Paul Evans yn ein hatgoffa o’r traddodiadau gweladwy, a’r strwythurau cymdeithasol a all fod yn anweladwy, sy’n eithrio grwpiau sy’n dioddef gorthrwm, gan gynnwys y gymuned LGBTQIA+ a nifer o grwpiau eraill hefyd.


Byddem yn argymell eich bod yn archebu ar Eventbrite, ond nid yw hynny’n hanfodol, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Continue reading

Wythnos Ffoaduriaid: Arddangosfa Ffotograffiaeth Restore yn Oasis

Posted on June 14, 2022

Mae Oasis Caerdydd a Ffotogallery yn eich gwahodd i "Restore", sef arddangosfa ffotograffiaeth sy’n arddangos y dalent sy’n datblygu yng Nghymru.

Rydym wedi creu corff o waith ar gyfer yr arddangosfa a bwriadwn ei chymryd ar daith o amgylch Cymru yn y misoedd sy’n dod. Cafodd hon ei chreu gan Ffotogallery ac artistiaid gweledol o amgylch y byd, a bydd y dangosiad cyntaf yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid.

Cafodd y gwaith ei greu gan ffotograffwyr sydd â phrofiad byw o’r Broses Lloches, felly mae’r gwaith yn archwilio’r themâu hyn heb esboniad, yn ogystal â syniadau am ddechrau o’r newydd, cartrefi newydd a bywydau newydd.

Mae’r arddangosfa yn debygol o ehangu dros amser, gan gyfeirio at ragor o themâu a dweud gwahanol straeon, am fod hwn yn gorff parhaus o waith.

Mae’n bleser mawr gennym barhau ein partneriaeth ag Oasis yn rhan o’n rhaglen ymgysylltiad cymunedol.

Bydd Restore ar gael i’w fwynhau o Ddydd Mawrth 21 Mehefin hyd Ddydd Gwener 24 Mehefin 10am - 4pm (8pm ar Ddydd Gwener) ac yn digwydd yn Oasis Cardiff, 69b Splott Rd, Y Sblot, Caerdydd CF24 2BW

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Continue reading

Sesiwn Holi ac Ateb: Dewis Gymunedau

Posted on June 13, 2022

Oes gennych chi ddiddordeb mewn canfod rhagor am alwad agored Ffotogallery a Chennai Photo Biennale, Dewis Gymunedau, a wnaed yn bosibl gan y British Council?

Ymunwch â ni i gael sesiwn Holi ac Ateb anffurfiol ar zoom ar Ddydd Gwener 17eg Mehefin, am 12.30 pm GMT neu 5pm IST.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Dymor Diwylliant India/DU Ynghyd gan y British Council sydd newydd ei gyhoeddi, sy’n dathlu’r berthynas hirsefydlog rhwng y ddau.

---

Ar hyn o bryd, rydym yn dechrau ailfeddwl am ein syniadau o gymuned, a chydgyfrifoldeb a gofal. Er bod digwyddiadau’r byd heddiw’n ymddangos mor dorcalonnus, mae’r ddynoliaeth wedi cymryd camau breision ymlaen o ran goddefgarwch, cynhwysiad, a chydraddoldeb. Am ein bod yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol dramatig, mae rhai ohonom yn teimlo’n fwy dewr i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau dirfodol – Ydyn ni’n perthyn i un gymuned, neu i nifer? Oes gennym y fraint o ddewis ein cymunedau neu oes raid i ni ddilyn y dewisiadau sy’n cael eu gwneud i ni?

Estynnwn wahoddiad i artistiaid amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda chyfryngau’r lens, ffotograffiaeth a ffilm i ymholi ymellach i’r syniad o ‘Ddewis Gymunedau’.

Mae’r alwad agored hon am artistiaid a chydweithfeydd sy’n defnyddio eu celf i greu a datblygu cyrff o waith sy’n mynegi eu barn a’u sylwadau ynglŷn â pherthyn a chynhwysiad. Rydym yn croesawu cyflwyniadau am y themâu a ganlyn (ond mae croeso i themâu eraill hefyd):

Mae’r cyfle hwn yn agored i bawb ac anogwn geisiadau’n arbennig gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Continue reading

Gŵyl Gerddoriaeth MADE UP

Posted on April 25, 2022

Rydym wedi mynd i bartneriaeth â MADE Caerdydd i gynnal eu digwyddiad cerddoriaeth fyw mawr cyntaf ers y pandemig! Mae’r ŵyl MADE UP yn cyflwyno tri diwrnod o gerddoriaeth, barddoniaeth a phethau ysblennydd i’w gweld a’u gwylio, i ddathlu electro, roc glam, gwerin a jazz brodorol. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos barddoniaeth a gwaith gwneud ffilmiau drwy gyfresi gair llafar, gweithdai a riliau gweledol, ynghyd â pherfformiad unigryw gan VJ Chameleonic sydd wedi eu seilio yng Nghaerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y perfformwyr ac i archebu eich tocynnau penwythnos a thocynnau prynwyr cynnar ar-lein, gallwch naill ai ddefnyddio’r ddolen isod neu brynu tocynnau yn siop MADE Caerdydd ar Stryd Lochaber, Cathays.

I ganfod rhagor: https://cardiffmade.com/made-up-festival

Continue reading

What is lost...what has been

Posted on April 25, 2022

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 16 Mehefin, 6-9pm

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno What is lost…what has been, sef arddangosfa solo o waith ffotograffig gan yr artist o Gymru Paul Evans, a fydd yn rhedeg rhwng 17 Mehefin a 3 Medi 2022.

Yn ei arddangosfa What is lost... what has been mae’n archwilio’r broses hunan-ethnograffig o weu’ch hanes personol yn ddeialog gweledol yn ffordd fuddiol o edrych ar duedd ffotograffiaeth tuag at goffáu a hefyd ddadansoddi syniadau am berthyn/arwahanrwydd, galar a phrudd-der mewn cysylltiad â’r albwm ffotograffig teuluol.

Ysgrifennodd John Paul Evans:

“Ymson weledol yw What is lost …what has been i ‘gyfeillion absennol’, pobl a ystyriwn i fel teulu. Mae’r gweithiau hefyd yn goda i’m gosodwaith in the sweet bye & bye oedd yn gathecsis ffotograffig mewn ymateb i farwolaeth fy ffrind agosaf ym mis Rhagfyr 2017. […] Mae’r cysyniad o goffâd yn arbennig o berthnasol i ffotograffiaeth. Rydym yn ceisio cadw cofnod o’n hanwyliaid drwy’r ennyd ffotograffig, ond y cwbl y mae’r cais i rewi/cipio/ynysu amser yn ei wneud yw tystio i’r ffaith bod y foment hon wedi pasio, ‘mae hwn wedi bod’.

Sylwadau Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotogallery:

“Mae’n bleser mawr gen i gael y cyfle i arddangos gwaith gwych John Paul yn yr arddangosfa gyntaf yn fy rôl newydd fel Cyfarwyddwr. Yn dilyn ei gyfnod llwyddiannus yn Oriel Mission yn Abertawe, bydd What is lost…what has been yn cael ei ehangu yn Ffotogallery i gynnwys rhai gweithiau ychwanegol a fydd yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Yn cyd-fynd â’r arddangosfa bydd rhaglen o ddigwyddiadau a chydweithio ag artistiaid, grwpiau a chymunedau LHDTQ+ lleol.”

Continue reading

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Posted on April 08, 2022

Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i’r DU gyfan ganolbwyntio ar gael iechyd meddwl da.

Yn 2022, mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn digwydd ar 9-15 Mai ar y pwnc ‘Unigrwydd’.

Mae unigrwydd yn effeithio ar nifer gynyddol ohonom ni yn y DU ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pandemig. Mae ein cysylltiad â phobl eraill a’n cymuned yn hanfodol er mwyn diogelu ein hiechyd meddwl ac mae angen i ni ganfod gwell ffyrdd o ymdrin â’r epidemig o unigrwydd. Gallwn oll chwarae rhan yn yr ymdrech hon ac, yn Ffotogallery, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am bedwar diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau sydd â ffocws ar les meddyliol ac unigrwydd.

Ar nos Fercher yr 11eg, nos Iau y 12fed a Nos Wener y 13eg, byddwn yn cynnal sgyrsiau gan artistiaid. Bydd ein ffotograffwyr yn rhannu ac yn trafod gwaith sydd â ffocws ar iechyd meddwl a lles. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y ffordd maen nhw’n defnyddio eu delweddau i gyfleu anawsterau iechyd meddwl, y problemau a’r ffactorau dylanwadol sy’n gallu effeithio ar ein hiechyd a’n lles a rhannu eu straeon eu hunain.

Byddai’n syniad da i gofrestru ar gyfer ein sgyrsiau ag artistiaid. Dyma restr o ddigwyddiadau’r wythnos:

Dydd Mercher 11 Mai, 6-8pm – Sgwrsio â Suzie Larke, a dangos y ffilm fer Unseen (Wyneb yn wyneb yn Ffotogallery)

Dydd Iau 12 Mai, 6-8pmSgwrsio â Jo Haycock a’i Theulu (Wyneb yn wyneb yn Ffotogallery) Bydd gennym westeion agored i niwed gyda ni felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr wisgo masg lle bo modd yn ystod y digwyddiad hwn.

Dydd Gwener 13 Mai, 6-8pm – Sgwrsio ag Iko-Ojo Mercy Haruna a Nelly Ating, dan arweiniad Cynthia Sitei (Digwyddiad ar-lein)

Ar Ddydd Sadwrn y 14eg byddwn yn cynnal diwrnod cyfan o weithgareddau sydd â ffocws ar wella ein lles ac ymdrin ag unigrwydd. Bydd gennym gelf a chrefft a gweithgareddau hwyliog a fydd yn eich ymlacio drwy gydol y prynhawn. Rhagor o fanylion i ddilyn.

Continue reading

Digwyddiad Cloi - Tro a Sgwrs / Sgrinio ffilm

Posted on March 18, 2022

Ymunwch â ni i fwynhau prynhawn o ddigwyddiadau arbennig i nodi diwrnod olaf ein harddangosfa bresennol gan Edgar Martins, “What Photography and Incarceration Have In Common With an Empty Vase”, ar Ddydd Sadwrn 9 Ebrill o 1pm.

Byddwn yn dangos ffilm Martins The Life and Death of Schrödinger’s Cat i gyd-fynd â’r arddangosfa. Mae’r elfen o ffilm yn y prosiect hwn yn defnyddio dilyniant o ffotograffau, sy’n atgoffa rhywun yn gryf o ddarluniadau a dogfennaeth wyddonol, a’r llyfr ffotograffau gwych o 1977 gan Larry Sultan a Mike Mandel, Evidence.

Y gwahaniaeth gydag Evidence yw nad lluniau yn unig a welwn. Mae ffotograffau Martins mewn dilyniant i gyd-fynd â stori fawreddog sydd wedi ei seilio ar gydweithrediad â’r ffisegwr adnabyddus o Bortiwgal sy’n wyddonydd yn CERN, João Seixas, ar garchar a adeiladwyd i roi’r absenoldeb mwyaf posibl i’w garcharorion o’r gymdeithas.

Nodwch os gwelwch yn dda, bydd y ffilm yn cael ei dangos yn ein llyfrgell ac felly mae’r lleoedd yn gyfyngedig. Mae gofyn cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae tocynnau ar gael yma.

Bydd Martins yn ymuno â ni’n bersonol i arwain taith “Tro a Sgwrs” o amgylch yr arddangosfa gyfan am 2pm ac eto am 4pm i roi cipolwg i ni ar ei feddwl yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau.

Dyma drefn y prynhawn:

Sesiwn 1:

1:00pm - The Life and Death of Schrödinger’s Cat

(ffilm, 21 munud, llyfrgell)

2:00pm - Tro a Sgwrs gydag Edgar Martins

(wyneb yn wyneb, tua 1 awr, y brif oriel)

Sesiwn 2:

3:00pm - The Life and Death of Schrödinger’s Cat

(ffilm, 21 munud, llyfrgell)

4:00pm - Tro a Sgwrs gydag Edgar Martins

(wyneb yn wyneb, tua 1 awr, y brif oriel)

Continue reading

Noson o ffilmiau byrion gan artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru

Posted on February 25, 2022

Rydym yn cynnal noson o ffilmiau byrion gan artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru ar ein sgrin fawr yn ein horiel hyfryd ar Ddydd Gwener 11 Mawrth, 6-9pm. Mae ein cynnig yn cynnwys ffilmiau dogfen, fideos o’r archif, ffuglen, ffilmiau artistiaid o’u gwaith ac am eu bywydau. Mae’n addo bod yn noson ardderchog o ffilmiau a fydd yn dangos rhai o’r bobl greadigol wych sydd i’w cael yma yng Nghymru. Byddai’n braf gan Ffotogallery eich gweld chi yno’n ymuno â ni am y noson a, peidiwch â phoeni, bydd gennym y popgorn yn barod i chi!

6.15pm rise Only beGun - Onismo Muhlanga

6.30pm School Bus Melancholia - Stephen George Jones

6.45pm What Comes Next? - John Crerar

7.10pm The Betrayal Cycle - João Saramago

7.15pm Tripping Through Newport’s Underbelly - Marega Palser

7.25pm The Coat Of Radical Kindness - Naz Syed

7.30pm My Brief Eternity - Claire Sturgess

7.45pm Ancestor Mewn Golau - Onismo Muhlanga

7.50pm Staying/Aros Mae - Zillah Bowes

8.15pm Quilt of Friendship - Lost Connections

8.20pm Unseen - Ian Smith / Auntie Margaret

8.40pm Resurrection - Onismo Muhlanga, Pierre Gashagaza & Jordan Wilson-Alexander


My Brief Eternity - Claire Sturgess

Mae My Brief Eternity yn dogfennu’r broses o greu gwaith artistig olaf Osi Rhys Osmond, y dewisodd ei greu i elusen canser Maggie's.

Mae’r ffilm yn archwilio myfyrdodau Osi am rym celf – ei rôl a’i harwyddocâd yn ei fywyd, ac mor werthfawr ydyw wrth geisio ymdopi a byw gyda chanser. Mae’n rhoi portread personol o feddylfryd yr artist, ei feddyliau a’i deimladau wrth iddo archwilio celf fel prism ar gyfer cofnodi bywyd, a’r broses greadigol fel trosiad am fyw a marw.


The Betrayal Cycle - João Saramago

Mae craith yn brawf byw o ddigwyddiad anodd ond mae hefyd yn atgof o’r hyn a fu a’r hyn y gallwn ei oddef.

Mae The Betrayal Cycle yn gyfres newydd sbon o ymyraethau, o drwsio ac atgyweirio’r dirwedd ddifrodedig a ddogfennwyd i ddatgelu gweithredoedd o frad y ddynoliaeth ac afreswm y fodolaeth ddynol, wedi eu rhannu’n stori strwythuredig i arddangos problemau amgylcheddol fel cyfeiriad awgrymiadol at gysylltiadau personol a chlos.


What Comes Next -John Crerar

Mae What Comes Next? Yn gyfuniad sinematig sydd wedi ei greu’n gyfan gwbl o fideo dogfennol amatur isel ei gost a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel ac yn arwain at, ac yn cynnwys, dathliadau Gŵyl Prydain yn 1951. Mae’r theatr hon o fywyd pob dydd yn rhoi cipolwg i ni ar leoliadau a bywydau oedd, er eu bod yn fân bethau ynddynt eu hunain, yn symbolaidd o ruthr eang o newid a weddnewidiodd wyneb Cymru yn y pen draw a chyflwyno cyfnod o ddiwygiad cymdeithasol, ail adeiladu a moderniaeth ar gefndir o lymder economaidd. Cafodd ei ysbrydoli’n wreiddiol gan ffilmiau dogfennol yr 1920au, a diben y ffilm yw rhoi cipolwg ar yr heriau a wynebwyd gan gymunedau dosbarth gweithiol Cymru oedd yn brwydro i adeiladu dyfodol gwell gan hefyd fyfyrio ar etifeddiaeth gorffennol trefedigaethol Prydain sydd, hyd heddiw, yn parhau i daflu’r cysgodion tywyllaf.

Staying/Aros Mae - Zillah Bowes

Mae Staying / Aros Mae yn ffilm ffuglen fer gan Zillah Bowes yn ffres o’i chyfnod llwyddiannus yn y gwyliau ffilm rhyngwladol lle enillodd wobrau yn Encounters ac Angers Premiers Plans, ymysg eraill. Mae wedi ei seilio yng Nghaerdydd a Chanolbarth Cymru, ac mae’n serennu’r actores a’r gantores o 9Bach, Lisa Jên Brown ac yn cynnwys aelodau o gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed, y mae eu dull o fyw yn newid oherwydd yr argyfwng hinsawdd, Brexit ac economi’r DU. Mae’r un gymuned o bobl i’w gweld yng ngwaith Bowes, Green Dark, a arddangoswyd yn Ffotogallery y llynedd.

Mae Ruth, rheolwr oriel newydd ysgaru, wrth werthu ei chartref yn y ddinas, yn gweld fideo o gi defaid, Mick, ar werth. Mae hi’n ymweld â’r ffermwr Huw a’i wraig Megan yn y bryniau anghysbell.

Unseen - Ian Smith/Auntie Margaret Films

Wrth iddi dynnu lluniau pobl sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl, mae’r ffotograffydd adnabyddus, Suzie Larke, yn cael blwyddyn emosiynol anodd yn gwylio marwolaeth araf ei thad. A fydd yn dal yn fyw ar gyfer ei harddangosfa a beth fydd yn dod â hi drwyddi?

The Coat Of Radical Kindness - Naz Syed

Mae The Coat of Radical Kindness yn adlewyrchu’r creadigedd a gafwyd a’r cysylltiadau a wnaed dros y cyfnod clo. Mae’r gôt wedi ei chreu o fwy na 300 pom pom ac mae’n ymgorfforiad lliwgar a chyffyrddol o freuddwydion creadigol. Mae’n cynnwys lleisiau’r gymuned a rannodd eu straeon a'u celf ac mae pob pom pom yn symboleiddio atgof a gweithred fach o garedigrwydd. Mae gwneud gwaith crefft yn fath o ddihangfa ac yn fy nghymryd yn ôl i atgofion fy mhlentyndod. Cefais fy ysbrydoli gan yr enfysau yn fy stryd i symboleiddio gobaith. Mae egni’r gôt yn pasio cwtsh gynnes ymlaen, yn llawn swyn a llawenydd!

Rhan o Our Creative Space, sy’n cofnodi’r creadigedd yn Rhanbarth Caerdydd, Caerdydd Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru. Ffilmiwyd gan Creative Fez

Ancestors Mewn Golau - Onismo Muhlanga

Cafodd ein cartref ni ein hunain ei osod ar sylfeini ein hynafiaid. Mae’r profiadau a wynebwn, yr enydau a rannwn, yr haul yn y bywyd yr ydym yn byw drwyddo, oll yn gysylltiedig â’r golau ar y llwybr sydd wedi ei baratoi i ni. Mae Ancestors mewn Golau yn welediad prydferth sy’n cyfuno cynnwys fideo wedi ei recordio gyda darnau ffilm o’r archifau a lluniau symudol a ganfuwyd, ac mae gwaith Muhlanga yn cyfuno cerddoriaeth a symudiad i gymryd y gwylwyr ar daith o ysbryd, treftadaeth ac atgofion ymgorfforedig.

rise Only beGUN - Onismo Muhlanga

Mae’r darn hwn yn llawn o welededd o gryfder, arweinyddiaeth, uchelgais, gwydnwch a champweithiau pur Andrew drwy holl gerrig filltir taith ei fywyd hyd yn hyn. Mae’n arwain rôl fel Gweinidog Cyfiawnder Ieuenctid sy’n deillio o’i gyfranogaeth, ynghyd â’i ddehongliad, o Ymgyrchu 2020 o amgylch sbardun 2020 fel pwynt ffocws ar gyfer pob pennod o’i fywyd mewn arddangosfeydd sydd wedi chwarae rhan yn y broses o adeiladu ei nodweddion.


Resurrection - Onismo Muhlanga, Pierre Gashagaza & Jordan Wilson-Alexander

Mae 'Resurrection' yn brosiect sy’n agos at galon Pierre Gashagaza ac sy’n cynnwys y trafferthion y mae wedi eu cael gyda hunaniaeth a phwrpas drwy fideo’r gair llafar. Roedd y ffilm yn ymateb uniongyrchol i’r ffaith bod cynnyrch creadigol Pierre wedi ei rwystro pan gafodd swydd yn ystod yr haf dim ond er mwyn ennill arian. Wrth i ni brofi’r daith hon o ganfod a chwestiynu hunaniaeth, gallwn weld go iawn sut mae’n rhaid i ni symud ein hysbryd tuag at y pethau a garwn er mwyn i ni ffynnu.

Lost- ‘unable to find one’s way or not knowing one’s whereabouts’.
There was once a moment in time when this feeling was no stranger to me, a strong sense of familiarity you could call it.
Yet, despite an array of anguish plaguing my body,
what truly left me in a stagnant position was being unable to identify the source of my problems.
All signs of life were being stripped away from my identity and Before I knew it I was no longer myself.
Instead, a lifeless vessel who meandered through life with no destination in sight.
Grey. That’s all I could envision. All I could feel.
All that was presented to me during this confusing plight.
Or so I thought.
The resolve was present the entire time.
In fact all I needed was time, time to reflect on where my energy was being displaced and why.
For too long external forces dictated my course of action whilst I watched idly by with no resistance.
This way of living had run its course, for now was the time to alleviate my spirit from the shackles that burdened by my body and transition onto the path that resonated with
my mind,
being
and soul.
It was my time to be RESURRECTED!!!!!!!

Cysylltiadau Coll – Cwilt Coffee and Laughs

Mae Coffee and Laughs yn elusen a grŵp cyfeillion hyfryd i ferched o bob oed, ffydd a diwylliant yn Community House ym Maendy, Casnewydd. Yn rhan o’r prosiect cymunedol Cysylltiadau Coll, gweithiodd yr artist Naz Syed gyda’r grŵp i ddatblygu cwilt cymunedol a chofnodi straeon yn ystod y cyfnod clo. Cafodd y farddoniaeth sydd dan sylw ei chreu a’i hadrodd gan Sue Lewis ac yna cafodd y cwilt, gyda darnau a wnaed gan y grŵp, ei wnïo at ei gilydd gan Marilyn Priday o Coffee and Laughs.
Ffilmiwyd gan Onismo Muhlanga a’i gofnodi gan James Mitchell.
Ffilmiwyd hwn yn rhan o Eyst, We Are Wales. Ariannwyd Cysylltiadau Coll gan ACW Stabilisation Fund.

Continue reading

What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase

Posted on February 04, 2022

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 3 Mawrth, 6pm

Mae Yr hyn sydd gan Ffotograffiaeth a Charchariad yn Gyffredin â Fâs Wag yn gorff amlweddog o waith a ddatblygwyd o gydweithrediad â Grain Projects a Charchar Ei Mawrhydi Birmingham (y carchar categori B mwyaf yn y DU yng Nghanolbarth Lloegr), y carcharorion yno, eu teuluoedd yn ogystal â myrdd o fudiadau ac unigolion lleol eraill.

Gan ddefnyddio cyd-destun cymdeithasol carchariad fel dechreubwynt, mae Martins yn archwilio’r cysyniad athronyddol o absenoldeb, ac yn mynd i’r afael ag ystyriaeth ehangach statws y ffotograff pan fo cwestiynau ynghylch gwelededd, moeseg, estheteg a dogfennaeth yn croestorri.

Trwy gydweddu’n gynhyrchiol delwedd a thestun, ffotograffiaeth newydd a hanesyddol, tystiolaeth a ffuglen, nod gwaith Martins yw craffu sut mae rhywun yn delio ag absenoldeb anwylyd, pan fo ymwahaniad wedi ei orfodi arnynt. O safbwynt ontolegol mae’n ceisio atebion i’r cwestiynau canlynol: sut mae rhywun yn cynrychioli testun sy’n osgoi cael ei delweddu, sy’n absennol neu’n guddiedig? Sut gall ffotograffiaeth ddogfennol, mewn oes o newyddion ffug, gydnabod orau ddimensiwn dychmygus a ffuglennol ein perthynas â ffotograffau?

Trwy roi llais i garcharorion a’u teuluoedd a chyfarch carchar fel set o berthnasau cymdeithasol yn hytrach na gofod corfforol yn unig, mae gwaith Martins yn mynd ati i ailfeddwl a gwrthweithio’r math o ddelweddau a gysylltir fel arfer â charcharu.

Mae’r prosiect felly yn fwriadol osgoi delweddau sydd â’r unig ddiben, yn ôl dadl Martin, o gadarnhau’r tybiaethau sydd eisoes yn bodoli o fewn ideoleg drechaf ynglŷn â throsedd a chosb: trais, cyffuriau, troseddoldeb, hil – ymagwedd sydd yn gwneud dim mwy nag atgyfnerthu’r weithred o dynnu lluniau a ffotograffiaeth ei hun fel dyfeisiau apotropäig

Mae’r prosiect hwn yn nodi trawsnewidiad sylweddol yn nhaflwybr creadigol Martins, gan arwyddo tueddiad cynyddol tuag at bersbectif ehangach, mwy hybrid a rhyngddisgyblaethol ar ddelweddau.

Continue reading

‘Aristotle’s Hole’ - From Mo-tzu to the Selfie Stick

Posted on January 31, 2022

Dros 2500 o flynyddoedd yn ôl, gwyliodd yr Athronydd Mo-tzu oleuni’r haul yn teithio drwy dwll bach a daeth i’r casgliad bod golau’n teithio yn yr un ffordd â saeth yn cael ei saethu.

Mewn ychydig dros awr, mae ‘Aristotle’s Hole’ yn edrych ar: y Wyddoniaeth, 500 miliwn o flynyddoedd o hanes a’r amrywiaeth eang o ddulliau cyfoes o wneud ffotograffiaeth twll pin a gwaith camera obscura.

Yna bydd Justin yn dangos rhywfaint o’i waith ei hun o’r 30 mlynedd diwethaf, sy’n amrywio yn eu hyd o ddefnyddio ffracsiwn o eiliadau i 12 mis ac yn defnyddio amrywiaeth o gamerâu o’r Smileycam (sy’n ddigon bach i fynd i’w geg) i’r bin olwynion (sy’n rhy fawr!). Bydd hefyd yn dangos rhywfaint o’i waith obscura sydd rhywsut yn galluogi iddo fynd i mewn i wyliau am ddim!

Weithiau mae’r sgwrsio bywiog yn cynnwys nifer o ddulliau dewr o dynnu lluniau o’r enw ‘bod yn bêl golff’ a ‘phortread o ddril pŵer’ a dangosiadau ynglŷn â sut i wneud amrywiol gamerâu twll pin ac obscura. Bydd hefyd yn siarad am ffotograffiaeth gymunedol a’r Real Photography Company, yn cynnwys rhai o’r prosiectau y maen nhw wedi cymryd rhan ynddynt dros y 5 mlynedd diwethaf.

Mae’r sgwrs yn rhad ac am ddim er y gallwch roi rhodd ar y noson i: Canolfan Gymunedol Cathays

Continue reading

Invisible Britain - This Separated Isle Penwythnos Cloi

Posted on January 25, 2022

18/2/22 - DIGWYDDIAD NOS WENER WEDI EI GANSLO

Yn anffodus, oherwydd y tywydd drwg, rydym wedi gorfod canslo sgrinio Poly Styrene heno. Rydym yn gobeithio bwrw ymlaen â'r ddigwyddiadau yfory (Dydd Sadwrn 19 Chwefror) a gallwch weld yr amserlen newydd isod:

Sadwrn 19 Chwefror

12.00pm - Drysau'n agor

12.15pm - Sgwrsio â Paul Sng a Zara Mader

1.15pm - Sgrinio ffilm - Poly Styrene: I Am A Cliché

3.30pm - Egwyl

3.45pm - Trafodaeth y Panel: This Separated Isle

5pm - Cloi

Gwelwch ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf.
Instagram | Twitter | Facebook

---

Mae’n destun balchder mawr i Ffotogallery ein bod yn cyflwyno penwythnos sy’n orlawn â digwyddiadau wedi eu seilio o amgylch themâu ein harddangosfa bresennol, Invisible Britain - This Separated Isle, dan ofalaeth Paul Sng. Mae’r digwyddiadau hyn yn nodi’r penwythnos cloi a dyma fydd y cyfle olaf i ymweld â’r arddangosfa sy’n archwilio cysyniadau am ‘Brydeindod’, yn cynnwys amrywiaeth fawr o bortreadau ffotograffig gwefreiddiol o bobl o’r DU gyfan, ochr yn ochr â’u straeon nhw eu hunain. Cofiwch roi’r dyddiadau yn eich dyddiadur da chi!

Poly Styrene oedd y fenyw gyntaf o liw yn y DU i ganu ar flaen band roc llwyddiannus. Cyflwynodd sain newydd o wrthryfela i’r byd, gan ddefnyddio ei llais anghonfensiynol i ganu am hunaniaeth, prynwriaeth, ôl-foderniaeth a phopeth a welodd yn datblygu ym Mhrydain ar ddiwedd y 1970au, gyda rhagwelediad prin. Fel cantores flaen X-Ray Spex, roedd y pync-gerddor Eingl-Somali hon yn ysbrydoliaeth allweddol i’r symudiadau riot grrrl ac Afropunk.

Mae Paul Sng yn wneuthurwr ffilmiau o dras Brydeinig a Tsieineaidd sy’n canolbwyntio ei waith ar bobl sy’n herio’r status quo.

Mae Zara Mader yn ffotograffydd sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith yn cynnwys cyfres o bortreadau o fenywod a gafodd eu hysbrydoli gan gerddoriaeth yr eicon o’r byd pync, Poly Styrene.

Bydd ein trafodaeth panel yn edrych ar rai o’r materion sy’n derbyn sylw yn y llyfr, fel ‘Prydeindod’ a ‘gwahaniad’, ac rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r rhain gyda thrafodaeth fywiog, lawn gwybodaeth. Mae’n fraint gennym gael cwmni’r bobl ganlynol ar y diwrnod:

Yn llywio’r drafodaeth fydd Nicola Heywood-Thomas (Newyddiadurwr Celfyddydau ac ar y BBC).

Continue reading

Children's Art Workshop

Posted on January 20, 2022

Byddwn yn cynnal gweithdy celf AM DDIM i blant hyd at 12 oed ar Ddydd Sadwrn 29 Ionawr o 12pm hyd 4pm yn ein horiel yn yr Hen Ysgol Sul, Fanny Street, Cathays.

Ymunwch â ni i wneud eich hunanbortread cyfryngau cymysg eich hun sy’n dangos i ni pwy ydych CHI!

Galwch i mewn unrhyw bryd rhwng 12pm a 4pm.



Continue reading

Dydd Mawrth Te a Theisen

Posted on January 12, 2022

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i’n Dydd Mawrth Te a Theisen cyntaf yn 2022 yn yr Hen Ysgol Sul ar Fanny Street!

Ymunwch â ni i fwynhau paned a theisen ac i gymdeithasu’n ddiogel yn ein horiel hyfryd.

Ein harddangosfa bryd hynny fydd Invisible Britain: This Separated Isle, wedi ei guradu gan Paul Sng.

Byddwn ni’n darparu’r cacenau a’r diodydd a byddwn wrth ein boddau’n eich gweld chi yno!

Continue reading

Invisible Britain - This Separated Isle

Posted on January 10, 2022

Wrth i COVID-19 gael effaith enfawr ar draws y byd, roedd yr holltau a ddatgelwyd gan Brexit, Black Lives Matter a lefelau cynyddol o droseddau casineb oherwydd hil wedi datgelu rhwygiadau chwerw yn y gymdeithas Brydeinig. Yn y cyfnod ar ôl y pandemig, a gyda’r cwestiynau am rannu’r Deyrnas Unedig yn gwrthod diflannu, sut mae pobl drwy Brydain gyfan yn dewis llywio drwy’r tensiynau yn y tir rhanedig hwn?

Mae This Separated Isle yn archwilio sut mae syniadau am ‘Brydeindod’ yn dangos amrywiaeth gynhwysol o safbwyntiau a dealltwriaeth am ein cymeriad cenedlaethol. Mae wedi ei seilio ar y llyfr Invisible Britain: This Separated Isle, sy’n cynnwys amrywiaeth fawr o bortreadau ffotograffig hynod o ddiddorol o bobl ar draws y DU a’u straeon cysylltiedig, ac mae’r arddangosfa bwysig hon yn archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth a chenedligrwydd, gan ddatgelu nid yn unig beth sy’n ein rhannu ni, ond hefyd y clymau sy’n ein rhwymo at ein gilydd fel cenedl.

Curadur y prosiect yw Paul Sng, ac mae’r dangosiad cyntaf hwn o’r arddangosfa yn y DU wedi ei gynhyrchu a’i gyflwyno gan Ffotogallery.

Dyma’r ffotograffwyr sy’n cymryd rhan:

Alecsandra Dragoi
Alicia Bruce
Amara Eno
Andy Aitchison
Arpita Shah
Chris Leslie
Christine Lalla
Ciara
Faraz Pourreza-Jorshari
Fiona Yaron-Field
Gina Lundy
Ilisa Stack
Inès Elsa Dalal
Jim Mortram
Jenny Lewis
Joanne Coates
Kat Dlugosz
Kate Nolan
Kirsty Mackay
Kris Askey
Lisa Wormsley
Maisie Marshall
Marc Davenant
Margaret Mitchell
Marie Smith
Mario W. Ihieme
Mark Parham
Nicola Muirhead
Rhys Baker
Robert Law
Roland Ramanan
Sally Low
Dr Yan Wang Preston

Continue reading

Diwrnod o Hwyl y Nadolig i’r Teulu

Posted on December 01, 2021

MAE‘R NADOLIG (bron) YMA!!!

A hoffem i chi ymuno â ni ar gyfer ein Diwrnod o Hwyl y Nadolig i’r Teulu a’n Ffair Ffotograffiaeth ar Ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr!

Bydd gennym stondinau o 12 hyd 3pm a llawer o bethau Nadoligaidd drwy’r prynhawn o 12 tan 5pm, gyda gweithgareddau a gweithdai celf a chrefft yn ogystal â Chanu Carolau gan ein cymdogion yn Eglwys Fethodistaidd Cathays.

Mae’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb!

Continue reading

Small Business Christmas Get-Together

Posted on November 18, 2021

Ydych chi’n berchen ar fusnes bach o fewn neu gerllaw Cathays yng Nghaerdydd? Os ydych, mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer Noson Nadoligaidd yn ein horiel hyfryd yn Ffotogallery, Fanny Street.

Bydd gennym win twym a mins peis i chi os dewch chi draw a’n helpu i ehangu ein rhwydwaith o gymorth i fusnesau bach lleol. Mae’r noson i gyd yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb, felly galwch draw i fwynhau noson Nadoligaidd gyda’n tîm.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi oll bryd hynny!

I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost at [email protected]

Continue reading

Bore Te a Theisen Nadolig

Posted on November 18, 2021

Byddem fel arfer yn cynnal ein Bore Te a Theisen Cymdeithasol yn ein horiel yn Fanny Street ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis ond, ym mis Tachwedd, rydym wedi penderfynu aros a chael Digwyddiad Nadolig gyda Mins Peis yn lle teisen, ar Ddydd Mawrth 7 Rhagfyr! Bydd hwn ar ein hamser arferol, sef 11-1pm, a bydd hefyd yn gyfle i chi weld ein harddangosfa hyfryd More Than A Number sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd tan ddiwedd y flwyddyn. Byddem wrth ein boddau’n eich gweld chi yno i fwynhau’r digwyddiad Nadoligaidd hwn felly, nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur, a dewch â’ch ffrindiau!

Continue reading

More Than A Number

Posted on November 03, 2021

“We’re more than sand and the seashore, we’re more than numbers.”

- Bob Marley, Wake Up and Live, 1979

More Than a Number is an exhibition which looks to explore our thinking of an Africa caught between modernity and tradition, and how different cultures can produce meaning through images. It invites the audience to engage with the exceptional and thought-provoking work of 12 photographers from Africa. And encourages us to look deeply and clearly into the face of the individual in front of you and engage in a conversation. As Elbert Hubbard wrote, “If men could only know each other, they would neither idolise nor hate”.

Cultural difference and questions of identity within the ‘rights of recognition’ have, for many of the people who have been regulated to the margins of society, been front-line battles in establishing their identity and human worth (Hall, 1992). What happens when we neglect people’s material culture and not truly value it or represent it everywhere for everyone to engage with? And how can we as the audience, be that as individuals or cultural organisations, draw conclusions from what we already know and understand about Africa and Africans through a visual medium. And finally, how can we as cultural organisations in the West be more responsible in how we represent photography from Africa?

More Than a Number is centred around three themes: Representing Fearlessness, Zones of Contact, and Radical Sociality. Amina Kadous, Brian Otieno, Sarah Waiswa and Wafaa Samir’s projects offer highly subjective visions of African identity while exploring what true freedom and fearlessness in art looks like. Nana Kofi Acquah, Salih Basheer, Tom Saater and Yoriyas Yassine Alaouiteleport the audience into their zones of contact and explore the idea of remaking and reimagining our identities. Fatoumata Diabaté, Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi and Jacques Nkinzingabo’s projects remind of us of the importance of preserving and caring for our material culture, cultural heritage and its impact, especially in regard to questions of migration, decolonisation, belonging and experience.

Rights of representation need to happen and need to continue happening through a visual medium such as photography. Historically, to be seen and looked at - across race, gender and class - is a human right. Curated by Cynthia MaiWa Sitei, Creative Producer at Ffotogallery Wales.

Continue reading

Tirweddau i’r dyfodol? Trafodaeth panel ddigidol, Cadeirydd Jamie Owen

Posted on October 20, 2021

Allwn ni ail-ddychmygu dyfodol carbon isel lle gall cymunedau gwledig a natur ffynnu? Yn ei arddangosfa ffotograffig Tir/Môr, mae Mike Perry yn cwestiynu sut mae Prydain yn rheoli ei thirweddau gwarchodedig ar gyfer yr hinsawdd a bioamrywiaeth ar hyn o bryd. Gan gyd-daro â COP26, bydd Jamie Owen yn ymuno â’r artist Mike Perry, Dr Sarah Beynon, cadwraethwr a sylfaenydd Bug Farm Tyddewi, Ian Rickman, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Dr Rosie Plummer. Cewch glywed yr arbenigwyr hyn yn trafod yr heriau sydd o’n blaenau, y newidiadau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, a sut gallwn ni elwa o adfer byd natur.

Continue reading

Mewn Sgwrs: Mike Perry & Bronwen Colquhorn

Posted on September 06, 2021

Ymunwch â’r artist ffotograffig cyfoes Mike Perry a Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru, yn fyw ar Zoom.

Mae ffotograffau Mike Perry yn herio ffyrdd confensiynol o weld ein harfordir a’n cefn gwlad, gyda ffocws ar Barciau Cenedlaethol Prydain. Mae Tir/Môr, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Oriel y Parc, Tyddewi, yn agor ein llygaid i ystyried perthynas fregus cymdeithas â byd natur.

Mae Dr Bronwen Colquhoun yn gyfrifol am guradu a rheoli casgliadau ffotograffiaeth yr adran gelf, curadu’r rhaglen arddangos ar gyfer oriel ffotograffiaeth barhaol yr Amgueddfa a chyfrannu at raglen arddangos dros dro yr Amgueddfa.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar y cyd gan Oriel y Parc Tyddewi, Amgueddfa Cymru a Ffotogallery.

Continue reading

Turning Point: Diffusion 2021

Posted on September 01, 2021

Mewn post blog diweddar, cyhoeddodd David Drake y cyfarwyddwr y byddai’r bumed ŵyl Diffusion: Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd yn digwydd yr hydref hwn! Mae’n bleser mawr gennym allu cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a De Cymru rhwng 1 a 31 Hydref.

Mae Trobwynt: Diffusion 2021 yn edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig drwy ddarparu platfform i leisiau artistig newydd a phrofiadau diwylliannol amrywiol, a model newydd o gydweithio sy’n darparu mis o ddigwyddiadau ffotograffiaeth yng Nghymru a chanddynt ymestyniad ac effaith rhyngwladol. Gan gyfuno gwaith wedi ei gyd-greu a’i gyflwyno ar-lein ac yn ffisegol, mae Turning Point: Diffusion 2021 yn dathlu ac yn rhoi lle blaenllaw i gyfoeth ac amrywiaeth daearyddol, diwylliannol a chymdeithasol y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd mawr a chyfle newydd.

Continue reading

Motherland

Posted on August 20, 2021

Yn aml iawn, y menywod o blith y bobl ar wasgar o Bacistan a symudodd i’r DU oedd gwragedd, merched, mamau a neiniau hynod weithgar yr unigolion hynny oedd wedi mudo o ddinasoedd, trefi a phentrefi bychan ym Mhacistan. Daeth yr unigolion hyn i’r DU i weithio mewn sectorau diwydiannol allweddol a sefydlu busnesau a gyfrannodd at economi iach eu cenedl a oedd newydd ei sefydlu. Roedd y menywod o Bacistan yn darparu’r awyrgylch hanfodol o gysur a theimladau cyfarwydd a roddodd synnwyr o’u gwlad frodorol i’w gwŷr, tadau, plant ac wyrion – gan greu cartref iddyn nhw ymhell o adref.

Wedi ei gwisgo yn nillad ei mam o 40 mlynedd ynghynt, diben hunanbortreadau Maryam Wahid yw cydnabod bodolaeth a chyflawniadau menywod Pacistanaidd fel hyn a’u rôl fel asgwrn cefn cymuned a weddnewidiodd ganol dinasoedd Prydain. Mae albwm lluniau’r teulu wrth wraidd gwaith personol Maryam. Mae hi’n defnyddio ffotograffau ohono i ddadelfennu ei threftadaeth Brydeinig a Phacistanaidd ei hun.

Heddiw, mae menywod Pacistanaidd Brydeinig yn parhau i chwyldroi rolau’r rhywiau i fenywod eraill drwy benderfynoldeb, cymorth emosiynol ac anogaeth eu rhwydwaith o gymheiriaid benywaidd.

Continue reading

Green Dark

Posted on July 19, 2021

Mae artist Zillah Bowes yn esbonio: "Mae golau’r lloer yn gadael i mi arafu a phrofi curiad bregus y planhigion, a’r dirwedd sy’n eu cynnwys. Mae Green Dark yn gais i gymryd fy mhrofiadau o fewn ac o amgych Ystâd Elan ger Rhaeadr Gwy, yng Nghanolbarth Cymru, a’u cyfleu mewn lluniau. Hoffwn i’r ffotograffau hyn fod yn llais i blanhigion a mwyhau eu curiad am na allan nhw wneud hynny eu hunain, hynny ydy, ei wneud yn ddiofyn. Rwy’n cael fy nhywys gan amrywiaeth ddwyfol yr anifeiliaid hynny sy’n cael eu cynnal gan y planhigion ac sydd mewn perygl o gael eu colli.

"Mae’r un dirwedd yn cynnwys ac yn cynnal cymuned unigryw a hanesyddol o bobl, y mae eu harferion ffermio mynydd agored, o ffermydd tenant, yn eu gwreiddio drwy gyfrwng eu hynafiaid ac yn golygu eu bod yn parhau i berthyn iddi. Mae Green Dark yn cynnig gofod – nad yw’n dywyllwch nac yn oleuni – i archwilio’r planhigion a’r bobl sy’n byw yno, a’r pontio sydd rhyngddyn nhw, yn rhan o sefyllfa anghysurus yr ansicrwydd o ran hinsawdd sydd o’u blaenau."

Continue reading

Unseen - Premiere Ffilm + Sgwrs Artist

Posted on July 13, 2021

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni’n bersonol neu ar-lein ar Ddydd Iau 15 Gorffennaf o 7pm, ar gyfer sgriniad cyntaf Unseen, a thrafodaeth panel am arddangosfa Suzie Larke, a materion sy’n codi o’r prosiect.

Yn ymuno â Suzie ar y panel bydd y seicolegydd Annie Beyer a Jo Verrent, uwch gynhyrchydd yn Unlimited, a bydd cyfle i gyfrannu at drafodaeth gyda chyfarwyddwr Unseen, Ian Smith.

Mae Unlimited yn rhaglen gomisiynu’r celfyddydau a’i nod yw cynnwys gwaith gan artistiaid anabl yn sectorau diwylliannol y DU a’r rhai rhyngwladol, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a newid canfyddiadau am bobl anabl. Maen nhw’n cynnig cyllid ar gyfer ymchwil a datblygiad, i sicrhau bod prosiectau mawr a bach yn digwydd yn y DU ac o amgylch y byd, ac mae ganddyn nhw wobrau i artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac sy’n newydd i gelfyddyd, sydd newydd gychwyn eu gyrfaoedd neu sydd heb gyrraedd cynulleidfaoedd mawr eto. Maen nhw hefyd yn ariannu comisiynau mawr a chomisynau a grëwyd drwy gydweithio rhyngwladol.

Mae Auntie Margaret yn gynhyrchwyr cynnwys i ffilmiau, teledu a fideo, gan ddelweddu cynnwys rhyfeddol dan arweiniad Ian Smith. Gweithiodd yntau yn y BBC am fwy na 10 mlynedd lle bu’n cynhyrchu amrywiaeth o fformatau, ffilmiau a rhaglenni dofgen yn cynnwys Wales and Hollywood, How The Co-op Started, Homelessness: On the Edge, Weird Wales a The One Show.

Bydd y drysau ar gyfer y digwyddiad ffisegol yn agor am 7pm a bydd y digwyddiad yn cychwyn am 7:30pm. Mae nifer y tocynnau’n gyfyngedig felly archebwch cyn hir!

Neu mewngofnodwch ar-lein drwy Zoom am 7:30pm ar y 15fed, lle byddwn yn ffrydio’r digwyddiad cyfan yn fyw. I ymumno gyda ni, cliciwch fan hyn.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad ac fe wnawn ein gorau i’ch cefnogi.

Continue reading

Land / Sea - Oriel y Parc

Posted on July 02, 2021

Mae arddangosfa deithiol Ffotogallery: Land/Sea gan Mike Perry yn agor yn Oriel y Parc yn Tyddewi, Sir Benfro o 10 Gorffennaf.

Mae gwaith yr artist Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, yn arbennig y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchedd naturiol, a breuder ecosystemau’r blaned (p’un a ydyw’n fôr neu’n dir).

Mae Land/Sea yn dod â dau gorff diweddar o waith at ei gilydd: Wet Deserts sy’n canolbwyntio ar leoliadau daearol ym Mhrydain sydd o dan oruchwyliaeth yn aml iawn, ac sy’n aml mewn mannau yr ydym yn cyfeirio’n gyffredin atyn nhw fel ardaloedd o harddwch naturiol, ein parciau cenedlaethol, ond lle mae tystiolaeth glir o effaith dyn; a Môr Plastig, sef corff parhaus o waith sy’n categoreiddio gwrthrychau a olchwyd i’r lan gan y môr i mewn i grwpiau – Poteli, Esgidiau, Gridiau, gan ddangos y manylion diddorol ar yr wyneb gyda chamera cydraniad uchel.

Yn gofalu am y gwaith mae Amgueddfa Cymru a Mike Perry, ac mae wedi ei addasu o Arddangosfa Deithiol Ffotogallery, Land/Sea, a drefnwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery a Ben Borthwick.

Mwy o wybodaeth

National Museum Wales at Oriel y Parc, St Davids, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Gallery 2,National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Ash Dieback, Gallery 2,National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Plastiglomerates vitrine, National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Gallery 2, National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Gallery 1, National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Loch Cluanie, Gallery 1,National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation photograph. Mike Perry Land/Sea. Common Land, Gallery 2, National Museum Wales at at Oriel y Parc, Wales, 2021
Installation Photograph. Mike Perry, Land/Sea, Flips Flops and Shoes, Gallery 1, National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales 2021
Installation Photograph. Mike Perry, Land/Sea, Flailed Hawthorn, Gallery 1, National Museum Wales at Oriel y Parc, Wales 2021

Continue reading

More Than A Number: Symposium 1

Posted on June 28, 2021

Rydym yn fwy na thywod ac yn fwy na’r traeth, rydym yn fwy na rhifau.”

- Bob Marley, Wake Up and Live, 1979

Mae More Than a Number yn rhan o’r gyfres Ffotograffiaeth ac Affrica gan Ffotogallery, sy’n mynd ati i archwilio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am Affrica fel gwlad wedi’i dal rhwng moderniaeth a thraddodiad, a sut y gall gwahanol ddiwylliannau gynhyrchu ystyr drwy ddelweddau. Trwy gyfrwng cyfres o weithdai gan artistiaid, symposia a chynnwys ar-lein, mae More Than a Number yn gwahodd y gynulleidfa i ymddiddori yn y gwaith eithriadol hwn sy’n procio’r meddwl gan 11 o ffotograffwyr o Affrica. Mae’n ein hannog i edrych yn fanwl ac yn glir i wyneb yr unigolyn o’n blaenau a dechrau sgwrsio. Yng ngeiriau Elbert Hubbard, “Pe bai dynion yn gallu dod i adnabod ei gilydd, ni fyddent yn gwirioni nac yn casáu”.

I lawer o bobl sydd wedi cael eu rheoli hyd eu heithrio i ymylon cymdeithas, mae gwahaniaethau diwylliannol a chwestiynau am hunaniaeth mewn perthynas â ‘hawliau pobl i dderbyn cydnabyddiaeth’ wedi bod yn frwydrau ffyrnig i geisio sefydlu eu hunaniaeth a’u gwerth fel pobl (Hall, 1992). Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n esgeuluso diwylliant materol pobl a ddim yn ei wir werthfawrogi na’i gynrychioli ymhob man i bawb ymgysylltu ag o? A sut allwn ninnau fel cynulleidfa, p’un a ydym yn unigolion neu’n sefydliadau diwylliannol, dynnu casgliadau o’r hyn a wyddom ac a ddeallwn yn barod am Affrica a phobl Affricanaidd drwy gyfrwng gweledol? Ac yn olaf, sut allwn ni fel sefydliadau diwylliannol yn y Gorllewin fod yn fwy cyfrifol yn y ffordd yr ydym yn cynrychioli ffotograffiaeth o Affrica?

Mae More Than a Number wedi ei seilio ar dair thema: Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cysylltu a Chymdeithasoldeb Radicalaidd. Mae’r prosiectau gan Amina Kadous, Brian Otieno, Sarah Waiswa a Wafaa Samir yn cynnig gweledigaethau hynod o oddrychol o hunaniaeth Affricanaidd gan hefyd archwilio beth yw gwir ryddid ac ehofndra mewn celf. Mae Nana Kofi Acquah, Salih Basheer, Tom Saater ac Yoriyas Yassine Alaoui yn telegludo’r gynulleidfa i’w parthau cysylltu, ac yn archwilio’r syniad o ail-greu ac ailddychmygu ein hunaniaethau. Mae’r prosiectau gan Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi a Jacques Nkinzingabo yn ein hatgoffa am bwysigrwydd cadw a gofalu am ein diwylliant materol, ein treftadaeth ddiwylliannol a’i heffaith, yn enwedig mewn perthynas â chwestiynau am fudo, dad-drefedigaethu, perthyn a phrofiad.

Mae angen i hawliau cynrychiolaeth ddigwydd a pharhau i ddigwydd drwy gyfrwng gweledol fel ffotograffiaeth. Yn hanesyddol, mae cael eich gweld a chael pobl i edrych arnoch – ar draws y gwahanol hiliau, rhywiau a dosbarthiadau cymdeithasol – yn hawl dynol. Bydd yr arddangosfa ar-lein More Than a Number yn lansio ar 14 Gorffennaf 2021 ochr yn ochr â’i symposiwm cyntaf.

MORE THAN A NUMBER: SYMPOSIWM #1 – 14 Gorffennaf 2021

Bydd curaduron o bob rhan o Affrica yn siaradwyr gwadd yn symposiwm cyntaf More Than a Number a byddent yn trafod materion yn ymwneud â chynrychioli a dangos gwaith ffotograffwyr ac artistiaid gweledol lleol yn Affrica. Dyma fydd rhai o’r cwestiynau dan sylw:

Yn hwyrach yn haf 2021, byddwn yn cynnal tri gweithdy ar-lein gydag artistiaid: wedi eu seilio ar y tair thema a archwiliwyd yn gynharach – Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cysylltu a Chymdeithasoldeb Radicalaidd – bydd pob artist yn sgwrsio â’r gynulleidfa am eu gwaith. Ac yn olaf, i gyd-fynd a Gŵyl Diffusion 2021 yng Nghaerdydd (mis Hydref 2021), bydd arddangosfa ffisegol ac ail symposiwm yn cael eu cyflwyno i archwilio nifer o’r sgyrsiau am More Than a Number a Ffotograffiaeth ac Affrica ymhellach.

More Than a Number Online Exhibition https://ffotoview.org/

Continue reading

Unseen

Posted on June 22, 2021

Mae Unseen / Anweledig yn defnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i gyfleu profiadau grŵp o gyfranogwyr wrth iddynt wynebu cyfnod anodd. Gan ddefnyddio delweddaeth adeiladol, mae Suzie yn pwytho ffotograffau gyda’i gilydd mewn modd digidol fel eu bod yn ymddangos fel un ddelwedd unigol, heb unrhyw ymyrraeth. Trwy ddefnyddio ‘realaeth hudol’ i drawsnewid ffotograffau sy’n cymryd profiad cyffredin a’i ogwyddo, mae hi’n creu delweddau sy’n dehongli’r profiad goddrychol o frwydro gyda lles meddyliol.

Amcan y prosiect hwn yw helpu pobl i fynegi eu profiadau trwy gyfrwng ffotograffiaeth gysyniadol. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth a thrafodaeth ynghylch lles meddyliol, a’n huno ni yn y sylweddoliad bod pawb yn mynd drwy gyfnodau anodd – ac yn llwyddo i’w goresgyn.

Continue reading

Diwrnod Lles Teulu

Posted on June 21, 2021

Ymunwch â ni yn Ffotogallery yn yr Hen Ysgol Sul yn Fanny St, ar Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf i AM DDIM fwynhau diwrnod o weithgareddau i bob oedran, 12-5pm!

Ar y diwrnod bydd gennym:

11:30 Drag Queen Story Hour UK

12:30 Drag Queen Story Hour UK

1:30 - 3:30 Sesiynau blasu Tai Chi gyda Debbie Lawrence

3:30 - 4:30 Defnyddio’r hwla hŵp gydag Ellie Coptor Pilott

Trwy gydol y dydd cewch gyfle hefyd i dynnu lluniau camera a’u golygu gyda’n hartist dan sylw Suzie Larke, yn ogystal â’r cyfle i greu eich collage lliwgar eich hun.

Mae nynediad a pob gweiddgaredd yn hollol rhad ac am ddim, felly galwch draw i ymuno â ni, byddai’n wych eich gweld chi!

(Mae Drag Queen Story Hour UK yn addas i blant 0-12 oed, ac i oedolion hefyd wrth gwrs! Rhaid i chi archebu lle ar gyfer hwn er mwyn osgoi cael eich siomi. Does dim rhaid trefnu o flaen llaw ar gyfer unrhyw weithgaredd arall, dim ond dod ar y diwrnod.)

Mae rhagofalon COVID ar waith.

Continue reading

Ffotograffiaeth a Lles

Posted on April 15, 2021

Ar Ddydd Iau 29 Ebrill am 2 pm, hoffem estyn gwahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni ar gyfer y nesaf yn ein cyfres o drafodaethau ar-lein, Ffotograffiaeth a Lles. Derbynnir yn eang bod mwynhau’r celfyddydau a chyfranogi ynddynt yn gallu gwella lles corfforol a meddyliol person yn ddramatig, a mwy felly yn y flwyddyn ddiwethaf pan mae llawer o unigolion wedi troi at weithgareddau creadigol i ymdopi â’r pandemig Covid-19.

Bydd Mary Farmilant yn ymuno â ni ar y diwrnod i gyflwyno ei chyfres ‘See You on the Other Side’, ac yn dilyn hynny bydd Suzie Larke yn trafod â’r seicolegydd cwnsela Dr Annie Beyer, am ei phrosiect diweddaraf ‘Unseen’. Byddwch hefyd yn clywed am brosiect Art by Post Southbank Llundain sy’n dod â gweithgareddau celfyddyd weledol a barddoniaeth yn rhad ac am ddim i’r bobl sy’n fwyaf ynysig oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol.

Mae Mary Farmilant yn artist gweledol wedi ei seilio yn Chicago sy’n gweithio mewn ffotograffiaeth, fideo a sain ac a dderbyniodd ei gradd mewn nyrsio cyn troi at ffotograffiaeth. Mae ‘See You on the Other Side’ yn ymdrin â phrofiadau emosiynol a llafar cymhleth ar ôl iddi dderbyn diagnosis salwch sy’n bygwth ei bywyd.

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd, DU. Mae ei gwaith personol yn defnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn, a’r cyflwr dynol. Yn ‘Unseen’, mae hi’n defnyddio agwedd gydweithredol tuag at ffotograffiaeth i ddangos profiadau gwahanol unigolion o amrywiol gefndiroedd sy’n cael trafferthion gyda’u lles meddyliol.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y digwyddiad hwn ar Zoom. Os oes gennych unrhyw ofynion er mwyn gallu bod yn rhan o’r digwyddiad, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda, ac fe wnawn ein gorau i helpu.

Continue reading

Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work

Posted on March 01, 2021

Yn dilyn llwyddiant ein cynnig Ffotograffiaeth ac Iaith ar y we yr Hydref diwethaf rydym yn trefnu cyfres newydd o ddigwyddiadau ar-lein ar ddull ‘Ffotograffiaeth a….’ ac yn gwahodd artistiaid a phobl broffesiynol o amgylch y byd i gyd i ymuno â thrafodaethau am rôl ffotograffiaeth yn y byd heddiw.

Rydyn ni’n cychwyn y gyfres gyda Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work, sy’n digwydd ar Ddydd Iau 18 Mawrth am 2pm. Yn ymuno â ni fydd artistiaid, curaduron a phartneriaid a gymerodd ran yn y prosiect dwy flynedd gan Creative Europe a aeth ati i ddatblygu dealltwriaeth newydd drwy ffotograffiaeth o dirlun newidiol y rhywiau a swyddi, gan ysgogi dadl am y materion cyfoes sy’n wynebu Ewrop.

Bydd cyflwyniadau gan gydweithfa artistiaid Maternal Fantasies (Yr Almaen), Miriam O'Connor (Iwerddon) ar fenywod mewn ffermio, Tonje Bøe Birkeland (Norwy) am ei phrosiect The Characters, Kaunas Photo Gallery (Lithwania) ar ffotograffiaeth a gwaith menywod yn y cyfnod ôl-Sofietaidd, Gallery of Photography (Iwerddon) a Ffotogallery (Cymru) ar dirlun newidiol gwaith merched yn Ewrop, a’r deuawd artist/curadur Whack 'n' Bite (Ffindir). Hefyd, bydd lansiad y cyhoeddiad etifeddol A Woman's Work a chyfle i drafod y materion sy’n codi o’r prosiect 2018-21 hwn gan Ewrop Greadigol.

Yn boeth o’r wasg, mae’r cyhoeddiad etifeddol A Woman’s Work ar gael i’w brynu yma.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y digwyddiad hwn yn digwydd drwy Zoom. Os oes gennych unrhyw ofynion mewn perthynas â mynychu’r digwyddiad, anfonwch e-bost ataf cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda ar [email protected], ac fe wnawn ein gorau i ddarparu cymorth.

Continue reading

Nifer i Leisiau, Un Genedl 2

Posted on November 23, 2020

Abby Poulson, Antonia Osuji, Cynthia MaiWa Sitei, Ethan Beswick, Jack Osborne, Jo Haycock, John Manley, Kaz Alexander, Lucy Purrington, Matthew Eynon, Mohamed Hassan, Robert Law.

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Ffotogallery yn ail agor ei ddrysau i’r cyhoedd ar Ddydd Mercher 19 Mai 2021 fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, sef arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol Cymru. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’n dangos cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.

Yn ystod y Cyfnod Clo, gwahoddodd Ffotogallery ffotograffwyr proffesiynol ar hyd a lled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig cipolwg ar fywyd cyfoes ac yn cynrychioli ehangder y ddawn sydd i’w chael yng Nghymru ac sy’n haeddu cael ei gweld yn ehangach. Dewiswyd deuddeg o artistiaid ledled Cymru, sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffiaeth. Mae David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, yn esbonio:

“Trwy gyfrwng yr arddangosfa hon ac yn y gwaith sydd i ddod gan Ffotogallery, rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi’r rôl y mae pobl o bob rhan o’n cymdeithas yn ei chwarae i greu Cymru liwgar ac egnïol. Gwyddom y bydd y celfyddydau yng Nghymru’n gryfach, yn fwy cyffrous ac yn berthnasol i fwy o bobl os byddwn yn croesawu amrywiaeth. Rydym yn annog cyfranogaeth y cyhoedd ac ymgysylltiad â’r gynulleidfa yn frwd iawn gyda’r materion sy’n codi o’r arddangosfa”.

Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi galluogi i Ffotogallery hefyd wneud ei oriel yn ddiogel rhag Covid ac yn groesawgar i ymwelwyr.

Cychwynnodd y rhaglen Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Ffotogallery a Senedd Cymru, i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru.

Mae’r oriel yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion diogelu rhag COVID. Dylid gwisgo masgiau wyneb bob amser o fewn yr adeilad heblaw bod y gwisgwr wedi’i eithrio, ac mae hylif diheintio’r dwylo ar gael drwy’r adeilad cyfan. Rydym yn annog ymwelwyr i lawrlwytho Ap COVID-19 y GIG a sganio’r cod QR wrth fynd i mewn i’r oriel.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ymweld, yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar [email protected] neu 029 2034 1667.

Continue reading

Ffotograffiaeth ac Iaith

Posted on July 23, 2020

Ymunwch â ni ar gyfer y drafodaeth ar-lein hon sy’n dathlu lansiad y Cyfathrebu Gweledol newydd rhwng Marcelo Brodsky a Michal Iwanowski. Mae’r ddau artist yn trafod eu harferion perthnasol a sut yr aethon nhw ati i ymdrin â’r cydweithrediad yn ystod y cyfnod clo. Bydd Alina Kisina, artist, addysgwr ac ieithydd drwy hyfforddiant, yn archwilio llythrennedd gweledol a mynegiant creadigol, a sut mae dimensiwn ar-lein ei phrosiect byd-eang Children of Vision yn grymuso pobl ifanc i rannu eu gweledigaeth unigryw o’r byd.

Bydd y drafodaeth hon yn digwydd ar-lein drwy Zoom – byddwn yn rhoi manylion y cyfarfod a gwybodaeth dechnegol bellach pan fyddwch yn archebu lle.

Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o sgyrsiau gydag artistiaid a chynulleidfaoedd am rôl ffotograffiaeth mewn mynegi diwylliant a hunaniaeth. Mae’r digwyddiad yn cysylltu â Galwad Agored Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth yn rhan o’n cydweithio rhwng India a Chymru.

Dim ond ychydig dros fis sydd ar ôl i gyflwyno eich cynnig ar gyfer ein cyfle diweddaraf mewn partneriaeth â’r Chennai Photo Biennale Foundation, ‘Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth’ - mae pedwar grant ar gael, dau i artistiaid yng Nghymru, a dau i artistiaid yn India. Gallwch ganfod rhagor a gwneud cais yma.

Continue reading

Land / Sea - Thelma Hulbert Gallery

Posted on March 09, 2020

Mae arddangosfa deithiol Ffotogallery: Land/Sea gan Mike Perry yn agor yn Oriel Thelma Hulbert yn Honiton, Dyfnaint o 20 Mai.

Mae gwaith yr artist Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, yn arbennig y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchedd naturiol, a breuder ecosystemau’r blaned (p’un a ydyw’n fôr neu’n dir).

Mae Land/Sea yn dod â dau gorff diweddar o waith at ei gilydd: Wet Deserts sy’n canolbwyntio ar leoliadau daearol ym Mhrydain sydd o dan oruchwyliaeth yn aml iawn, ac sy’n aml mewn mannau yr ydym yn cyfeirio’n gyffredin atyn nhw fel ardaloedd o harddwch naturiol, ein parciau cenedlaethol, ond lle mae tystiolaeth glir o effaith dyn; a Môr Plastig, sef corff parhaus o waith sy’n categoreiddio gwrthrychau a olchwyd i’r lan gan y môr i mewn i grwpiau – Poteli, Esgidiau, Gridiau, gan ddangos y manylion diddorol ar yr wyneb gyda chamera cydraniad uchel.

Yn gofalu am y gwaith mae Mike Perry a Ruth Gooding, Oriel Thelma Hulbert, ac mae wedi ei addasu o Arddangosfa Deithiol Ffotogallery, Land/Sea, a drefnwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery a Ben Borthwick.

Mwy o wybodaeth

Continue reading

The Place I Call Home - London

Posted on March 05, 2020

Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i lansiad terfynol yr arddangosfa The Place I Call Home ar ei thaith Brydeinig, o 6pm Ddydd Mercher 11 Mawrth yn Oriel Copeland, Llundain. Archebwch eich lle am ddim yma

Cewch gyfle i gwrdd â rhai o’r artistiaid sydd wedi gweithio ar y prosiect, yn ogystal â’r curadur David Drake. Mae’r dathliad hwn yn nodi diwedd y prosiect gwych o weithio gyda’r British Council ar y fenter rhwng y DU a’r Gwlff.

Yr artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa yw: Ammar Al Attar, Ben Soedira, Sara Al Obaidly, Eman Ali, Gillian Robertson, Mohammed Al-Kouh, Hassan Meer, Hussain Almosawi a Mariam Alarab, Richard Allenby-Pratt, Mashael Al Hejazi, Abi Green a Sebastian Betancur-Montoya, Josh Adam Jones, Moath Alofi a Zahed Sultan.

Mae’r arddangosfa’n parhau hyd 21 Mawrth 2020 ac mae’n agored o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 11am - 4pm.

Continue reading

Work to Be Done

Posted on January 29, 2020

Mae cymdeithas yn disgwyl i ni oll weithio a thalu trethi. Os yw cymdeithas yn mynd i weithredu’n llwyddiannus, mae’n hanfodol fod pawb yn cyfrannu. Rydyn ni’n parchu’r weithred o weithio – ond mae parch pobl at y gwahanol broffesiynau a swyddi o wahanol lefelau’n creu hierarchaeth amrywiol. Mae llawer o gymdeithasau’n ein hannog ni i gael plant – ac i greu’r genhedlaeth nesaf i gyfrannu at ddatblygiad, trethi a gwasanaethau’r genedl yn y dyfodol.

Mae Happy Families yn gêm gardiau Brydeinig draddodiadol a grëwyd tua chanol yr 1800au sy’n dangos teuluoedd gyda phedwar aelod hapus. Mam a tad, sef Mrs a Mr Math penodol o swydd, sy’n rhannu’r un proffesiwn, a dau blentyn, merch a bachgen, sy’n dilyn yr un trywydd â’u rhieni. Dros 150 o flynyddoedd yn ôl, roedd hwn yn syniad chwyldroadol am deulu oedd yn gweithio. Sgwn i a oedd hwn yn rhagweld sut y byddai teulu hapus yn gweithredu yn y dyfodol neu a ydoedd yn ddim byd mwy na syniad rhyfedd diniwed na thalodd bobl lawer o sylw iddo? Menyw a dyn, y ddau yn weithwyr annibynnol, yn gweithio fel peirianwyr, ffotograffwyr, pobwyr, yn gweithio er mwyn y teulu ac am eu bywoliaeth mewn labordai ac ar longau pysgota. Os yw ‘Happy Families’ yn uned berffaith a chytbwys, gallwn ni weld y gymdeithas ddelfrydol mewn un pecyn o gardiau. Mae pawb yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei fwynhau ac yn gallu rhoi o’u gorau.

Dydy byd y ferch a byd y dyn gyda chodau arbennig y ddau ryw ddim yn rhith. Mae’r agendor rhwng y ddau fyd, yn y gwaith ac yn y cartref, wedi eu gwau ynghyd mewn patrymau dirifedi. Mae’n anrhydedd i allu dewis eich proffesiwn a’ch gweithle eich hun. I allu dewis cymryd cyfnod o absenoldeb rhiant ac aros adref gyda’r plant. I ennill digon i fyw arno. Mae’r anrhydeddau hyn yn mynd y tu hwnt i faterion cydraddoldeb y rhywiau – dyma’r dewisiadau y mae rhai pobl yn eu gwneud, pa ryw bynnag ydyn nhw.

Wrth i newidiadau strwythurol ysgwyd sylfeini’r amgylcheddau gwaith yn Ewrop, bydd gwaith caled traddodiadol yn diflannu a bydd y galw am weithwyr meddal yn cynyddu. Does dim angen bellach am y bwlch rhwng y rhywiau mewn cymdeithas amaethyddol, os oedd un erioed. Mae hierarchaeth yn chwalu hefyd. Mae cwmnïau’n cydnabod mor hanfodol bwysig yw cael gweithle sy’n cael ei barchu’n fawr, ac mae’n gallu sicrhau hynny drwy gyfathrebu ac ymddiriedaeth rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr. Dydy hyder ddim yn gysylltiedig ag un rhyw arbennig. Mewn gweithle cynhyrchiol, gall pawb weithio fel nhw eu hunain a dylanwadu ar yr hyn y mae ‘gwaith’ yn ei olygu. Yn debyg i’r hyn sy’n digwydd yn ein cartrefi, mae Teulu Llawen yn cydweithio i gyflawni tasgau pob dydd.

Beta Bajgart, Johan Bävman, Katrina Neiburga, Mikko Suutarinen, a Nella Nuora yw’r artistiaid a fydd yn arddangos eu gwaith dan ofalaeth Whack 'n' Bite.

Continue reading

The Place I Call Home - Edinburgh

Posted on January 20, 2020

Mae The Place I Call Home yn cyrraedd Summerhall yng Nghaeredin ym mis Chwefror yn rhan o’r amserlen deithio sy’n cynnwys deg safle mewn saith gwlad. Mae’r arddangosfa, dan ofalaeth David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Wales, yn dangos gwaith gan 15 o ffotograffwyr ac artistiaid o’r byd Arabaidd a’r Deyrnas Unedig. Mae’r gweithiau’n archwilio’r thema ‘cartref’ drwy straeon am ddiwylliant a threftadaeth sy’n herio ystrydebau ac yn taflu golau ar y gwahaniaethau a’r elfennau sy’n debyg i’w gilydd. Mae’r arddangosfa yn rhoi ffocws arbennig ar fywydau, profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc mewn byd dynamig sy’n newid yn gyflym lle mae pobl yn teithio fwy a chanddynt fwy o gysylltiadau byd-eang nag erioed o’r blaen.

Enillodd y ffotograffydd Albanaidd Gillian Robertson ei Diploma Uwch mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Napier Caeredin, cyn sefydlu busnes ffotograffiaeth llewyrchus. Bedair blynedd yn ôl, symudodd i Ras Al Khaimah yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig gyda’i gŵr a’i merch. Enw prosiect Robertson ar gyfer The Place I Call Home yw ‘Melting Boundaries’ ac mae’n archwilio elfennau rhyngddiwylliannol a pherthnasoedd sydd wedi ffurfio rhwng diwylliannau pobl Prydain a’r Emiraethau o fewn yr ardal lle mae hi wedi creu ei chartref.

Cafodd yr artist Prydeinig-Indonesaidd Ben Soedira ei fagu yn Dubai, a phan oedd yn ddeunaw oed symudodd i’r Alban i astudio ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Glasgow. Mae’n dal i fyw yn Glasgow heddiw. Mae prosiect Soedira, ‘Foreign Sands’, yn cylchdroi o amgylch y syniadau o berthyn a theimlo fel tramorwr, gan gwestiynu beth sy’n gwneud i ni deimlo’n gartrefol pan fyddwn ni’n cael ein diwreiddio o le sy’n gyfarwydd. Mae’n cyfleu manylion y dirwedd ddinesig i ddangos sut mae pobl yn symud o amgylch dinas fodern Dubai a sut maen nhw’n dylanwadu ar ei datblygiad.

Mae’r arddangsofa hefyd yn cynnwys ffilm, ffotograffiaeth a llyfrau gwaith artist gan Zahed Sultan (Kuwait/DU), Hassan Meer (Oman), Eman Ali (Oman/DU), Sara Al Obaidly (DU/Qatar), Mashael Al Hejazi (Qatar), Moath Alofi (Saudi Arabia), Mohammed Al-Kouh (Kuwait), Hussain Almosawi a Mariam Alarab (Bahrain), Ammar Al-Attar (Emiraethau Arabaidd Unedig), Abi Green (Qatar/DU), Sebastian Betancur-Montoya (Qatar/Colombia), Josh Adam Jones (DU/Oman) a Richard Allenby-Pratt (DU/ Emiraethau Arabaidd Unedig).

Continue reading

Diwylliannau Glo

Posted on January 14, 2020

Derbyniad Croesawu: Dydd Gwener 31 Ionawr , 6.30pm

Cyflwyniadau a sgyrsiau: Dydd Sadwrn 1 Chwefror, 10am-4pm

Ffotogallery, Yr Hen Ysgol Sul, Stryd Fanny, Cathays, Caerdydd CF24 4EH

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb: archebu nawr.

Mae glo yn rhan o graidd y byd modern. Mae wedi creu cymunedau egnïol unigryw, mae wedi gweddnewid tirweddau ac, am sawl canrif, glo oedd y nwydd pwysicaf yn y byd, cymaint felly nes y cafodd yr enw Y Brenin Glo.

Mae glo yn dal i gynhyrchu llawer iawn o egni’r byd heddiw, ond erbyn hyn rydyn ni’n ei ystyried yn brif droseddwr yn y problemau gyda chynhesu byd-eang. Un o’r camau canolog er mwyn arbed y blaned yw rhoi’r gorau’n raddol i ddefnyddio glo.

Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn 1 Chwefror i fwynhau diwrnod o sgyrsiau, dangosiadau, hel atgofion a thrafodaeth sy’n tynnu sylw at natur y byd a grëwyd gan lo ac edrych ymlaen at yr addewid o fyd ôl-garbon.

Cafodd y diwrnod ei ysbrydoli gan lyfr Derrick Price, Coal Cultures: Picturing Mining Landscapes and Communities, ac mewn sgwrs fer bydd yn cyflwyno rhai o brif themâu’r diwrnod. Byddwn hefyd yn dangos gwaith 2001 Jeremy Dellter pan ail-greodd y gwrthdaro yn Orgreave - The Battle of Orgreave a grëwyd 17 mlynedd wedi i’r gwrthdaro ddigwydd ac wedi iddo ddod yn foment eiconig yn streic y glowyr.

Bydd cyfle i weld detholiad newydd o luniau o Archif y Cymoedd a ffynonellau eraill.

Bydd David Severn yn ein cyflwyno ni i’w waith am lowyr o wreiddiau Affro-Caribïaidd - cyfres o bortreadau o lowyr Prydeinig du yn Nottingham.

Yn ymddangos hefyd bydd gosodiad 3D Richard Jones, Coal Face, sef astudiaeth o ddiwydiant glo Cymru wedi ei ddarlunio yn wynebau’r rheiny a weithiodd ynddo.

Bydd Gina Glover yn trafod ei phrosiect, My Anthropocene. Ystyr y cysyniad hwn, mae Gina’n esbonio, yw byd sy’n cael ei siapio fwy a mwy gan ymyrraeth ddynol. Mae ei ffotograffau’n archwilio’r ffordd y mae twf economaidd, defnyddio ynni ffosil a thechnolegau newydd wedi achosi i ni gamu dros ffiniau cynaliadwyedd ecolegol naturiol, gan gynnwys yr hinsawdd, yr ydym ni fel pobl yn ogystal â rhywogaethau eraill yn dibynnu’n gyfan gwbl arno. Mae hi’n gofyn: sut allwn ni gyfathrebu’r posibilrwydd arswydus hwn yn weledol mewn ffordd sy’n caniatáu gobaith am newid?

Yn ymddangos hefyd bydd ffilm 1940 Pen Tennyson gan Ealing Studios, sef The Proud Valley. Cafodd ei ffilmio ym maes glo De Cymru ac roedd yn serennu Paul Robeson fel Americanwr Affricanaidd yn canfod gwaith fel glöwr.

Mae hon yn rhaglen lawn a chyffrous, ac mae’n gyfle i weld arddangosiadau o waith a thrafod y problemau sy’n gysylltiedig â glo a diwylliannau glo.

Continue reading

A Woman's Work

Posted on January 10, 2020

Ynghylch y Prosiect

Hyd yn hyn, nid yw’r hanes am rôl merched mewn diwydiant a gwaith technolegol yn Ewrop ar ôl y rhyfel yn stori sydd wedi cael ei hadrodd, ac mae archifau clyweledol wedi tueddu i ganolbwyntio ar ‘ddiwydiannau trwm’ lle byddai dynion yn gweithio fel y diwydiannau glo, haearn a dur, neu sectorau peirianneg graddfa fawr fel adeiladu llongau, codi adeiladau, awyrofod a gweithgynhyrchu ceir. Eto mae merched yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn llawer o’r diwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaethu – er enghraifft tecstilau, electroneg, bwyd a diod, plastigau a chynhyrchion fferyllol – realiti sydd heb ei gydnabod na’i gynrychioli’n gryf yn archifau diwylliannol Ewrop.

Mae A Woman’s Work’ yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau digidol i gywiro’r diffyg hwnnw drwy waith artistig ar y cyd a chyfnewid gwaith ar draws ffiniau, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r ffordd y mae diwydiant a’r rhywiau’n cael eu gweld fel arfer yn Ewrop. Mae’r prosiect yn archwilio’r berthynas newidiol rhwng y cartref a’r gweithle, a sectorau twf fel y diwydiant cyllid, y cyfryngau a thelegyfathrebu, lle mae gwaith merched yn cael ei ailddiffinio drwy ddatblygiadau technolegol a datblygiadau wedi’r globaleiddio.

Mae A Woman’s Work yn rhaglen gydweithredol 24 mis, wedi’i hariannu gan Creative Europe, lle mae partneriaid diwylliannol yn y Deyrnas Unedig, Lithwania, Iwerddon, Ffrainc, y Ffindir a’r Almaen yn cydweithio i geisio cyflawni’r amcanion hyn:

Yn dilyn gweithdy cynllunio cychwynnol yn Kaunas, Lithwania ym mis Hydref 2018, lansiwyd galwad agored am gynigion a dewisodd y partneriaid 20 o brosiectau artistiaid i gael eu dangos ar y llwyfan ar-lein ac mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau. Dyma nhw:

Yn ystod 2019/2020 mae cyfres o gomisiynau/preswyliadau i artistiaid a churaduron, yn cael eu gweithredu, dan ofal y partneriaid, a chynhaliwyd symposiwm cyntaf A Woman’s Work yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2019. Mae crynodeb o’r gweithgaredd hwn ar gael yma.

Partneriaid

Ffotogallery (Caerdydd, Cymru)

Sefydlwyd Ffotogallery yn 1978 a dyma’r asiantaeth datblygiad cenedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru. Rydym yn edrych tuag allan, gyda rhaglen o arddangosfeydd yn arddangos artistiaid o Gymru a gweddill y byd. Mae Ffotogallery yn ceisio ehangu ei effaith a’i ddylanwad drwy arddangosiadau teithiol, gwaith cydweithredol gyda mudiadau ac orielau eraill, cyhoeddi mewn print ac ar-lein a rhaglen addysg ac allgymorth eang. Rydym wedi cychwyn ac rydym yn parhau i redeg yr ŵyl ddwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd. Mae gan Ffotogallery bolisi gweithredol o gomisiynu gwaith newydd sydd, yn arbennig, yn darparu system gefnogi hanfodol i ffotograffwyr ac artistiaid gwaith lens yng Nghymru, gan ffurfio cofnod parhaus o ddiwylliant yng Nghymru ac adlewyrchu’r prif agweddau a datblygiadau mewn ffotograffiaeth yn fwy cyffredinol.

Undeb Artistiaid Ffotograffiaeth Lithwania (Kaunas, Lithwania)

Cafodd yr Undeb ei sefydlu yn 1933 a’i ail enwi yn Undeb Ffotograffwyr Celf Lithwania yn 1989 (sy’n ei gyfeirio ato’i hun fel Cymdeithas Ffotograffwyr Lithwania). Mae’r sefydliad yn trefnu arddangosfeydd ffotograffiaeth, seminarau a gweithgareddau i gefnogi ffotograffwyr, yn arbennig i annog cenhedlaeth iau o ffotograffwyr i barhau’r traddodiad o ffotograffiaeth o Lithwania. Mae Oriel Ffotograffiaeth Kaunas wedi ei lleoli yng nghalon Hen Dref ganoloesol Kaunas. Mae’r oriel yn un o’r mannau arddangos celf mwyaf pwysig yn Lithwania a’r Taleithiau Baltig, sy’n ymroddedig i ffotograffiaeth a chelf gyfoes. Mae’r gofod di-elw hwn yn cyflwyno prosiectau cyfoes arloesol yn ogystal ag arddangosfeydd ffotograffiaeth traddodiadol. Mae’r sefydliad yn ymgysylltiol â Gŵyl Ffotograffiaeth Kaunas, sy’n ddigwyddiad rhyngwladol blynyddol.

Gallery of Photography (Dulyn, Iwerddon)

Sefydlwyd Gallery of Photography yn 1978 a dyma’r ganolfan genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth gyfoes yn Iwerddon. Mae wedi ei lleoli mewn adeilad sydd wedi ennill sawl gwobr yn Temple Bar ynghanol dinas Dulyn. Mae rhaglen yr oriel o arddangosiadau wedi eu curaduro yn arddangos gwaith gan artistiaid Gwyddelig a rhyngwladol newydd a rhai sydd wedi eu hen sefydlu. Mae’r sefydliad hefyd yn darparu ystafelloedd tywyll a stiwdio ddigidol gyda’r holl offer angenrheidiol, lle mae modd cynhyrchu printiau a sganiau o safon arddangosiad i’r lefelau uchaf. Mae’r Oriel hefyd yn cynnal cyrsiau ffotograffiaeth, dosbarthiadadau meistr a gweithdai ac mae’n gartref i siop lyfrau ffotograffau blaenllaw Iwerddon.

Mae Oriel Ffotograffiaeth Iwerddon yn sefydiad di-elw sydd wedi ei chefnogi gan y Cyngor Celfyddydau a Chyngor Dinas Dulyn.

Le Château d’Eau (Toulouse, Ffrainc)

Sefydlwyd y mudiad di-elw Le Château d’Eau – sef twr dŵr gynt sydd yn awr yn un o ganolfannau ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw Ffrainc – gan y ffotograffydd o Ffrancwr Jean Dieuzaide yn 1974. Daeth Le Château d’Eau yn gydnabyddedig yn rhyngwladol am arddangos gweithiau gan artistiaid clodfawr fel Lee Friedlander, Walker Evans, Edward Weston, Robert Doisneau, Brassaï a Cartier-Bresson. Gyda detholiad o waith gan artistiaid enwog a newydd mae Le Château d’Eau yn lle i gynhyrchu a dosbarthu: arddangosfeydd, cyhoeddi llyfrau, cyfryngu a chanolfan adnoddau. Mae deg i ddeuddeg o arddangosfeydd yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt o bwysigrwydd rhyngwladol. Ar sail ei brofiad a’i berthynas arbennig gyda gwahanol artistiaid, mae Le Château d’Eau yn weithredwr diwylliannol yn Ewrop sy’n chwilio drwy’r amser am bartneriaethau creadigol newydd.

Whack 'n' Bite (Y Ffindir)

Mae Whack ´n` Bite yn gynulliad a sefydlwyd yn ddiweddar gyda dau aelod sylfaenu (y curadur Tuula Alajoki a’r artist gweledol / dylunydd Johanna Havimäki) o’r Ffindir. Fel band gweledol mae Whack ´n´ Bite yn croesawu artistiaid a chydweithwyr i gydweithio ar brosiectau ac ynghylch prosiectau sy’n ymwneud â mynegiant ffotograffig. Mae gan Alajoki a Havimäki gefndir mewn celfyddydau gweledol a phrofiad o ddatblygu cynnwys, cynhyrchu celf a chydweithio’n rhyngwladol. Yn 2012–2018 Alajoki oedd cyfarwyddwr yr ŵyl deirblynyddol Gŵyl Ffotograffiaeth Backlight. Mae Whack ´n´ Bite yn cyfranogi yn y cyfrifoldebau curaduro yn ogystal â datrysiadau gweledol gyda’r partneriaid sy’n trefnu’r ŵyl, gyda’r nod o estyn A Woman´s Work ymhellach i’r gogledd.

Fotosommer Stuttgart e.V. (Yr Almaen)

Mae Fotosommer Stuttgart yn sefydliad di-elw i hybu ffotograffiaeth gyfoes. Mae Fotosommer yn trefnu gŵyl ryngwladol o ffotograffiaeth bob tair blynedd yn Stuttgart, gan gynnwys arddangosfeydd ffocal, rhaglen o wobrau ffotograffiaeth cystadleuol, yn ogystal â digwyddiadau sy’n cyd-fynd â nhw ar draws y ddinas. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosiadau ffotograffig, gweithdai, darlithoedd, trafodaethau, sesiynau gwybodaeth, teithiau gyda thywysydd a fforwm. Fotosommer yw un o’r digwyddiadau ffotograffiaeth mwyaf yn yr Almaen ac mae’n sicrhau lefelau uchel o gyfranogaeth gan artistiaid ledled Ewrop. Yn ystod y blynyddoedd pan nad oes gŵyl, mae Fotosommer yn trefnu amrywiaeth o arddangosfeydd, gweithdai a phrosiectau.

Continue reading

Many Voices, One Nation - Merthyr Tydfil

Posted on December 13, 2019

In the penultimate leg of the exhibition’s tour, Many Voices, One Nation’s next stop is REDHOUSE, Merthyr Tydfil, from 29 January – 23 February 2020. REDHOUSE is an arts and creative industries centre situated in the Old Town Hall — a magnificent Grade II* listed building — in the heart of Merthyr Tydfil.

Many Voices, One Nation is a touring exhibition curated by Ffotogallery and the National Assembly for Wales. Commissioned by the National Assembly for Wales, the exhibition forms part of the programme of events and activities throughout 2019 to mark the first 20 years of devolution in Wales.

It uses photography and lens-based media to explore the hopes and aspirations for the future of Wales. Six artists living and working in Wales have been commissioned, incorporating photography, video and lens-based media, digital imaging, installation and mixed media. The exhibition aims to capture the richness and diversity of the geography, culture and society of Wales, and, wherever possible, encourage public participation.

The artists who have been commissioned are Luce + Harry, Zillah Bowes, Edward Brydon, Huw Alden Davies, James Hudson and Jon Pountney.

Continue reading

Phrame PhotoJam

Posted on October 29, 2019

Are you a keen photographer with some work that you’d like to discuss with others? Would you like to meet in a welcoming, encouraging environment to chat with photographers and other creatives from a range of backgrounds?

If so, the Phrame PhotoJam is for you! It’s the latest in a series of informal and free portfolio reviews hosted by Phrame, a collective of creative people who love sharing work, ideas and their expertise. So, whether you are a student or a teacher, amateur or professional, do come along to our next PhotoJam!

You need to be aged 16+ to attend

Continue reading

Go Home Polish - Digwyddiad Sgrinio Arbennig

Posted on September 20, 2019

Am ei fod wedi drysu braidd gan graffiti oedd wedi’i sgriblo mewn stryd gefn yng Nghymru oedd yn dweud ‘Go Home Polish’, cychwynnodd y ffotograffydd Michal Iwanowski ar daith gerdded mil o filltiroedd yn ôl i fan ei enedigaeth i chwilio am adref.

Yn dilyn llwyddiant arddangosfa Michal Iwanowski dan yr un enw yng Ngŵyl Diffusion 2019, mae’n bleser mawr gennym eich croesawu i sgrinio arbennig o’r ffilm sy’n mynd law yn llaw â’r arddangosfa ar ddydd Mercher 30 Hydref.

Continue reading

Croeso

Posted on September 20, 2019

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno’r arddangosfa gyntaf yn ein cartref newydd yn Cathays, Croeso. I ddathlu ein dychweliad i brifddinas Cymru, rydym wedi mynd ati’n ofalus i ddethol nifer o weithiau o’r archif sy’n gysylltiedig â Chaerdydd - o Parklands of Cardiff David Bowden i’r gwaith mwy diweddar Cardiff After Dark gan Maciej Daowicz a chyfres twll pin Faye Chamberlain Sonder.

Rydym yn edrych ymlaen at wreiddio Ffotogallery yng nghalon bywyd diwylliannol y ddinas, mewn cymuned fywiog, amlddiwylliannol. Ein nod yw adeiladu ar y partneriaethau yr ydym wedi’u sefydlu – yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol – a datblygu perthynas newydd gydag amrywiaeth eang o fudiadau celfyddydol, addysgol, cymunedol a diwydiant creadigol wrth ddarparu ein rhaglen ar gyfer y dyfodol.

Mae’r arddangosfa’n parhau hyd ddydd Sadwrn 12 Hydref. Gwelwch ein tudalen ‘Ymweld’ am fanylion sut i ddod o hyd i ni.

Continue reading

The Place I Call Home - Derby, y Deyrnas Unedig

Posted on September 20, 2019

Gan weithio mewn partneriaeth â FORMAT, mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i gyflwyniad agoriadol The Place I Call Home yn Riverlights, Derby.

Mae’r arddangosfa draws-ddiwylliannol hon, a gomisiynwyd gan y British Council ac a guradwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, yn cyflwyno gwaith 13 o artistiaid, a phob un yn defnyddio ffotograffiaeth i archwilio’r syniad o gartref drwy brofiadau pobl sy’n byw yn y Gwlff a’r Deyrnas Unedig mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yn Derby tan 28 Medi, ac mae’n teithio i dri lleoliad arall ym Mhrydain (gan gynnwys cartref newydd Ffotogallery yng Nghaerdydd) yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.

Continue reading

The Place I Call Home - Caerdydd

Posted on September 20, 2019

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i ddangosiad cyntaf The Place I Call Home, yng nghartref newydd Ffotogallery yn Cathays, Caerdydd.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yng Nghaerdydd tan 21 Rhagfyr, ac yn teithio i ddau safle arall ym Mhrydain, yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.

Dyma’r artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Mohammed Al Kouh, Ammar Al Attar, Moath Alofi, Sara Al Obaidly, Mashael Al Hejazi, Mai Al Moataz, Abi Green & Sebastian Betancur-Montoya, Ben Soedira, Gillian Robertson, Josh Adam Jones, Richard Allenby-Pratt, Hussain Almosawi & Mariam Alarab a Zahed Sultan.

Ewch i safle’r prosiect yn theplaceicallhome.org i ganfod rhagor am yr artistiaid a’r prosiect.

Continue reading

The Place I Call Home - Cardiff copy

Posted on September 20, 2019

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i ddangosiad cyntaf The Place I Call Home, yng nghartref newydd Ffotogallery yn Cathays, Caerdydd.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yng Nghaerdydd tan 21 Rhagfyr, ac yn teithio i ddau safle arall ym Mhrydain, yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.

Dyma’r artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Mohammed Al Kouh, Ammar Al Attar, Moath Alofi, Sara Al Obaidly, Mashael Al Hejazi, Mai Al Moataz, Abi Green & Sebastian Betancur-Montoya, Ben Soedira, Gillian Robertson, Josh Adam Jones, Richard Allenby-Pratt, Hussain Almosawi & Mariam Alarab a Zahed Sultan.

Ewch i safle’r prosiect yn theplaceicallhome.org i ganfod rhagor am yr artistiaid a’r prosiect.

Continue reading

The Place I Call Home - Bahrain

Posted on September 20, 2019

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i’r chweched dangosiad o The Place I Call Home, yng Nghanolfan Gelf Amgueddfa Genedlaethol Bahrain. Y Ganolfan Gelf yw’r unig un o’i math yn Nheyrnas Bahrain, ac mae wedi ymrwymo i wella gwerthfawrogiad a dealltwriaeth pobl o’r celfyddydau modern a chyfoes. Cafodd ei ffurfio fel y Ganolfan Gelf ym mis Mai 1992 ac mae’n un o orielau gorau’r ddinas. Daeth yn arweiniol yn y wlad am gyflwyno arddangosiadau clodfawr gan artistiaid pwysig. Trwy gydol y flwyddyn, mae’r Ganolfan Gelf yn cynnal digwyddiadau fel gweithdai, sgyrsiau gan artistiaid a darlithoedd ac arddangosfeydd ffotograffiaeth.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yng Nghaerdydd tan 21 Rhagfyr, ac yn teithio i ddau safle arall ym Mhrydain, yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.

Dyma’r artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Mohammed Al Kouh, Ammar Al Attar, Moath Alofi, Sara Al Obaidly, Mashael Al Hejazi, Mai Al Moataz, Abi Green & Sebastian Betancur-Montoya, Ben Soedira, Gillian Robertson, Josh Adam Jones, Richard Allenby-Pratt, Hussain Almosawi & Mariam Alarab a Zahed Sultan.

Ewch i safle’r prosiect yn theplaceicallhome.org i ganfod rhagor am yr artistiaid a’r prosiect.

Continue reading

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Posted on August 21, 2019

Arddangosfa deithiol yw Nifer o Leisiau, Un Genedl, a chafodd ei churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, ac Alice Randone, curadur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Comisiynwyd yr arddangosfa gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cael eu cynnal drwy gydol 2019 i nodi'r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.

Mae arddangosfa 'Nifer o Leisiau, Un Genedl' yn cychwyn ei thaith yn y Senedd, sef canolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru, cyn iddi ymweld â gwahanol leoliadau ledled Cymru rhwng mis Hydref 2019 a mis Mehefin 2020.

Mae'r arddangosfa'n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau sy'n defnyddio lensys i archwilio gobeithion a dyheadau pobl Cymru at y dyfodol.

Comisiynwyd chwe artist sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru, ac mae'r arddangosfa'n cynnwys ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau lens, delweddu digidol, gosodiadau a chyfryngau cymysg. Nod yr arddangosfa yw cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth ddaearyddol, ddiwylliannol a chymdeithasol Cymru a, lle bynnag y bo modd, annog y cyhoedd i gyfranogi.

Y artistiaid:

Luce + Harry
Zillah Bowes
Edward Brydon
Huw Alden Davies
James Hudson
Jon Pountney

Continue reading

Many Voices, One Nation - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Posted on August 21, 2019

Yn dilyn ei début llwyddiannus yn y Senedd ym mis Medi, bydd dangosiad nesaf Many Voices, One Nation yn Oriel 2 yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, a bydd modd ei weld o 6 Hydref 2019 hyd 6 Ionawr 2020. Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ac mae’n cynnwys theatr, neuadd gyngerdd, stiwdio a sinema, yn ogystal â phedwar safle oriel, caffis, bariau a siopau.

Mae Many Voices, One Nation yn arddangosfa deithiol dan ofal Ffotogallery a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei gomisiynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhan o’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n parhau drwy 2019 gyfan i ddathlu’r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoliad yng Nghymru.

Mae’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens i archwilio gobeithion a dyheadau am ddyfodol Cymru. Comisiynwyd chwe artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru mewn meysydd fel ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau’r lens, delweddu digidol, gosodiad a chyfryngau cymysg. Nod yr arddangosfa yw dangos cyfoeth ac amrywiaeth y ddaearyddiaeth, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru a, lle bynnag y bo modd, annog cyfranogaeth y cyhoedd.

Yr artistiaid a gomisiynwyd yw Luce + Harry, Zillah Bowes, Edward Brydon, Huw Alden Davies, James Hudson a Jon Pountney.

Continue reading

One Match

Posted on July 12, 2019

Mae'n bleser o'r mwyaf gennym eich gwahodd i ymuno â ni i fwynhau rhagolwg arbennig o'r arddangosfa newydd 'One Match' yn Ffotogallery, o 6pm ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2019 yn 29 Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1BT.

Bydd Cwpan y Byd i'r Digartref, sydd yn ei 17eg flwyddyn erbyn hyn, yn cychwyn yng Nghaerdydd ar Gorffennaf 27ain 2019 ac yn dod ag oddeutu 500 o chwaraewyr o bob cwr o'r byd i brifddinas Cymru. Mae'r ffotograffydd Paul John Roberts wedi bod yn dilyn hynt chwaraewyr a hyfforddwyr Cymru yn yr wythnosau sy'n arwain at y gystadleuaeth, gan ddangos y treialon, y trafferthion a'r dathliadau, yn ogystal â thynnu sylw at y manteision cymdeithasol y gall Cwpan y Byd i'r Digartref eu rhoi i bobl. Mae'r arddangosfa 'One Match', a gefnogir gan Ffotogallery, yn gobeithio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o unigolion sy'n wynebu digartrefedd, a herio'r ystrydebau negyddol y mae cymdeithas yn eu priodoli iddynt.

Trwy bêl-droed, mae'r bobl sydd yn y lluniau yng ngwaith Roberts yn dod yn aelodau o'r un tîm sy'n dysgu i rannu ac ymddiried. Mae ganddynt gyfrifoldeb i fynd i sesiynau hyfforddi a gemau, i fod yn brydlon ac yn barod i gymryd rhan. Maent yn teimlo eu bod yn rhan o rywbeth sy'n fwy na nhw eu hunain. O'r stryd i'r stadiwm, mae'r teimlad grymus y maent yn ei gael o gymryd rhan yn y gemau'n eu helpu i weld eu bod yn gallu newid eu bywydau.

Bu Paul John Roberts yn siarad am ei amser yn gweithio ar y prosiect:

"Roeddwn i'n gwybod na fyddwn i'n gallu cynnwys popeth yn y gwaith, ond y gallwn geisio gweld yn fwy dwfn i mewn i straeon y chwaraewyr drwy siarad gyda phawb yr oeddwn yn eu cyfarfod, gan ddogfennu tafellau bach o'u harferion pob dydd a gwylio'r munudau bach personol, a chysylltu cystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref gyda'r bobl sy'n rhoi grym iddi drwy eu bywydau.

Rwyf wedi profi hapusrwydd mawr ac anobaith llwyr yn ystod y prosiect yma. Mae'n ysgogi myfyrdod a hunan-ymholi ynof am y ffordd y mae pobl yn taflu o'r neilltu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, ni ein gilydd,"

Dyma ddywedodd yr actor a'r actifydd Michael Sheen, a arweiniodd y bid llwyddiannus i Gymru gynnal y gystadleuaeth eleni:

“Mae'r gweddnewid a welwn yn y chwaraewyr, sy'n troelli o amgylch y pêl-droed, yn ysbrydoliaeth gref ac yn rhywbeth y gallwn oll gyfrannu'n bositif tuag ato. Mae'r cae pêl-droed yn gweithio orau pan fyddwn oll yn helpu ein gilydd. Mae bywyd yr un fath. Dydy digartrefedd ddim yn rhywbeth sy'n gysylltiedig â’r 'bobl eraill'. Mae'n ymwneud â 'ni'! Mae gennym gyfrifoldeb i'n helpu ein gilydd."

Bydd 'One Match' yn arddangos o 27ain Gorffennaf hyd 10fed Awst yn y sioe olaf i Ffotogallery ei chynnal yn ei leoliad yn Stryd y Castell am ei fod wedi sefydlu ei gartref tymor hir yn Cathays erbyn hyn, a fydd yn agor i'r cyhoedd ym mis Medi 2019.

Continue reading

Timeshifts / Before the Content

Posted on April 10, 2019

Timeshifts

Cuddio’r gwrthsafol – troi’r byrhoedlog yn weladwy. Egwyddor newydd ar gyfer cynrychioli amser mewn ffotograffiaeth. Mae cyfres Timeshifts yn defnyddio egwyddor nodweddiadol ffotograffig i gynrychioli amser mewn ffordd newydd; lle mae’r negatif a’r positif yn cyd-niwtraleiddio’u hunain mewn lliw, disgleirdeb a chyferbyniad. Mae Timeshifts yn wahanol i ddulliau ffotograffig eraill fel cymylu symudiad (motion blur) neu ddilyniannu (sequence) gan mai dim ond y newid mewn amser y mae’n ei ddangos. Mae holl elfennau eraill y ddelwedd yn niwtraleiddio i 50% llwyd. Fel y mae dau bwynt gwahanol yn ein galluogi i weld gofod, mae troslunio dwy ennyd o amser yn dangos gofod o amser.

Before the Content

Mae Before The Content yn gyfres o ffotograffau heb gamera. Ond, fel ffotograffau, maent yn cynnig ciplun. Maen nhw’n dangos yr ennyd fer honno yn natblygiad gwefan lle gellir gweld yr adeiledd, cyn i’r cynnwys gael ei lwytho. Ar adeg pan mae cynnwys a negeseuon yn ein llethu, mae’r gweithiau yma’n cynnig hoe fach i ni oedi ac agor ein hysbryd a’n dirnadaeth.

Continue reading

The Nemesis Machine

Posted on April 10, 2019

Mae The Nemesis Machine yn ddarn mawr o waith sy’n cynrychioli cymhlethdodau’r ddinas amser real fel system sy’n newid a symud yn barhaol. Mae’n darlunio bywyd yn y metropolis ar sail data amser real sy’n cael ei ddarlledu o rwydwaith o synwyryddion, gan olygu bod y ddinas replica, o ddarnau electronig, yn adlewyrchu, mewn amser real, yr hyn sy’n digwydd y tu allan. Mae’r Nemesis Machine yn edrych yn debyg i Big Brother drwy lens Rhyngrwyd y Pethau. Mae’n rhoi golwg o’r awyr i’r ymwelwyr o ddinas seibernetig, clwstwr wedi’i animeiddio o ran ei olwg a’i sain o nendyrau a adeiladwyd o silicon a byrddau cylched.

Mae camerâu bychain yn tynnu lluniau o ymwelwyr y ddinas fel eu bod yn dod yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r gwaith yma’n mynd y tu hwnt i ryngweithio syml gydag un defnyddiwr, drwy fonitro a bwrw golwg ar ymddygiad, gweithgareddau a gwybodaeth newidiol yn y byd o’n cwmpas gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u rhwydweithio a gwybodaeth wedi’i throsglwyddo’n electronig ar draws y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys arsylwi o bell drwy synwyryddion wedi’u creu’n bwrpasol, cyfrifiaduron a chamerâu wedi’u rhwydweithio. Mae’r gwaith celf yn diwygio’r wybodaeth a’r data yma gan greu’r hyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘realitioedd paralel’.

Trwy’r Nemesis Machine, mae Stanza yn creu gofod cymdeithasol newydd sy’n bodoli rhwng y rhwydweithiau ar-lein annibynnol lle bydd dinasyddion y dyfodol yn cael eu cyfuno mewn amser real i greu dinasyddion data wedi’u cysylltu â’i gilydd. Daw’r tirlun yn rhywbeth y gellir ei wylio. Mae’r gwaith yma’n gofyn pwy sy’n berchen ar y data ac yn rhagweld y bydd ffiniau rhithwir yn creu systemau newydd o reolaeth.

Continue reading

Foley Objects / Arr. for a Scene

Posted on April 09, 2019

Mae’r gyfres Foley Objects yn chwarae gêm o synesthesia. Mae’r gwaith yn cynnwys lluniau o wrthrychau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae gan y rhain benawdau sy’n cynnig diffiniadau sy’n ymddangos yn hollol ddigyswllt â’r gwrthrychau. Ar ôl astudio’r llun, daw’r syllwr i ddeall bod y geiriau’n cyfeirio at y sain a gynhyrchir gan y gwrthrychau yn y lluniau, eu bod nhw’n rhoi cyfeiriad meddyliol i ni at brofiad sydd heb gysylltiad o gwbl â’r llun.

Mae Kina wedi casglu gwrthrychau gan amrywiol gynllunwyr sain ac artistiaid Foley. Gallwch ystyried y casgliad hwn o luniau’n archif o seiniau, yn ogystal â dawns rhwng y dogfennu a chwarae disynnwyr.

-

Mae Arr. for a Scene yn dogfennu dau artist Foley pan oeddent yn cynhyrchu seiniau ar gyfer un o’r golygfeydd ffilm enwocaf yn hanes ffilm (golygfa’r gawod yn Psycho Alfred Hitchcock, 1960). Mae’r perfformiad yma wedi’i ddogfennu ar ffilm 35 mm. Nid yw golygfa wreiddiol y ffilm i’w gweld ac mae’r gwyliwr yn gweld dim byd ond yr artistiaid Foley yn creu effeithiau sain ar gyfer yr olygfa, megis y sŵn traed, y gawod a drws yn cau. Mae’r ffilm yn archwilio’r ffordd y mae seiniau’n cael eu hadeiladu i’w defnyddio yn y sinema a beth sy’n digwydd pan fydd strwythur ffilm yn cael ei ddatgymalu’n rhannau.

2017, ffilm 35 mm wedi’i drosglwyddo i 4K/HD, 5 munud 18 eiliad, stereo / 5.1

Continue reading

Go Home, Polish

Posted on April 09, 2019

“Yn 2008, fe ddes ar draws graffiti ar wal ger lle ro’n i’n byw yng Nghaerdydd. ‘Pwyliaid, Ewch Adre’. Dyna oedd y neges. Bues i’n pendroni dros y peth am sbel. Ro’n i ‘chydig yn ansicr – a ddylwn i hel fy mhac i rywle arall neu ai dyma lle’r oedd fy nghartref. Yn 2016 â refferendwm Brexit yn rhwygo Prydain a thon o genedlaetholdeb eithafol yn sgubo ar draws Ewrop, roedd rhywbeth llawer mwy bygythiol am y slogan yna. Roedd yn rhaid i fi ymateb iddo. Yn llythrenol”.

Ym mis Ebrill 2018, fe gychwynodd Michal Iwanowski ar siwrne. Taith gerdded 1900km rhwng ei ddau gartref, Cymru a Gwlad Pwyl; gyda phasbort Prydeinig yn un llaw, pasbort Pwylaidd yn y llall. Fe dynnodd linell syth ar y map, ac ar ôl cael gafael mewn pâr o sgidiau cerdded cryf, fe gamodd allan o’i fflat yng Nghaerdydd, troi tua’r dwyrain, ac i ffwrdd â fe: Cymru. Lloegr. Ffrainc. Gwlad Belg. Yr Iseldiroedd. Yr Almaen. Y Weriniaeth Tsiec. Gwlad Pwyl. Ei fwriad oedd holi pobl ar hyd y ffordd am ystyr ‘cartref’. Beth mae hynny’n ei olygu?

Fe gymerodd y siwrne 105 o ddyddiau o’i dechrau i’w diwedd.

Er bod Michal wedi rhagweld gwrthdaro, eithafiaeth ac eithafion, a phob math o broblemau lletchwith, nid dyna fu hanes ei gyfarfyddiadau ar hyd y ffordd. Yn hytrach, fe gafodd atebion personol ac ystyrlon i’w gwestiwn; ymatebion rhwng cyd-ddyn a chyd-ddyn yn hytrach na sgyrsiau rhwng dinesydd â thramorwr. ‘Bron yn ddi-eithriad, fe fyddai pob un a holais yn rhoi ei law ar ei chalon neu ar ei galon wrth ddangos i fi lle’r oedd ‘gartre’. Roedd sawl un yn awyddus i gyd-gerdded gyda fi. Prin iawn fu unrhyw sgwrs am genedlaetholdeb. Dim ond unwaith y ces fy erlid’.

Ar hyd y ffordd, fe grebachodd unrhyw arwyddocâd a fu gan y slogan ‘Pwyliaid, Ewch Adre’ nes ei fod yn amherthnasol. Er hynny, fe benderfynodd Michal ei gadw fel teitl a rhyw fath o echel symbolaidd i’r prosiect: yn her i ddefnydd iaith sy’n anwybyddu’r profiad dynol wrth fynnu labeli’r ‘dieithr’ a’r ‘estron’; ac fel ffordd o osgoi cyffredinoli’r profiad dynol ac edrych ar yr agenda geowleidyddol trwy lygaid a phrofiad pob unigolyn.

Ac felly, ble mae ‘gartre’? Mae’n anodd cael gafael ar ateb. Mae’n gymleth. Mae’n benbleth llithrig sy’n drech nag amser a gweinyddiaeth.

Dyma yw hiraeth. Dyma yw heimet. Cartref.

Continue reading

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Posted on March 06, 2019

Galwad Agored ar gyfer cynigion gan Artistiaid/Ffotograffwyr

Cyflwyniad

Mae'r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid a ffotograffwyr sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd isod i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith newydd i'w gynnwys yn rhan o arddangosfa deithiol Nifer o Leisiau, Un Genedl, wedi'i churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Wales, ac Alice Randone, curadur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe'i comisiynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol 2019 i nodi'r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.

Nod y rhaglen yw:

Nifer o Leisiau, Un Genedl

Dylai'r arddangosfa ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lens i archwilio'r gobeithion a'r dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.

Dylai anelu at gyfleu cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas Cymru, a lle bynnag y bo modd, annog cyfranogiad y cyhoedd.

Bydd yr arddangosfa ar daith mewn amryw o leoliadau ledled Cymru yn ystod 2019/20, ac yn cael ei lansio yn y Senedd, y ganolfan ar gyfer democratiaeth a datganoli yng Nghymru, ym mis Medi 2019.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, sy'n cynrychioli ardaloedd penodol o Gymru fel aelod o blaid wleidyddol benodol neu aelod annibynnol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod bob wythnos yn y Senedd pan fydd y Cynulliad yn eistedd i drafod materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Maent yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Cymru, yn cynnal dadleuon ac yn archwilio deddfwriaeth Cymru.

Ffotogallery yw'r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru, ac yn 2018, dathlodd 40 mlynedd ers ei sefydlu.

Y strategaeth guradurol gyffredinol yw sicrhau bod cynnwys yr arddangosfa:

Ffocws yr Alwad Agored

Cymhwysedd

Comisiynir hyd at chwech o ffotograffwyr/artistiaid cyfryngau lens.

Wrth ymateb i themâu'r arddangosfa, bydd yr artistiaid/ffotograffwyr a gomisiynir yn creu gwaith newydd yn ymwneud â themâu gobeithion a dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.

Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid o Gymru, a/neu sy'n byw yng Nghymru ac yn gweithio ym maes ffotograffiaeth, y cyfryngau fideo a lens, delweddu digidol, gosodwaith a'r cyfryngau cymysg. Gall y cynnig fod ar gyfer gwaith cwbwl newydd, neu ddatblygiad ar waith sy'n dal i fynd rhagddo. Rydym hefyd yn croesawu cynigion gan artistiaid sy'n gweithio gyda ffotograffiaeth archifol a ffotograffiaeth a 'ganfuwyd' wrth gynhyrchu gwaith newydd.

Dyfernir y comisiynau erbyn diwedd mis Mawrth a bydd angen cynhyrchu'r gwaith newydd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Gorffennaf 2019. Bydd y curaduron yn darparu cymorth a chyngor trwy gydol y cyfnod cynhyrchu ac yn ystod y broses o ddethol, golygu a chreu'r arddangosfa.

Beth yw gwerth pob comisiwn?

Bydd pob artist/ffotograffydd a gomisiynir yn cael ffi artist o £3,000 (i gynnwys yr holl gostau cynhyrchu, trethi a ffioedd artist), yn daladwy mewn dwy ran.

Bydd Ffotogallery yn talu am gostau argraffu, cynhyrchu a gosod ychwanegol yr arddangosfa.

Sut i wneud cais am gomisiwn

Gwahoddir artistiaid a ffotograffwyr i gyflwyno cynigion yn electronig i Liz Hewson, Cydgysylltydd Cynhyrchu, Ffotogallery, erbyn 12.00 ddydd Llun 18 Mawrth.

Dylid anfon cynigion at [email protected]

Dylai cynigion fod ar ffurf:

1) Datganiad o natur y gwaith a fydd yn cael ei greu a'i berthnasedd i themâu'r arddangosfa, yr amserlen a phrosesau, eich profiad ac esboniad pam eich bod yn gymwys (uchafswm o 500 o eiriau)

2) Enghreifftiau o waith blaenorol (dolenni gwe, jpegs, pdf)

3) Briff/CV yr artist neu'r ffotograffydd (chwe tudalen ar y mwyaf, gan gynnwys manylion cyswllt llawn a dau gyswllt proffesiynol sy'n gallu rhoi geirdaon)

Llun: New Age Travellers, Fenyw © Megan Winstone, 2017
Instagram: @meganwinstonephoto Twitter: @Megan_Winstone

Continue reading

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Technegol a Gweithredol)

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (technegol a gweithredol)

Gan ffocysi ar sgiliau ymarferol a thechnegol, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at baratoadau a rheolaeth yr arddangosfeydd ac yn gweithio’n agos at y Cyfarwyddwr, Rheolwr yr Arddangosfeydd, a’r Technegwyr. Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Technegol a Gweithredol)

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (technegol a gweithredol)*

Gan ffocysi ar sgiliau ymarferol a thechnegol, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at baratoadau a rheolaeth yr arddangosfeydd ac yn gweithio’n agos at y Cyfarwyddwr, Rheolwr yr Arddangosfeydd, a’r Technegwyr. Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Rhyngweithiad Gydag Ymwelwyr)

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (rhyngweithiad gydag ymwelwyr)

Bydd deiliad y swydd yn rhyngweithio gydag artistiaid, ymwelwyr rhyngwladol ac ymwelwyr sy’n dod i’r arddangosfeydd ac i ddigwyddiadau Diffusion. Bydd yn cyfrannu at baratoadau arddangosfeydd (cyn ac yn ystod yr wyl), yn gweithio gydag artistiaid, y tîm rhyngweithio a gyda gwirfoddolwyr, ac yn dosbarthu gwasanaeth oruchwylio a tywys ‘yn fyw’. Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

SANTANDER / CARDIFF MET: Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (rhyngweithiad gydag ymwelwyr)

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (rhyngweithiad gydag ymwelwyr)

Bydd deiliad y swydd yn rhyngweithio gydag artistiaid, ymwelwyr rhyngwladol ac ymwelwyr sy’n dod i’r arddangosfeydd ac i ddigwyddiadau Diffusion. Bydd yn cyfrannu at baratoadau arddangosfeydd (cyn ac yn ystod yr wyl), yn gweithio gydag artistiaid, y tîm rhyngweithio a gyda gwirfoddolwyr, ac yn dosbarthu gwasanaeth oruchwylio a tywys ‘yn fyw’. Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Clywedol a Gweledol & Digidol)

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Clywedol a Gweledol & Digidol)

Bydd deiliad y swydd yn ffocysi ar gefnogaeth glywedol, gweledol a digidol ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau, gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr, Rheolwr yr Arddangosfeydd, Cydlynudd y Cynhyrchiad, a Chynhyrchydd y Digwyddiadau. Gan mai thema Diffusion yw Sain+Gweledigaeth, mae yna nifer o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau sy’n cyfuno cyfryngau electroneg, gweledol a chlywedol, gyda deunyddiau ffotograffiaeth cyffredin. Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Cynorthwydd Marchnata a Chyfathrebu

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynorthwydd Marchnata a Chyfathrebu

Gan weithio’n ochr wrth ochr gyda’r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, bydd y rôl yn ffocysi ar gydlyniaeth a darpariad yn y meysydd marchnata, y wasg, y cyfryngau, a gweithgareddau PR sy’n ymwneud a Diffusion. Y nod yw i gynyddu niferoedd yr ymwelwyr, adeiladu ymrwymiad y gynulleidfa a chodi sylw at yr wyl ar sylfaen genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Media Producer

Posted on February 11, 2019

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynhyrchydd y Cyfryngau

Gan weithio’n agos at y Cyfarwyddwr, Cydlynydd y Cynhyrchiad, Cynhyrchydd y Digwyddiad a hefyd aelodau eraill y tîm Diffusion, mae’r rôl hon yn ffocysi ar ddogfennaeth, cynhyrchiant cynnwys a chynhyrchiad fideo, sioe sleidiau ac adnoddau eraill i adeiladu ymrwymiad y gynulleidfa ac i godi sylw at yr wyl ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

APPLY HERE

Continue reading

Noises

Posted on January 07, 2019

Mae Noises yn archwilio diwylliant dancehall Jamaicaidd y Deyrnas Unedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfraniad menywod i’r diwylliant hwnnw a syniadau am fenyweidd-dra o fewn i hynny. Dancehall yw’r ffurf amlycaf o ddiwylliant poblogaidd Jamaica a gariwyd ledled y byd gan gymunedau Affricanaidd-Caribїaidd alltud. Yn y Deyrnas Unedig, mae dathliadau dancehall yn digwydd y tu hwnt i’r brif ffrwd - yn ymgorfforiadau cadarn o hunaniaeth Jamaicaidd. Er bod dancehall yn derm cymharol newydd, mae gwreiddiau’r arferion a’r dulliau perfformio yma’n perthyn i draddodiadau perfformio tipyn henach fel dawnsio mento, a ddatblygodd gyda phlethiad syncretig ffurfiau diwylliannol Affricanaidd ac Ewropeaidd.

Yn ei hanfod, man cyfarfod ar gyfer cyd-ddathlu yw dancehall - lle mae’r sgwrs a’r ddadl gymdeithasol yn digwydd. Mae’r defnydd o Patois Jamaicaidd yn y caneuon a pherfformiadau o rywioldeb lliwgar wrth ddawnsio yn rhan o guriad calon y digwyddiad. Ond, mae nodweddion ymhlyg dancehall yn bwnc llosg cyson yn y Gorllewin. Yn aml, mae’r feirniadaeth hallt o’r elfennau dramatig, ffyrnig a rhywiol yn anwybyddu cymlethdodau a threftadaeth y tradddodiad yn llwyr.

Nod y prosiect yw herio’r portread ystrydebol arferol o ddiwylliant a glustnodir fel ‘is-ddiwylliant’. Mae’r casgliad yma o ffotograffau’n ffrwyth proses gydweithiol rhwng yr artist a grŵp o fenywod Prydeinig-Jamaicaidd - yn archwilio a darlunio pynciau cyffredinol fel genedigaeth, cariad, rhyw a marwolaeth.

Continue reading

Where Time Stood Still

Posted on January 07, 2019

Fe gyrhaeddodd ffotograffiaeth i Iran yn fuan wedi iddo gael ei ddyfeisio yn Ewrop. Yn ôl Tahmasbpoor (‘Photographer Naser al-Din Shah’, 2002) fe dynnwyd y ffotograff cyntaf o berson yn Iran mor gynnar â 1844 (1260 yn ôl calendr Iran), sef portread ffotograffig o’i deulu gan un o frenhinoedd Qajar, Naser al-Din Shah.

Yn 2004 fe ymwelais ag amgueddfa Golestan, a bues yn gwneud gwaith ymchwil yn yr archifau yno am ddwy flynedd wedi hynny. Cedwir Archifau Golestan yng nghanol dinas Tehran – lleoliad a fu unwaith yn gartref i’r Qajariaid, gwragedd y brenin, menywod yr Harîm a’u perthnasau. Fe benderfynais ddefnyddio rhai o’r ffotograffau hanesyddol yma o gyfnod y Qajar gan ddewis nifer o luniau o deyrnas y Brenin. Fe ddefnyddiais i’r ffotograffau hynny fel masgiau.

Yn fy ymarfer, rwy’n dewis adrodd fy stori wrth ddefnyddio straeon pobl eraill. Maen nhw’n bobl a fu’n byw mewn gorffennol pell, ond mae eu bywydau a’u straeon yn dal yn rhan o’r presennol. Wrth fwrw fy ngolwg yn ôl i’r gorffenol fe ddes i sylweddoliad am bwy ydw i heddiw.

Ond pa wynebau fyddai’n cael eu cuddio y tu ôl i’r masgiau hanesyddol yma? Fe ddechreuais drwy dynnu lluniau’r bobl o fy nghwmpas – pobl roeddwn i’n eu gweld bob dydd. Fy nheulu. Fy nheyrnas. Mae masgiau’r gorffennol yn gyfrwng i chwedloni’r absenoldeb a’r presenoldeb sydd yn fy ngwaith. Mae’r masgiau yma’n tystio i fasgiau fy mywyd a’m côf.

Heddiw, 10 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n golygu’r delweddau hyn ac yn golygu fy atgofion a fy mywyd.

Mae’r dyhead sydd ynof am fy nghartref a’r galar yn sgil cael fy ngwahanu oddi wrtho’n creu naratif newydd, a hwnnw bellach yw naratif fy mywyd.

Mae’r gobaith o gael dychwelyd wedi trawsnewid fy lluniau; maen nhw’n lluniau o bobl rwy’n eu caru, yn gweld eu heisiau ac wedi eu colli.

Er bod testunnau’r lluniau yma’n dangos masgiau’r gorffennol, maen nhw eu hunain hefyd yn dal i fod yno o’n blaenau. Maen nhw’n bresennol. Fe allai unrhyw un wisgo’r masgiau yma ac fe allai unrhyw un droi yn fasg hefyd.

Amak Mahmoodian
Ionawr 2019

Continue reading

Galw am Gynigion: A Woman's Work

Posted on December 17, 2018

Mae rôl y ferch mewn gwaith technolegol a diwydiannol yn Ewrop ar ôl y rhyfel yn stori sydd heb ei hadrodd eto, ac mae archifau clyweledol wedi tueddu canolbwyntio ar ‘ddiwydiannau trwm’ gwrywaidd megis glo, haearn a dur, neu sectorau peirianegol mawrion megis adeiladu llongau, adeiladu, aerofod a chynhyrchu ceir. Ac eto mae merched yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn llawer o ddiwydiannau gweithgynhyrchu - er enghraifft tecstilau, electroneg, bwyd a diod, plastigau a deunydd fferyllol – ffaith nad yw’n cael ei chydnabod na’i chynrychioli’n gryf yn archifau diwylliannol Ewrop.

Mae A Woman’s Work yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol i ymdrin â’r diffyg hwnnw drwy gyfnewid a chydweithio artistig yn rhyngwladol, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r farn ddominyddol am ryw a diwydiant yn Ewrop.

Rydym yn gwahodd artistiaid a churaduron yn Ewrop i gynnig prosiectau sy’n ymdrin â themâu craidd A Woman’s Work, sy’n rhaglen gydweithredol 24 mis lle bydd partneriaid diwylliannol yn y Deyrnas Unedig, Lithwania, Iwerddon, Ffrainc a’r Ffindir yn cydweithio i geisio cyflawni’r amcanion nesaf yma:

Cliciwch yma i ganfod rhagor am y prosiect a sut i wneud cais

Continue reading

L'Avventura (1960) Film Screening

Posted on November 21, 2018

L'Avventura
1960 | Michelangelo Antonioni | 143 mins | Italian (subs) | B&W | PG

Mae Sinema Snowcat a Ffotogallery yn cynnal dangosiad arbennig o L’Avventura yn Oriel Ty Turner ym Mhenarth.

Rydym yn cyflwyno L’Avventura, sef drama brydferth a chyfriniol Michelangelo Antonini, i gyd-fynd gyda detholiad anhygoel o waith Katrien De Blauwer sy’n cael ei arddangos gan Ffotogallery ar hyn o bryd.

Bydd yna gyflwyniadau i’r arddangosfa ac i’r ffilm, cyn dangosiad y ffilm.

Mae nifer gyfyngedig o seddi ar gael felly sicrhewch eich bod yn bwcio eich tocyn YMA.

Continue reading

Well-being Day with Q&A

Posted on November 13, 2018

Ymunwch â ni ddydd Mercher 21ain Tachwedd am ddiwrnod llesiant yn Oriel Tŷ Turner, Penarth.

O hanner dydd ymlaen bydd gennym amrywiaeth o weithgareddau, felly galwch heibio bryd bynnag sy’n gyfleus i chi.

Bydd y cerddor a’r artist Ani Saunders, a fu’n rhan o’n harddangosfa Ffotoview yn gynharach eleni, yn cynnal gweithdy collage dwyieithog, a ysbrydolwyd gan ein harddangosfa gyfredol, Katrien De Blauwer: Reprise.

Bydd y busnes lleol Glass By Design yn cynnal gweithgareddau gwneud-gwydr trwy gydol y dydd.

Bydd Pro Health & Nutrition, siop iechyd a maeth leol Penarth, yn rhannu rhai o'u meddyginiaethau llesiant.

Beth am alw i mewn i fwynhau esmwythâd sesiwn Tylino Pen neu Dylino Dwylo Indiaidd? Bydd staff Beauty Box ar gael rhwng 2-6pm

Crëwch eich cerddi iachusol eich hun o dan arweiniad Healing Poems for Positive Love by Fran Smith.

Daw’r dydd i ben â thrafodaeth banel am 6pm gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiannau creadigol a maes iechyd a llesiant. Dewch i ddysgu mwy am y berthynas rhwng llesiant a’r celfyddydau, gyda chyfle i holi cwestiynau. Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ond gofynnir i chi archebu tocyn ar gyfer y drafodaeth er mwyn i ni gael gwybod faint o bobl i’w disgwyl.

Continue reading

Diffusion 2019: Sound+Vision

Posted on September 27, 2018

Thema Diffusion 2019 yw Sain+Llun. Bydd yr ŵyl yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau lens a sut mae sain yn dylanwadu ar y ffordd y caiff delweddau eu cyfryngu, cyflwyno a’u darllen yn ein diwylliant gweledol cyfoes; ac yn yr un modd, sut y gall cerddoriaeth fod yn brofiad gweledol yn ogystal â chlywedol.

Diffusion 2019 yw’r bedwaredd mewn cyfres o wyliau a gynhelir gennym bob yn eilflwydd. Yn ystod yr ŵyl byddwn yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd, ymyriadau, sgriniadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn pob math o fannau a lleoliadau go iawn a rhithwyr. Yn ogystal â’r cynnwrf o gyfrannu’n uniongyrchol i’r ŵyl a bod yn rhan o ddigwyddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, mae Diffusion 2019 yn cynnig cymaint mwy – cyhoeddiadau print ac arlein, gwefannau, cynnwys ar gyfer ffonau symudol a thrafodaethau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Datgelir y rhaglen ym mis Hydref 2018: diffusionfestival.org

Continue reading

Reprise

Posted on September 27, 2018

Hoffem estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni ar gyfer rhagolwg arbennig o Reprise, 6-9pm, Gwener 26 Hydref yn Ffotogallery, Tŷ Turner, Penarth.

Mae Reprise yn cyflwyno gwaith o bob cyfnod o yrfa Katrien De Blauwer, gan gynnwys gweithiau cynnar sy’n cael eu dangos yma am y tro cyntaf, llyfrau nodiadau’r artist a’i gweithiau mwyaf diweddar sy’n cyfuno paentio a ffotograffiaeth. Wrth guradu’r arddangosfa ry’n ni wedi osgoi cyd-destun cronolegol er mwyn datgelu’r cyfatebiaethau gweledol a’r motiffau sy’n dychwelyd yn gyson wrth i’w gwaith esblygu o naratifau tra phersonol i ystyriaethau o orwelion ehangach.

Continue reading

Internship: Archiving Assistant

Posted on September 14, 2018

Archiving Assistant

1-2 days per week (max 16 hours)

Over its 40 year history, Ffotogallery has accumulated a large volume of archival material and information relating to our exhibitions and work. Our recent exhibition ‘Chronicle’ has been part of this, however it is time to preserve and update our archival systems, make them safe and relevant and creating a new, future-proof way of storing information.

In the first instance this person will be responsible for

If you are interested in applying for this role, please send an up to date CV and a short statement explaining why you would like the post and what you feel you can bring to the role (max 500 words).

Please use the title of the post you wish to apply for as the subject heading and send to [email protected].


Closing date: 28th September - Interviews expected to be held on 8/9th October.

Continue reading

Internship: Marketing & Communications

Posted on September 14, 2018

Marketing and Communications Intern – Welsh Language Skills Highly Desirable

1-2 days per week (max 16 hours)

It is vitally important that Ffotogallery’s offer reaches as many people as possible and we are always seeking ways to engage new audiences and continue to let our friends and followers know what we are up to. The post-holder will support the Marketing and Communications Officer in their work and maintain a professional friendly ‘public face’ for Ffotogallery

Tasks Include:


If you are Interested in applying for this role, please send an up to date CV and a short statement explaining why you would like the post and what you feel you can bring to the role (max 500 words).

Please use the title of the post you wish to apply for as the subject heading and send to [email protected].


Closing date: 28th September - Interviews expected to be held on 8/9th October.

Continue reading

Internship: Exhibition Assistant

Posted on September 14, 2018

Exhibition Assistant Internship x 2

Approx. 1-2 days per week (max 16 hours)

This post as an Exhibitions Assistant would be a great opportunity for someone who has some knowledge of or an interest in contemporary art, in particular photography and lens-based media, who wishes to experience working in a gallery or arts venue with exhibition production and/or installation, etc.

The post will be supported by the Exhibitions Manager and Project Co-ordinator to support Ffotogallery’s activity.

Tasks will include the following:


If you are interested in applying for this role, please send an up to date CV and a short statement explaining why you would like the post and what you feel you can bring to the role (max 500 words).

Please use the title of the post you wish to apply for as the subject heading and send to [email protected].

Closing date: 28th September - Interviews expected to be held on 8/9th October.

Continue reading

Internship: Admin & Operations Assistant

Posted on September 14, 2018

Admin & Operations Assistant Internship x1 - Starting October 2018

Approx. 1-2 days per week (max 16 hours)

As with any arts organisation, the work of Ffotogallery is underpinned by financial and administrative systems and processes. With the development of new methods of working, and exciting new projects for Ffotogallery’s future and impending move to a new home, there is increased workload for the staff who undertake this function.

This internship is an opportunity for either someone with strong administrative and organisational skills who wishes to experience working in an arts environment, or someone with a background in arts who wishes to develop their administrative and financial skills. The post-holder will be supported by the Business Manager and their workload will support the administrative functions across the organisation, Ffotogallery will also support the post-holder by providing training where necessary to carry out the functions of this post.

Tasks will include:

If you are interested in applying for any of these roles, please send an up to date CV and a short statement explaining why you would like the post and what you feel you can bring to the role (max. 500 words).

Please use the title of the post you wish to apply for as the subject heading and send to [email protected].

Closing date: 28th September - interviews expected to be held on 8/9th October.

Continue reading

Q&A: The Representation of Muslim Women in Photography

Posted on September 13, 2018

Join us at Ffotogallery for a Q&A focused on The Representation of Muslim Women in Photography.

Ayesha Khan, the creator of ‘The Everyday’ photographic project that documents positive and empowering images of Muslim women, will be joined by a select panel to discuss this current topic.

You'll be able to present your questions to the panel, explore Ffotoview (an exhibition celebrating Wales and Wales-based photographic talent) and enjoy Halal refreshments.

This is a free event with no booking required. The Q&A will begin at 6.30pm. Although the event is free we will invite you to pay-what-you-can to cover the costs of refreshments.

We are delighted to be working in partnership with the community group MEND, Muslim Engagement and Development, for this event.

Continue reading

212 Degrees Fahrenheit

Posted on September 04, 2018

Mae Ffotogallery yn falch o gyflwyno 212 Degrees Fahrenheit, arddangosfa newydd o ffotograffau o drenau stêm gan y diweddar John Wiltshire, a fydd i'w gweld yn Nhŷ Turner, Penarth, rhwng 7 a 28 Medi, ynghyd â rhagolwg arbennig ar 6 Medi o 6pm ymlaen.

Mae'r arddangosfa yn cyflwyno portffolio stêm John, a lluniau’n rhychwantu’r cyfnod rhwng 1948 a diwedd cyfnod trenau stêm diwydiannol y DG tua diwedd y 1970au. Ond nid arddangosfa ar gyfer arbenigwyr yn unig yw hon; mae'r gwaith yn dangos sut yr oedd y rheilffyrdd yn rhan o fywyd bob dydd yn ystod y 1950au a'r 60au, ac yn canolbwyntio ar y bobl a weithiai gyda'r locomotifau stêm ar reilffyrdd Prydain ac ar ystadau diwydiannol.

Ar ôl ei farwolaeth yn 2016, trosglwyddwyd casgliad ffotograffig John i'w fab, Andrew. Mae Andrew’n awdur sy'n ysgrifennu am y diwydiant cludiant ac fe gyhoeddodd lyfrau am longau a bysiau, rhai ohonynt yn cynnwys lluniau ei dad. Dros y pum mlynedd diwethaf, aeth Andrew Wiltshire a Peter Brabham, cydweithiwr iddo ym Mhrifysgol Caerdydd, ati i gydlynu a digido'r casgliad, sy'n cynnwys dros 4000 o ddelweddau ynghyd â gweithiau ysgrifenedig atodol.

Continue reading

Galwad Agored - The Place I Call Home

Posted on August 21, 2018

Mae teimlo’n ‘gartrefol’ mewn lle yn cynnwys nifer o bethau – ymdeimlad o berthyn, cynefindra, annibyniaeth, sicrwydd ac argoelion. Mae ‘cartref’ yn air sydd yn diasbedain yn emosiynol ymhell y tu hwnt i’w ystyr llythrennol, sef ‘ble mae rhywun yn byw’.

Cynrychiolir cartref gan gyfuniad o ffactorau: cysylltiad â’r lle mae rhywun yn preswylio, agosrwydd teulu a ffrindiau, hunaniaeth bersonol a chymunedol, ffordd o fyw a gweithio, a gwerthoedd a phrofiadau a rennir.

Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid a ffotograffwyr sy’n bodloni’r gofynion isod i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith newydd i’w gynnwys yn The Place I Call Home, arddangosfa deithiol a guradwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Cymru, a gomisynwyd gan y Cyngor Prydeinig, sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r syniad o gartref yng nghyd-destun profiadau cyfoes y diaspora Arabaidd sy’n byw yn y DU, a phobl o Brydain sy’n byw yn y Gwlff.

Mae’r arddangosfa’n rhan o fenter ledled y Gwlff rhwng Ionawr 2017 a Mawrth 2020 i greu cyfleoedd newydd i feithrin cyd-ddealltwriaeth a pharch trwy rannu a gwerthfawrogi diwylliant, hanes a threftadaeth y Gwlff a’r DU.

Continue reading

Ffotoview

Posted on July 18, 2018

Suzie Larke, Amanda Jackson, Dan Wood, Megan Winstone, Ellie Hopkins, Ayesha Khan, Sam Ivin, Rob Hudson, Ani Saunders, Jason Thomas, Ann Davies, Abbie Trayler-Smith

Yn rhan o 40:40 Vision, rhaglen flwyddyn o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, mae Ffotogallery yn falch o gyflwyno Ffotoview. Mae'r arddangosfa'n ddathliad o dalentau ffotograffig Cymru ac yn cyflwyno gwaith gan ddeuddeg artist dethol 2018. Mae www.ffotoview.org yn galendr o waith newydd ar-lein a gaiff ei ddiweddaru bob mis.

O eco-bentrefi yng Ngorllewin Cymru i ddelweddau grymusol o fenywod Mwslemaidd, o dirweddau a chymunedau cymoedd de Cymru i brofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, mae Ffotoview yn archwilio gwahanol safbwyntiau ar fywyd yn y Gymru gyfoes ynghyd ag amrywiol ddulliau o dynnu lluniau yn yr oes ddigidol.

Cynhelir yr arddangosfa yn 29 Stryd y Castell, Caerdydd, yn y gofod sy'n cael ei ddatblygu fel gofod newydd i Ffotogallery yng nghanol y ddinas. Amserwyd Ffotoview i gyd-fynd â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac mae'n ddathliad o amrywiaeth a thalentau ffotograffig Cymru.

Ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, bu Ffotogallery ar flaen y gad o ran datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru trwy gyfrwng ein gwaith yn comisiynu ac yn cyflwyno gwaith newydd ar gyfer arddangosfeydd, gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol, a thrwy gyfrwng ein cefnogaeth i ffotograffwyr ac artistiaid addawol cyfryngau'r lens.

Rydym yn falch iawn o'ch gwahodd chi i weld arddangosfa Ffotoview yn ein gofod newydd, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn codi arian i ddatblygu'r gofod hwnnw dros y flwyddyn nesaf.

Mae Ffotoview yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau nesaf yng ngwaith Ffotogallery. Fe ddaw cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid cyfryngau'r lens i'r amlwg mewn cyfnod pan ydym yn derbyn ac yn cyflwyno mwy a mwy o gynnwys creadigol ar blatfformau ffisegol a rhithwir fel ei gilydd.

Yn y rhagolwg o arddangosfa Ffotoview ar ddydd Iau 2 Awst, 2018, bydd David Drake yn datgelu mwy am gynlluniau Ffotogallery ar gyfer y ganolfan newydd yng nghanol y ddinas, a’r ymgyrch pen-blwydd i godi arian ar gyfer y ganolfan ffotograffiaeth ryngwladol newydd yng nghanol dinas Caerdydd.

Continue reading

Ffotoview - Rhagolwg

Posted on July 11, 2018

Yn rhan o Vision 40:40, rhaglen blwyddyn o hyd o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, mae Ffotogallery yn eich gwahodd i arddangosfa arbennig yn ein gofod newydd yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r arddangosfa’n ddathliad o dalentau ffotograffig Cymru, ac yn cyflwyno gwaith gan ddeuddeg artist dethol 2018 ar www.ffotoview.org, calendr ar-lein sy’n cyhoeddi gwaith newydd bob mis.

Bydd yr arddangosfa yn parhau 3 Awst - 29 Medi 2018.

Continue reading

Degawd o ddelweddau - 1990au/2000au

Posted on July 05, 2018

As part of 40/40 Vision, a year long celebration of Ffotogallery's 40th Anniversary and running alongside our latest exhibition Chronicle, we are proud to present the fourth in a series of talks with industry professionals looking at photography over the last four decades.

Derrick Price, Chair of Ffotogallery, and author of the new book 'Coal Cultures: Picturing Mining Communities and Cultures' will choose his favourite iconic photographic images from the 1990s/early 2000s and reveal the stories behind his selection.

Continue reading

Dal a Chreu – Adeiladu a Churadu

Posted on July 03, 2018

Y trydydd yn rhaglen Ffotogallery o weithdai haf i’r teulu cyfan, a gynhelir yn Nhŷ Turner, Penarth.

Ewch yn bensaer ac yn guradur am y dydd yn Ffotogallery trwy ddylunio’ch gofod arddangos eich hun. Rhannwch gyda ni sut beth fyddai eich oriel berffaith yn y sesiwn alw-heibio hon. Bydd gweithgareddau ar gael ar gyfer pob oed.

Darperir yr holl ddefnyddiau. Rhaid i blant o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

Rydym yn ymfalchïo bod gennym bolisi talwch-hynny-a-allwch. Croeso i bawb fynychu, a byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad ariannol. Da chi, bwciwch le o flaen llaw er mwyn i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddefnyddiau ar gyfer y diwrnod.

Gresynwn mai dim ond llawr isaf yr oriel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd ac nad oes gennym gyfleusterau toiled ar y llawr hwn. Ffoniwch ni ar 029 2034 1667 os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am hygyrchedd.

Continue reading

Dal a Chreu – Hunlun Perffaith

Posted on July 03, 2018

Yr ail yn rhaglen Ffotogallery o weithdai haf i’r teulu cyfan, a gynhelir yn Nhŷ Turner, Penarth.

Archwiliwch beth yn union yw diben hunlun. Tynnwch rai eich hunan a’u defnyddio i ddylunio poster arddangosfa sy’n gyfan gwbl amdanoch chi. Bydd y sesiwn alw-heibio hon yn rhoi i chi a’r holl deulu y sgiliau i allu creu’r hunlun perffaith, gyda gweithgareddau ar gyfer pob oed.

Darperir yr holl ddefnyddiau. Rhaid i blant o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

Rydym yn ymfalchïo bod gennym bolisi talwch-hynny-a-allwch. Croeso i bawb fynychu, a byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad ariannol. Da chi, bwciwch le o flaen llaw er mwyn i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddefnyddiau ar gyfer y diwrnod.

Gresynwn mai dim ond llawr isaf yr oriel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd ac nad oes gennym gyfleusterau toiled ar y llawr hwn. Ffoniwch ni ar 029 2034 1667 os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am hygyrchedd.

Continue reading

Dal a Chreu – O Dwll Pin i Ffonau Clyfar

Posted on July 03, 2018

Y cyntaf yn rhaglen Ffotogallery o weithdai haf i’r teulu cyfan, a gynhelir yn Nhŷ Turner, Penarth.

Dysgwch sut y newidiodd ffotograffiaeth dros y blynyddoedd, o’r math cynharaf, y twll pin, i ddefnyddio’n ffonau clyfar heddiw i dynnu lluniau a’u rhannu. Bydd y sesiwn alw-heibio hon yn gadael i chi a’r holl deulu archwilio ffotograffiaeth ar hyd y degawdau, gyda gweithgareddau ar gyfer pob oed.

Darperir yr holl ddefnyddiau. Rhaid i blant o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

Rydym yn ymfalchïo bod gennym bolisi talwch-hynny-a-allwch. Croeso i bawb fynychu, a byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad ariannol. Da chi, bwciwch le o flaen llaw er mwyn i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddefnyddiau ar gyfer y diwrnod.

Gresynwn mai dim ond llawr isaf yr oriel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd ac nad oes gennym gyfleusterau toiled ar y llawr hwn. Ffoniwch ni ar 029 2034 1667 os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am hygyrchedd.

Continue reading

Degawd o ddelweddau - 1980au/90au

Posted on June 18, 2018

Yn erbyn cefnlen blynyddoedd Thatcher, rhwng 1983 a 1992 sefydlodd a rhedodd David Drake ganolfan gyfryngau arloesol yn Llundain yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth, fideo a dylunio graffig, fel rhan o fudiad cyfryngau annibynnol a oedd yn cynnwys Four Corners, Blackfriars Photographic Project, Autograph, Watershed, f Stop, Fantasy Factory a West London Media Project. Gan weithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau fel Joanne O’Brien, Susan Trangmar, Ken Loach a Jamoula McKean, bu’n meithrin doniau newydd a chynnig llais a wrthwynebai’r agenda gymdeithasol-wleidyddol a oedd y tra-arglwyddiaethu ym Mhrydain. Wrth i’r 1990au wawrio, daeth technoleg ddigidol a masnacholiaeth rhemp â newidiadau dybryd i weithredu mewn ffotograffiaeth a’r cyfryngau yn y DU a dechreuodd y mudiad 'ffotograffiaeth annibynnol' chwalu a newid cyfeiriad.

Gair am David Drake

Mae gan David Drake 35 mlynedd o brofiad ar lefel uwch yn sector y celfyddydau a’r cyfryngau gweledol, gan dreulio’r 9 olaf yn Gyfarwyddwr Ffotogallery. Mae ei yrfa amlochrog yn cynnwys profiad helaeth mewn curadu, cyhoeddi, rheoli a chynhyrchu gyda sefydliadau mor amrywiol â Watershed, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Picture This Moving Image, FIVE magazine, Amgueddfeydd ac Oriel Gelf Birmingham a HP Labs. Yn y 1980au sefydlodd a bu’n rhedeg canolfan gyfryngau arloesol yn Llundain yn cynnig rhaglenni hyfforddi ffotograffiaeth, teledu a dylunio o safon ddiwydiannol ar y cyd â gwahanol ddarlledwyr, sefydliadau diwylliannol a cholegau addysg uwch. Bu’n Gyfarwyddwr Celfyddydau Gweledol a Chyfryngau South West Arts o 1992 i 2002, gan greu rhaglenni hyfforddi artistiaid newydd ac arwain ymgais y bwrdd celfyddydau rhanbarthol i fynd i’r afael â thechnolegau newydd ac agendâu ehangach y diwydiannau creadigol. Ym 1998, derbyniodd Gymrodoriaeth Deithio ac Ymchwil Winston Churchill a threulio chwe mis yn ymchwilio i ddefnydd artistiaid o dechnoleg yng Ngogledd America ac Ewrop. Bu’n gynhyrchydd Electric Pavilion o 2002 i 2005, project tair-blynedd ar-lein yn arddangos y creadigrwydd a geid yn ninas Bryste, a sefydlodd raglen adodd-straeon ddigidol Bristol Stories.

Continue reading

Degawd mewn Delweddau - y 1970au

Posted on June 07, 2018

Mewn cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa Chronicle, bydd Deborah Baker, yr artist a'r ffotograffydd nodedig a Chydlynydd Cwrs BA (Anrh) Ffotograffiaeth Prifysgol Falmouth, yn dewis deg o ddelweddau i gynrychioli'r 1970au - delweddau a'i harweiniodd hi ar hyd y llwybr i fod yn artist-ffotograffydd ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Ffotogallery yn 1979-1980.

Ynglŷn â Deborah Baker

Astudiodd Deborah Ffotograffiaeth Greadigol yn y 70au gyda Paul Hill, Thomas Cooper, John Blakemore, a Raymond Moore. Gweithiodd yn Efrog Newydd gyda Ralph Gibson a'r artistiaid Mary Ellen Mark a Robert Mapplethorpe. Cafodd ei gwaith ei arddangos mewn orielau mawrion, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cafodd ei chorff diweddar o waith 'In Paradiso' ei arddangos gan Oriel LA Noble yn Amgueddfeydd William Morris yn 2014, ac yn rhan o 'Merge Visible' y Mall Gallery, Llundain, yn 2016. Mae Deborah wedi darlithio ar lawer o gyrsiau gradd ffotograffiaeth yn y DG, gan gynnwys LCC, Prifysgol San Steffan, Sefydliad Surrey, Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Falmouth.

www.deborahbaker.eu

ARCHEBU NAWR

Continue reading

Lwybr Stiwdios Agored Penarth

Posted on June 06, 2018

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Lwybr Stiwdios Agored Penarth eleni, a gynhelir rhwng 22 a 24 Mehefin. Yn Nhŷ Turner byddwn yn dangos gwaith wyth artist sy'n gweithio mewn ystod o ddisgyblaethau.

Mari Wirth (arddangosfa ar ddydd Sadwrn yn unig)
Vernetta O’Connor

Jill Schoenmann
Tim John

Amanda Rosoman - Silk Moon
Claire Tilling
Francess

Karen Grey

Cyflwynir Llwybr Stiwdios Agored Penarth ar y cyd â'n harddangosfa 'Chronicle', sy'n dathlu 40 mlynedd ers cychwyn Ffotogallery.

Lawrlwythwch fap o'r digwyddiad isod.

Continue reading

Sgyrsiau ‘Chronicle’ – Project y Cymoedd

Posted on May 23, 2018

Ymunwch â ni am y sgwrs gyntaf mewn cyfres a drefnwyd i gydfynd â’n harddangosfa gyfredol, ‘Chronicle’.

Bydd Dr Paul Cabuts, ffotograffydd a Chymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn trafod Project y Cymoedd ac yn sôn am 10 o’i hoff weithiau o’r gyfres o gomisiynau.

Sefydlodd Ffotogallery Broject y Cymoedd yn wreiddiol ym 1984 fel menter unigryw i ddogfennu’r hyn sydd, mae’n rhaid, yn un o dirweddau diwydiannol harddaf gogledd Ewrop. Yn ystod pum mlynedd y project, hyd at 1990, llwyddwyd i ddwyn ynghyd waith ffotograffwyr a oedd yn byw yng Nghymru a rhai o gylch ehangach, i greu cofnod gweledol cyfoes a sylwebaeth gymdeithasol a oedd yn cwmpasu rhan ddaearyddol eang o gymoedd de Cymru.

Mae ‘Chronicle’ yn manteisio ar ddeunydd archifol a chyfoes a’i ddefnyddio i adrodd hanes datblygiad Ffotogallery dros y deugain mlynedd diwethaf, yn erbyn cefndir o newid yn natur a swyddogaeth ffotograffiaeth mewn cymdeithas, a thwf y diwylliant digidol. Mae’r arddangosfa’n para tan Awst y 4ydd, ac mae’n rhan o ddathliadau’r deugainmlwyddiant yn ystod 2018.

ARCHEBU NAWR

Continue reading

1968: the Fire of Ideas - Ar Daith

Posted on May 14, 2018

Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o'r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi'n ofalus er mwyn dadadeiladu'r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o'r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.

Continue reading

Tir/Môr - Ar Daith

Posted on May 14, 2018

Mae gwaith Mike Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol pwysig, yn arbennig y tensiwn rhwng ymyraethau a gweithgarwch dynol yn yr amgylchedd naturiol, a natur fregus ecosystemau’r blaned.

Mae’r arddangosfa fawr newydd hon yn dwyn ynghyd ddarnau diweddar o waith sy’n ymdrin â’r modd y mae bioamrywiaeth naturiol tirluniau ac amgylcheddau morol yn cael ei thanseilio gan esgeulustra pobl, camreoli amaethyddol, a’r awydd i wneud elw byrdymor ar draul cynaliadwyedd hirdymor.

Mae delweddau Perry, sy’n cyfuno estheteg gysyniadol â phryder difrifol am yr amgylchedd morol, yn taflu goleuni gwahanol ar iechyd y morluniau y gellid eu gweld mewn cylchgronau i dwristiaid. Mae Môr Plastig yn ddarn cyfredol o waith sy’n dosbarthu gwrthrychau sy’n cael eu golchi i’r lan yn grwpiau; poteli, esgidiau, gridiau, ac ati. Drwy ddefnyddio camera cydraniad uchel i ddal manylder yr arwynebau, mae’r artist yn ein galluogi i ‘ddarllen’ y marciau a’r creithiau sydd wedi’u hysgythru yn y gwrthrychau gan y môr dros fisoedd ac, weithiau, blynyddoedd.

Mae’r artist yn herio ac yn ennyn chwilfrydedd y gwyliwr drwy gyflwyno gwrthrychau sy’n llygru mewn ffordd mor ddeniadol. Yng ngeiriau Perry, “yn ogystal ag ystyried y darnau hyn yn symbolau o orddefnydd a diystyrwch o’r amgylchedd, rwyf hefyd yn eu hystyried yn dystiolaeth o harddwch a grym natur i gerfio ein byd”.

Cafodd Tir / Môr ei chynhyrchu’n wreiddiol gan Ffotogallery, Caerdydd, a’i churadu gan David Drake, Ffotogallery, a Ben Borthwick, Canolfan Celfyddydau Plymouth. Mae’r cyhoeddiad cysylltiedig yn cynnwys cyfraniadau gan yr awduron George Monbiot a Skye Sherwin.

Continue reading

The Valleys Archive

Posted on May 03, 2018

David Bailey, Mike Berry, John Davies, Peter Fraser, Ron McCormick, Francesca Odell, Paul Reas, Roger Tiley, William Tsui

Sefydlwyd Project y Cymoedd gan Ffotogallery ym 1984 fel menter unigryw i ddogfennu un o dirweddau harddaf, er gwaethaf ei chreithiau diwydiannol, gogledd Ewrop. Yn ystod pum mlynedd y project, hyd at 1990, crynhodd waith ffotograffwyr a oedd yn byw yng Nghymru a thu allan iddi i greu cofnod gweledol o ardal ddaearyddol eang yng nghymoedd de Cymru a sylwebaeth gymdeithasol gyfoes arni.

Galluogodd y comisiynau cyntaf, a gychwynnodd ym 1985, ddau ffotograffydd adnabyddus o’r DU, Ron McCormick a Paul Reas, i gynhyrchu cyrff o waith yn canolbwyntio ar dirwedd gyfnewidiol yr ardal ynghyd â’r ymgais i ddod â thechnoleg newydd i mewn i ddiffeithle diwydiannol cyfoes. Yr un flwyddyn, comisiynwyd John Davies, artist y mae ei enw’n gyfystyr â ffotograffiaeth dirlun, i gofnodi tranc yr isadeiledd glofaol anferth, ac effaith hynny ar bobl a chymeriad Cwm Rhymni.

from The Valleys Project © Paul Reas

Yn ddiweddarach ym 1985 ymwelodd David Bailey â’r cymoedd a chynhyrchu portffolio o ddelweddau du-a-gwyn llithiol sy’n adlewyrchu ymdeimlad dryslyd rhywun o’r tu allan yn wyneb amgylchiadau daearyddol a chymdeithasol llwm y rhanbarth cyfareddol yma. Ym 1986, gwelwyd comisiynau a roddwyd i Mike Berry, Francesca Odell, Roger Tiley a Peter Fraser, sydd oll yn wneuthurwyr lluniau arbennig iawn, mewn arddangosfa a chyhoeddiad i gydfynd â hi. Ceisiai’r project hwn ymdrin yn uniongyrchol â chymunedau’r cymoedd, yn enwedig effaith Streic y Glöwyr arnynt, er y bu cynnwys Peter Fraser o fewn y cyd-destun hwn yn gam tra gwahanol gan bod ei gyfraniad ef, y gyfres gyntaf mewn lliw, yn gwrthddweud dulliau dogfennol prif-ffrwd trwy ddefnyddio delweddau ffotograffig mwy trosiadaol.

from The Valleys Project © Mike Berry

Ehangodd Ffotogallery ffinau Project y Cymoedd ymhellach, pan gafodd yr artist lleol o Ferthyr Tudful, Wally Waygood, ei gomisiynu ym mis Hydref 1989 i greu gwaith celf unigryw ar ffurf hysbysfwrdd ar safle yn Dowlais Top, Merthyr. Roedd y gwaith 20’x10′, a gyfunai ddelwedd ffotograffig a geiriau, yn archwilio thema cymoedd de Cymru a thranc eu diwydiannau trwm mewn cymdeithas ôl-ddiwydiannol.

Ym 1990, cafodd y cyfannydd olaf i Broject y Cymoedd, William Tsui, gomisiwn mawr i ddogfennu blaenau Cwm Afan yn gyffredinol, a phentref Aber/Blaengwynfi yn neilltuol, a’i gymuned fel yr oedd yn y 1990au.

from The Valleys Project © William Tsui

Mae llu o weithgareddau eraill wedi deillio o Broject y Cymoedd, yn cynnwys ymchwil hanesyddol, crynoi archifau, gweithdai gyda grwpiau cymuned lleol, a chyrsiau a dosbarthiadau mewn ysgolion yn archwilio treftadaeth a hunaniaeth y rhanbarth. Cafodd ffotograffau o’r project eu harddangos mewn amrywiaeth eang o ganolfannau: ysgolion, canolfannau cymuned, orielau celf ac amgueddfeydd.

Gyda Phroject gwreiddiol y Cymoedd bellach wedi ei gwblhau, mae’r casgliad yn ffurfio portread nodedig o ardaloedd yn ne Cymru a’u hanes. Mae’r holl bortreadau a wnaed ar gyfer Project y Cymoedd, cyfanswm o fwy na 450, yn rhan o archif Ffotogallery sydd ar gael i’w fenthyca ar gyfer gwaith ymchwil gan ysgolion, colegau, grwpiau cymuned ac aelodau’r oriel.

Am wybodaeth bellach ynglŷn ag archif y cymoedd, da chi, lawrlwythwch y pdf sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am gefndir y project a gwaith pob un o’r artistiaid.

Continue reading

Ffotogallery Platform

Posted on May 01, 2018

Mae Platfform Ffotogallery yn brosiect ar-lein a grëwyd i helpu ffotograffwyr ac artistiaid addawol yng nghyfryngau'r lens i ddenu cynulleidfa ehangach i’w gwaith – cynulleidfa a fydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyfoedion yn rhwydwaith Ffotogallery. Bydd hefyd yn fodd i helpu i greu cysylltiadau oddi mewn i'r gymuned ffotograffig ac artistig. Bydd cyfranogwyr dethol yn cael cynnig preswyliad wythnos o hyd ar gyfrif Instagram Platfform Ffotogallery.

Y Platfform ei lansiwydd ym mis Ionawr 2018 yn rhan o 40:40 Vision, rhaglen blwyddyn o hyd o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 40 oed. Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch amlinelliad byr o brosiect posib ynghyd ag ambell enghraifft o'ch gwaith at [email protected].

Dilyn @ffotogalleryplatform

Continue reading

Cymru yn Fenis

Posted on April 29, 2018

Y cyflwyniad ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 yw …the rest is smoke gan yr artist Helen Sear, Digwyddiad Cyfochrog ym 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia.

Cyfres o weithiau newydd yw …the rest is smoke, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a guradwyd gan Ffotogallery. Fe’u crewyd ar gyfer pum gofod ar wahân yn y Santa Maria Ausiliatrice, eglwys a chyn-gwfaint yn ardal Castello yn Fenis, lle dangosir hwy.

© Helen Sear

Bu gan Ffotogallery berthynas faith gyda’r artist, gan gyhoeddi monograff adolygol deng mlynedd ar hugain Sear, Inside The View, yn 2012, ac rydym wedi arddangos ei gwaith ar sawl achlysur blaenorol, yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice, penododd Ffotogallery y curadur annibynnol Stuart Cameron a’r curadur cynorthwyol/rheolydd project Kathryn Standing i’n tîm. Cameron oedd curadur arddangosfa fawr gyntaf yr artist yng Nghymru, a thyfodd eu perthynas dros ddeng mlynedd ar hugain, gan esgor ar sail gref o barch a hyder yn ei gilydd. Bu cydberthynas guradurol Cameron gyda’r artist, a’i sensitifrwydd i’r syniadau a’r ysgogiadau creadigol yn ei gwaith, yn hanfodol i ddatblygu a gwireddu’r project hwn.

Fel sy’n gweddu i broject cyfochrog, mae …the rest is smoke wedi ei wreiddio yn nhirwedd leol a chyfarwydd Cymru ond mae hefyd yn ymateb i gyd-destun ehangach Biennale Fenis. Ar gyfer y 56ed Biennale di Venezia, dewisodd y curadur Okwui Enwenzor y thema ‘Holl Ddyfodolion y Byd’, gan archwilio’r berthynas rhwng celf a datblygiad y byd dynol, cymdeithasol a gwleidyddol. Er na ddatblygwyd …the rest is smoke fel ymateb penodol i’r thema hon, mae’n cyd-daro’n dda â hi. Mae ansoddau affeithiol y gwaith yn gweithredu i dynnu’r gwyliwr i mewn i ofod rhithiol y ddelwedd, mewn dialog â phensaernïaeth y gofod y lleolir y gwaith ynddo, gan aflonyddu ar y persbectif un-safbwynt er mwyn cyflwyno tirweddau a’u perthynas â’r corff dynol fel rhywbeth ymdrochol a chymhleth.

© Helen Sear

Ar gyfer project ar-lein Profi Cymru yn Fenis, sy’n gydymaith i’r arddangosfa, mae’n bleser gennym gydweithio’n glòs ag artistiaid dethol rhaglen Goruchwylwyr Plws CCC. Yn ogystal â chreu gwefan ynglŷn â Helen Sear a’r arddangosfa, rydym yn gweithio gyda’r pymtheg artist i ddogfennu eu profiadau unigol o Gymru yn Fenis. Bydd cyfoeth o adnoddau ar gael i gynulleidfaoedd ar-lein, fel cyfweliadau ag artistiaid, cofnod o esblygiad yr arddangosfa yn ogystal â gweithdai ysgolion y gellir eu lawrlwytho. Yn ychwanegol at waith ffantastig y goruchwylwyr yn Fenis, gobeithiwn y bydd y wefan yn cynnig mewnweliad newydd i’r gynulleidfa ac yn cyfrannu at ddialog beirniadol rhyngwladol ynglŷn â gwaith Helen.

2015.experiencewalesinvenice.org

Continue reading

Diffusion 2013

Posted on April 29, 2018

Ar gyfer ei gŵyl gyntaf yn 2013, fe ganolbwyntiodd Diffusion ar gyflwr ffotograffiaeth a chyfryngau lens mewn oes ddigidol, a’i rôl wrth ddogfennu bywydau a phrofiadau pobl a mynegiant o hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe ddenodd Diffusion 2013 gynifer â 56,500 o ymwelwyr o Gymru a thu hwnt gan gynnig rhaglen swmpus o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau creadigol cyfranogol mewn mannau rhithwir a go iawn.

© Dimitra Kountiou

Rhwng 1 a 31 Mai 2013, fe gyflwynodd Diffusion:

© Claire Kern

Continue reading

Ffotoview

Posted on April 28, 2018

Yn 2019, rydym yn ail lansio Ffotoview, sef calendr misol ar-lein sy’n dangos gwaith diweddar gan artistiaid llwyddiannus a gomisiynwyd sy’n gwneud gwaith ar hyn o bryd i’r prosiect ‘The Place I Call Home’. Mae hwn yn rhan o fenter sydd ar waith drwy’r Gwlff cyfan rhwng Ionawr 2017 a Mawrth 2020 i greu cyfleoedd newydd i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a pharch drwy rannu a gwerthfawrogi diwylliant, hanes a threftadaeth y Gwlff a’r Deyrnas Unedig. Mae’r artistiaid i gyd naill ai’n wladolion o Gyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC) sy’n gweithio neu’n byw ym Mhrydain, neu’n wladolion Prydeinig sy’n byw neu’n gweithio yn nhaleithiau GCC: Kuwait, Oman, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Bahrian, Quatar a Saudi Arabia.

Yr artist dan sylw fis yma yw Mohammed Al-Kouh.

Continue reading

Project Animeiddio Ysgol Rhydypennau

Posted on April 28, 2018

Dros nifer o fisoedd, bu plant o Ysgol Gynradd Rhydypennau yn gweithio gyda CAST a Ffotogallery i greu darn o animeiddio ar gyfer eu cân ysgol.

Ar ôl cael yr holl ysgol i gyfranogi mewn nifer o weithdai a redwyd gan CAST, gweithiodd detholiad o blant o bob grŵp blwyddyn gyda’r animeiddiwr Matthew Wright ac Addysg Ffotogallery i ddatblygu deunyddiau ar gyfer y themau a’r motiffau gweledol a geir yng nghân yr ysgol.

Gan ddefnyddio cyfuniad o dynnu ffotograffau llonydd, lluniadu, sganio gwrthrychau a thrin delweddau digidol, cynhyrchodd y disgyblion weithiau celf a oedd yn cyfleu ethos Masnach Deg ac ysbryd cydweithredol yr ysgol.

Enillodd y project Wobr Aur Artsmark i Ysgol Gynradd Rhydypennau.

Continue reading

Groundwork Trust Caerffili

Posted on April 28, 2018

Gan weithio gyda Groundwork Trust Caerffili, rhedodd Addysg Ffotogallery weithdy deuddydd yn Nhŷ Angel, man cyfarfod poblogaidd ar gyfer pobl ifanc ym Mhengam.

Cyflwynwyd y grwp o oedrannau amrywiol i ffotograffiaeth a llythrennedd weledol mewn sesiwn ryngweithiol ynglyn â gwaith y ffotograffwyr tirlun Ansel Adams a Faye Godwin cyn archwilio byd ffotograffiaeth natur macro gan ddefnyddio adnoddau ar-lein ffotograffiaeth National Geographic.

Mewn nifer o gwisiau a helfeydd trysor ffotograffig, archwiliodd y bobl ifanc Barc Coedtir, afon Rhymni a glaswelltir Aberbargoed gerllaw. Yn ôl yn Nhŷ Angel, dysgodd y grŵp sut i olygu a gloywi eu ffotograffau gan ddefnyddio iPhoto and Photoshop.

Fframiwyd y printau a gynhyrchwyd gan Ffotogallery a’u harddangos ym Mhengam rai wythnosau’n ddiweddarach. Arddangosir y gwaith ar-lein hefyd trwy gyfrwng ffrwd FlickrGroundworkCaerffili.

Continue reading

Post-It Cymru

Posted on April 28, 2018

Gwahoddwyd plant o bob rhan o Gymru i wneud ffoto-gardiau post yn dangos tirwedd eu bro, a’u postio i Dŷ Turner lle cawsant eu crogi ochr yn ochr ag arddangosfa James Morris, A Landscape Of Wales. Cymerodd llawer o blant ran yn ein gweithdy hanner tymor, lle roedd y Tîm Addysg wrth law i helpu cyfranogwyr i gynhyrchu, argraffu a chrogi eu cardiau post ar y mur.

Er mwyn gweld yr holl gynnyrch, ymwelwch â ffrwd Flickr Ffotogallery.

Continue reading

Nunlle ond Fan Yma

Posted on April 28, 2018

Ym mis Chwefror 2011, cynhaliodd Ffotogallery ddathliad diwrnod o hyd o sain, cerdd a chân mewn ymateb i arddangosfa A Landscape Of Wales James Morris.

Yn y dydd, roedd Tŷ Turner yn ganolbwynt i weithdai sain ymarferol ar gyfer teuluoedd, a arweinid gan artistiaid, gyda noson o berfformiadau cerddorol i ddilyn.

SŵN Helpodd yr artistiaid Murray Ward a Casey Raymond y plant iau i archwilio byd sain trydanol, gyda meicroffonau, gitars a hynodion electronig wrth law i greu sŵn mawr o gyrff bychain.

SAIN Helpodd y cyfansoddwr a’r cerddor Matthew Lovett a myfyrwyr o adran Sain a Cherdd Greadigol PCC blant i recordio a golygu seiniau cael.

CÂN Bu’r cyfansoddwyr caneuon Sweet Baboo a H. Hawkline yn tywys criw o blant a rhieni yn swnllyd trwy’r broses o sgrifennu eu caneuon eu hunain, gan eu hannog i greu geiriau newydd a chanu nerth esgyrn eu pen!

Y perfformwyr gyda’r nos oedd Sweet Baboo, H. Hawkline, Failed Nasa Experiment, Trwbador a Jemma Roper.

Continue reading

Lliwiwch fy Meddyliau

Posted on April 28, 2018

Project gwe cyfranogol ‘Masg Darn o Feddwl’

Cliciwch yma i argraffu a thorri allan fasg meddwl du-a-gwyn Karen Ingham, a’i liwio a’i addasu, gan drawsnewid ei meddyliau hi i’ch meddyliau chi. Fe’ch gwahoddir i dynnu llun ohonoch chi’ch hun yn gwisgo’r masg, a’i ddanfon at [email protected] i’w ychwanegu at oriel luniau’r cyfranogwyr.

Continue reading

Profiad Diffusion

Posted on April 28, 2018

Datblygodd Adran Addysg Ffotogallery gynllun Profiad Diffusion i fod yn elfen ar-lein ganolog o Diffusion, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd. Mae’r cynllun yn cynnig profiad rhithwir cyffrous o’r ŵyl: yr arddangosfeydd, y digwyddiadau a’r dadleuon ynghyd â’r bobl, y lleoliadau a sesiynau ledled y ddinas ar blatfform ar-lein sy’n cynnwys cyfoeth o ddeunydd ffilm, ffotograffiaeth, darluniau, testun a chynnwys o gyfryngau cymdeithasol – eich trydar, eich lluniau, eich profiadau. Drwy gydol yr ŵyl, fe weithiom ni gyda thîm dogfennu gwirfoddol i gofnodi’r ŵyl gyntaf – mis llawn dop a gwledd weledol – a chreu yn y broses archif unigryw i’r ŵyl a’i chynulleidfa.

© Kirill Smolyakov

“Dw i’n teimlo fel taswn i wedi bod yn Diffusion fy hun o ganlyniad i we-fan ryngweithiol drawiadol yr ŵyl. Adnodd anhygoel, hawdd-i’w-ddefnyddio ac mor dechnolegol flaengar ag y gallech chi ddychmygu!”

Patricia Lay-Dorsey, Artist, Detroit, UDA

Continue reading

Penarth Heights

Posted on April 28, 2018

This current project is co-ordinated by Ffotogallery in partnership with Crest Nicholson and the Vale of Glamorgan Council.

Pupils from six schools in Penarth have been invited to tell the story of the Penarth Heights site, from the idealism of the 1970s social housing project the ‘Billy Banks’ to the decline and regeneration of the area.

This exciting project links art, history, creative writing and digital story-telling. Visit the website penarthheightsproject.co.uk.

Continue reading

Bocsgolau

Posted on April 28, 2018

Mae Bocsgolau yn adnodd ar-lein o bwys i Athrawon Celfyddyd a Dylunio a phobl ifainc yng Nghymru. Mae’n ganlyniad tair blynedd o waith ymchwil ac ymgynghori ag ysgolion ac athrawon celf ledled Cymru a chydweithrediad â’r bwrdd arholi a GCaD. Yn weledol gyffrous ac yn llawn cyfleoedd addysgol, mae’n hyrwyddo defnydd creadigol o dechnolegau digidol, ffotograffiaeth a delweddau symudol yng nghyd-destun y cwricwlwm.

Mae’r adnodd yn darparu cyngor, hyfforddiant ac ysbrydoliaeth i athrawon a disgyblion mewn tri chategori:

Dysgu – taith dywysedig trwy gyfoeth o gelfyddyd weledol a gwaith dylunio ar-lein – artistiaid, orielau ac adnoddau o Gymru a phedwar ban byd

Asesu – cymorth wrth asesu celfyddyd arloesol a gwaith dylunio gan fyfyrwyr TGAU a Lefel A

Cynnydd – mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau rhwng byd addysg a gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer athrawon a ffilmiau byrion yn cyflwyno artistiaid a dylunwyr Cymreig sy’n rhoi cyngor gyrfaol.

Continue reading

Presenoldeb Cudd

Posted on April 28, 2018

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cas-gwent, Prifysgol Gorllewin Lloegr a’r artist Eva Sajovic oedd prosiect ‘Presenoldeb Cudd’. Gwahoddwyd disgyblion ysgol ac aelodau grwpiau cymunedol o Sir Fynwy, Caerdydd a Glyn Nedd i greu gweithiau celf wedi’u hysbrydoli gan hanes Nathaniel Wells ar gyfer arddangosfa a phlatfform arlein rhyngweithiol.

Roedd Nathaniel Wells yn fab i berchennog caethweision a chaethferch. Trwy gyfres o ddigwyddiadau anhygoel yn y 19eg ganrif, fe deithiodd o blanhigfeydd siwgr India’r Gorllewin i Brydain lle gwnaeth ffortiwn sylweddol ac ennill statws a bri cymdeithasol. Ysbrydolwyd ‘Presenoldeb Cudd’ gan ystyriaethau moesol cymleth hanes bywyd Nathaniel Wells. Mae’r prosiect yn cynnig her greadigol i’r syniad bod caethwasanaeth ac ymelwa ar lafur pobl ledled y byd yn rhywbeth sy’n perthyn i orffenol pell yn hytrach na phroblem sy’n dal i effeithio bywydau bob dydd yma yng Nghymru.

Cafodd y prosiect ei greu ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc fregus o Dde Ddwyrain Cymru. Defnyddiwyd ffotograffiaeth ac adnoddau digidol fel cyfryngau i archwilio dealltwriaeth y disgyblion o sut cafodd hanes a chaethwasiaeth ddylanwad ar y byd sydd o’u cwmpas, a sut siapiodd hynny ein cymdeithas gyfoes ni heddiw.

Continue reading

Artistiaid fel Dysgwyr

Posted on April 28, 2018

Project ar y cyd ag engage Cymru a Chanolfan Fairbridge Ymddiriedolaeth y Tywysog. Gweithiodd Ffotogallery gyda dau artist sy’n dod i’r amlwg i ddatblygu eu gwaith ymgysylltu cymdeithasol, trwy eu gosod dan adain mentor o artist profiadol. Buont yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc o Ymddiriedolaeth y Tywysog dros gyfnod o dridiau ym mis Gorffennaf, a arweiniodd at arddangosfa ac agoriad yn Nhŷ Turner. Ceir rhagor o wybodaeth ar flog y project.

Continue reading

Bedazzled – Cymro yn Efrog Newydd

Posted on April 28, 2018

Project ar-lein sy’n gydymaith i sioe Ffotogallery, Bedazzled – A Welshman in New York, a gomisiynwyd yn arbennig gan Ŵyl 100 Dylan Thomas a Chaerdydd Gyfoes. Mae Bedazzled yn dathlu’r berthynas arbennig a oedd gan Dylan Thomas â’r Unol Daleithau, yn enwedig Efrog Newydd, a dylanwad parhaus ei fywyd a’i waith ar y ddwy ochr i Fôr Iwerydd. Mewn cyfres o berfformiadau byw yng Nghei Newydd a Chaerdydd yn ystod hydref 2014, cafodd aelodau’r gynulleidfa eu trawsgludo yn ôl i fyd bohemaidd Efrog Newydd yn y 1950au. Mae’r project gwe ar yr un pryd yn ailddychmygu hoff far Dylan, y White Horse Tavern, gan roi cipolwg i mewn i fywyd y bardd yn Efrog Newydd, ac archwilio’i gymeriad amlochrog. Mae’r wefan yn cynnwys cyfweliadau fideo a gomisiynwyd yn arbennig gyda chyfoedion y bardd yn Efrog Newydd yn ogystal ag archif gynhwysfawr o recordiadau sain Dylan.

Gwahoddwyd ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan mewn project celf a gyllidwyd â chymorth torfol, “Dylan Thomas y Bobl”. Troswyd gweithiau celf disgyblion yn bortread digidol i ddathlu canfed penblwydd Dylan Thomas.

http://bedazzledinnewyork.org/

Continue reading

Archif Deuluol Tom Wood

Posted on April 28, 2018

Fel rhan o arddangosfa Tom Wood – Landscapes, gwahoddodd y tîm addysg aelodau o’r cyhoedd i rannu eu harchif ffotograffig deuluol. Cafodd ffotograffau pobl eu sganio a’u hargraffu, ac aethant yn rhan o drafodaeth ehangach ynghylch rheolau a chodio cymdeithasol yr albwm teuluol. Yn ychwanegol, cynhaliwyd tri gweithdy ar bwnc creu llyfrau ffotograffau ar-lein, gan weithio gyda’r artistiaid Faye Chamberlin a Jo Sutton

Continue reading

Gweithdai Ffotograffiaeth y Pasg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Posted on April 28, 2018

Yn rhan o’r arddangosfa Ffotograffiaeth Hanesyddol yn yr Amgueddfa, datblygodd tîm Addysg Ffotogallery a’r ffotograffydd Michal Iwanowski ystod o weithgareddau i archwilio technegau a thueddiadau ffotograffiaeth Fictoraidd.

Ymunodd teuluoedd â ni i beintio mewn goleuni, cael portread grŵp wedi ei dynnu mewn stiwdio bortreadau dros-dro, a dysgu technegau lliwio â llaw.


Continue reading

Momentwm

Posted on April 28, 2018


Mewn cydweithrediad ag engage Cymru a’r artist Heloise Godfrey Talbot, bu Ffotogallery yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc yn Bespoke Education. Mae Bespoke Education yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn addysg brif-ffrwd, mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gyda chymhareb staff i ddisgyblion uchel.

Bu’r grŵp yn gweithio gyda Godfrey Tablot am gyfnod o ddeg wythnos i gynhyrchu arddangosfa gyhoeddus a darn sain, y gellir ei glywed isod. Gweithiodd y bobl ifanc tuag at Wobr Gelfyddydau hefyd, cymhwyster yn y celfyddydau a gydabyddir ledled y DU.

Roedd y project yn rhan o gynllun Momentwm, a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ar y cyd ag engage Cymru.

Continue reading

Gweld, Creu

Posted on April 28, 2018

Dros dri sesiwn, gofynwyd i ddisgyblion ysgol yn Abertawe i greu ffilmiau 3 munud gan ddefnyddio iPads. Meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd y ddelwedd symudol i bob math o ddarlledu, o’r sinema i You Tube, oedd nod creadigol y prosiect. Trwy gyfuno gwahanol elfennau’r cyfrwng - cynllunio sain, delwedd a thestun – fe greodd y disgyblion ffilmiau byrion sy’n adrodd eu straeon personol eu hunain.

Wrth gyfeirio at elfennau o sinema gynnar yr 20fed ganrif, ffilmiau arswyd cynnar, swrealiaeth, animeiddio cyfoes, comics a diwylliant gemau, mae’r disgyblion (myfyrwyr ffilm a chyfryngau’r dyfodol) yn meithrin sgiliau sy’n angenrheidiol i ymuno â’r don newydd o gynhyrchwyr cyfryngau traws-blatfform sy’n creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a darlledwyr.


Continue reading

A Mini Revolution!

Posted on April 28, 2018

Mae plant Ysgol Gynradd Radnor Road yn gwneud eu meddyliau yn glir ynglŷn â gwleidyddiaeth heddiw, yn eu cerdd ac animeiddiad gwych.

Creuwyd y ffilm gan Ffotogallery wrth weithio gydag Ysgol Gynradd Radnor, mewn partneriaeth gyda A2 Connect: Rhwydwaith Celf ac Addysg De Canolog fel rhan o brosiect Tidy! 2017.


A Mini Revolution! from Ffotogallery on Vimeo.


Am fwy o wybodaeth am y prosiect ac A2 Connect, ewch i A2connect.org

Continue reading

Tidy!

Posted on April 28, 2018

Prosiect sy’n defnyddio amrywiaeth o gelfyddydau i annog disgyblion (CA1 a CA2) i archwilio cwestiynnau am yr amgylchedd, byw’n gynaliadwy a’n bywydau bob dydd.

Sut gallwn ni greu iard daclus, ysgol daclus, tref daclus a phlaned daclus?Defnyddiwyd cwestiynnau i sbarduno’r plant i greu barddoniaeth, cerddoriaeth a chelf weledol.

Bu disgyblion Blwyddyn 1 (5 oed) yn defnyddio ffotograffiaeth syml, animeiddiadau a chelf fwytadwy i ddarlunio’u cerdd am gyfeillgarwch, cymuned a bwyta’n iach.

Cynhyrchwyd y ffilm ar y cyd gan Ffotogallery ac Ysgol Gynradd Maesyfed mewn partneriaeth gyda A2 Connect: Arts And Education Network Central South fel rhan o brosiect Tidy! 2017.

Continue reading

Menywod, Rhyfel a Heddwch

Posted on April 28, 2018

Pobl Ifanc yn Lleisio o blaid Heddwch

Gweithiau gan Lee Karen Stow ar gyfer arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch’ a’r digwyddiadau’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ysbrydoliaeth y prosiect yma. Gwahoddwyd disgyblion chwech o ysgolion uwchradd i archwilio sut y gwnaeth pobl yng Nghymru ymateb i ryfel ac ymgyrchu dros heddwch yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Cynhyrchodd y disgyblion ffilmiau byrion a straeon digidol ar ystod o bynciau – o’r hanesyddol (gweithio dros y rhyfel, gwrthwynebiad cydwybodol) i’r cyfoes (hawliau menywod, argyfyngau ffoaduriaid). Bu’r disgyblion yn gweithio’n agos gyda Michal Iwanowski, tiwtor Ffotogallery, a Jane Harris, Cydlynydd Dysgu Cymru Dros Heddwch i feithrin a datblygu eu sgiliau ymchwil, creu delweddau a golygu.

Cafodd amrywiaeth gyffrous o 23 o ffilmiau eu cynhyrchu - yn adlewyrchu creadigrwydd y disgyblion a gogwydd arloesol ar y gwahanol bynciau a ddewiswyd ganddynt.

Bydd y ffilmiau’n cael eu cadw fel rhan barhaol o ‘fap heddwch’ Cymru Dros Heddwch a’u defnyddio yn y gynhadledd i ysgolion a gynhelir ym mis Medi dan adain Cymru Dros Heddwch a’r Cynulliad.

Canllaw cynhwysfawr ar sut i gynhyrchu eich prosiect dogfennol eich hunan

Bydd y ffotograffydd Lee Stow, ar y cyd â Ffotogallery a phrosiect Cymru Dros Heddwch, yn trafod ei phrofiadau’n gweithio ar ‘Poppies: Women, War, and Peace’, a chynnig cyngor i ffotograffwyr ifanc sydd am ddatblygu prosiectau dogfennol cryf ac effeithiol.

Mae dealltwriaeth ac awgrymiadau craff Lee yn rhoi cyd-destun proffesiynol i’n canllaw cam wrth gam a’n fideo ni.

“Poppies” A comprehensive guide to producing your own documentary project. from Diffusion Festival on Vimeo.


Continue reading

Llyfrau braslunio

Posted on April 28, 2018

Cymrwch gip ar lyfrau braslunio Mike er mwyn cael golwg ar esblygiad ei syniadau o’r darluniau cychwynnol a’r gwaith ymchwil i’r gwaith celfyddydol gorffenedig.

Mike Perry - Sketchbooks from Ffotogallery on Vimeo.

Continue reading

Moor / Plastic

Posted on April 28, 2018

Arweiniad a darn sain. Bydd Mike Perry yn sôn am ei waith, am dirwedd Cymru ac am bynciau cymhleth cysylltiedig, yn erbyn cefndir o seiniau wedi’u casglu a’u perfformio yn y lleoliad gan y cyfansoddwr Matthew Lovett.

Continue reading

Diffusion 2015: Looking for America

Posted on April 27, 2018

Y thema a ddewiswyd ar gyfer Diffusion 2015 yw Chwilio am America, sef ymchwiliad traws-ddisgyblaethol i statws ac ystyr presennol y ‘Freuddwyd Americanaidd’ mewn perthynas â phrofiadau yng Nghymru, America gyfoes, a gweddill y byd.

Yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a thu hwnt, mae’r ŵyl yn rhaglen mis o hyd o arddangosfeydd, ymyriadau, dangosiadau ffilm, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a mannau go iawn a rhithwir. Bydd yr ŵyl yn defnyddio cyfryngau traddodiadol a newydd i greu presenoldeb gweledol cryf ar draws lleoliadau presennol a mannau o’r newydd.

Continue reading

Diffusion 2017: Revolution

Posted on April 27, 2018

Mae Diffusion 2017 yn ystyried ‘chwyldro’ yn ei gyd-destun ehangaf, gan ymchwilio i adegau o newid cymdeithasol a mudiadau’n ymwneud â rhyddid mynegiant, cyrchu iwtopia, hawliau dynol a hunaniaeth. Trwy brism ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens, archwilir newidiadau dramatig a phell-gyrhaeddol y can mlynedd diwethaf i’n ffordd o fyw – rhai technolegol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae Cyfarwyddwr Diffusion a Ffotogallery, David Drake, yn egluro pam y dewisodd y thema:

“Mewn cyfnod o newid aruthrol, ofn ac ansicrwydd ledled y byd, teimlwn ei bod hi’n bwysig i Diffusion 2017 edrych ar adegau o newid diwylliannol a chymdeithasol yn fwy eang, archwilio syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau, yn enwedig rhai sy’n her i’r drefn sefydliedig. Dangos sut y gall mentro ac arbrofi, cydweithio a gweithredu torfol, a siarad dros yr hyn mae dyn yn credu ynddo achosi trawsnewid adeiladol, a bod yn rym er gwell yn hytrach nag er gwaeth.”

Continue reading

Dydd Mawrth Te a Theisen

Posted on April 27, 2018

Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis yn ein horiel hyfryd i fwynhau sgwrs gyfeillgar dros ddiod boeth a chacen. Byddwn yn agored rhwng 11am a 1pm gyda staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a ddangoswn.

Byddwn wrth ein boddau’n eich gweld chi yno i sgwrsio dros goffi a chacen.

Croeso i bawb.

Am ddim i bawb.

Continue reading

1968: The Fire of Ideas & Taking Liberties

Posted on April 25, 2018

John ‘Hoppy’ Hopkins | Taking Liberties

Rhwng 1960 a 1966 darluniodd John ‘Hoppy’ Hopkins y bwrlwm o anfodlonrwydd a’r gwrth-ddiwylliant a oedd yn dod i’r amlwg ym Mhrydain, a fynegwyd trwy weithredu, barddoniaeth a chelf. Mae’r arddangosfa hon ar gyfer Diffusion yn dwyn ynghyd ddetholiad o ddelweddau nad gwelwyd erioed o’r blaen o archif y ffotograffydd, ynghyd â rhai eraill a gynhwyswyd yn y nifer fechan oawn o arddangosfeydd cyhoeddus o’i waith a fu hyd yma. Darlunir y gynhadledd farddoniaeth hanesyddol yn yr Albert Hall ym 1965, ymweliadau cyntaf Malcolm X a Martin Luther King â Llundain, gorymdeithiau Pwyllgor y 100 ac CND, a gwrthdystiadau cynnar yn erbyn hiliaeth ac o blaid hawliau sifil sy’n dangos pŵer protestio cyhoeddus.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys deunyddiau yn ymwneud â’i ran mewn gwahanol amlygiadau gwrth-ddiwylliannol, fel yr International Times, a’i ‘lythyron carchar’ o 1967 pan gafodd ei garcharu ar gam am fod â chanabis yn ei feddiant. Roedd llawer yn amau mai’r gwir reswm oedd ei safbwynt gwrth-sefydliad dylanwadol, a oedd yn ennill tir yn y projectau roedd yn rhan ohonynt.

 

Marcelo Brodsky | 1968 – the fire of ideas

Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o’r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi’n ofalus er mwyn dadadeiladu’r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o’r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.

Continue reading

A Million Mutinies Later

Posted on April 25, 2018

Fel rhan o Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd 2017, mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno’r arddangosfa A Million Mutinies Later – India at 70, ar y cyd â Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi ar gyfer Blwyddyn Diwylliant y DU-India 2017

Bu’r dyfodol yn ansicr, i ryw raddau, erioed, ond efallai erioed mor ansicr ag yn awr. Er i ni ddod i gydnabod hyn drwy rannu ymdeimlad o natur anrhagweladwy pethau, o newid parhaus ynghyd ag ofn, mae’r anghysur torfol hwn yn deillio nid yn unig o gyflwr presennol y byd, ond o’r ffaith bod yr amodau hyn yn ymddangos yn annealladwy. Mae Wikileaks, gwrthdystio, dymchwel llywodraethau a gwrthryfela yn realaeth gyson yn ein bywydau, ble bynnag y byddom yn byw. Ac eto, does dim yn glir wrth i ni geisio amgyffred y digwyddiadau hyn sydd wedi newid hanfod gwead ein cymdeithas fyd-eang.

Fel cenedl fodern sy’n chware rhan bwysig yn yr economi fyd-eang, gwelwyd India ar y trothwy ers deng mlynedd ar hugain – gyda rhyddfrydoli’n ildio i lifeiriant cyson o ddiwygiadau a chwyldroadau, a ysgogwyd gan y newidiadau anferth a ddeilliodd o ddyfodiad technoleg gwybodaeth, trefoli, ac adfywiad ymdeimlad o genedlaetholdeb. Mae A Million Mutinies Later – India at 70, sy’n cynnwys gwaith 14 artist Indiaidd cyfoes mewn amryw o gyfryngau, yn ymchwiliad nid yn unig i’r India go iawn ond i’r un arall lawn mor bresennol a phwysig, h.y. India’r dychymyg, sydd wedi esblygu a thrawsnewid ei hun yn sylweddol yn y parth cyhoeddus ac ym meddyliau Indiaid dros y blynyddoedd.

Mae arddangosfa A Million Mutinies Later – India at 70 yn rhan o Dreamtigers, project newydd mawr Ffotogallery lle mae artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o India a Chymru’n cydweithio i greu a chyflwyno gwaith newydd sy’n adlewyrchu sut mae creadigrwydd, technoleg, ac ymdeimlad o’r newydd o hunaniaeth genedlaethol yn ffurfio bywydau cenedlaethau i ddod.

Continue reading

Land/Sea

Posted on April 24, 2018

Mae Tir/Môr  yn arddangosfa newydd o bwys gan yr artist o Gymru, Mike Perry, a gyflwynir gan Ffotogallery ar y cyd â llyfr newydd. Mae gwaith Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchfyd naturiol ac â breuder ecosystemau’r blaned.

 Yn ei gyfres barhaus Wet Deserts, mae Perry yn archwilio effeithiau negyddol tir monoddiwylliant, tyfu gor-ddwys, a’r broses o ‘ail-wylltu’ er mwyn galluogi i fyd natur adfer ei bioamrywiaeth. Mae Perry, sy’n ymateb i ddisgrifiad George Monbiot o’r tirwedd gwledig fel ‘shadowland, a dim, flattened relic of what there once was’, yn credu bod angen herio ‘dogma busnesau amaethyddol mawrion’, a pholisi amaethyddol anghynaladwy drwy feddwl o’r newydd am yr hyn sydd yn llesol i’r ysbryd dynol, i fioamrywiaeth ac i’r blaned.

 Ar y cyd â gweithiau o Wet Deserts, mae Tir/Môr yn cynnwys gweithiau o’r gyfres Môr Plastig, lle aeth Perry ati i gasglu ac i dynnu lluniau fforensig o fanwl o wrthrychau plastig fel poteli, esgidiau a phecynnau a olchwyd i’r lan ar draethau gorllewin Cymru. Mae’n ein gwahodd i ystyried effeithiau amgylcheddol prynwriaeth a grym erydol natur.

 Yn Biennale Fenis 2015, yn rhan o arddangosfa pafiliwn Azerbaijan, Vita Vitale, gosododd Perry gabinet yn llawn o plastigarneddau – cerrig, hynny yw, yn cynnwys plastig wedi toddi, ynghyd â thywod, cregyn a gwaddod eraill y cafodd hyd iddynt ar y traeth. Roedd y gwrthrychau fel petaent wedi integreiddio’n berffaith â’n hecosystemau morol, ac roeddent yn wahoddiad i ystyried materoldeb newydd ein hamgylchfyd a’i alluoedd technolegol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r artist wedi casglu ynghyd ddetholiad helaeth o’r gwrthrychau hybrid synthetig / naturiol hyn ac wedi tynnu lluniau unigol ohonynt. Yn aml, caiff y delweddau hyn eu casglu ynghyd ar ffurf gridiau ffurfiol.

 Wedi’i ysbrydoli gan finimaliaeth y 1960au / 70au, mae ffotograffiaeth Perry yn osgoi rhethreg ymgyrchol ffotograffiaeth ddogfennol amgylcheddol draddodiadol. Yn hytrach, mae’n cyfeirio’n farddonol at yr hyn yr ydym yn ei adael i genedlaethau’r dyfodol, gan ychwanegu naratif cyfoes at yr haniaethau minimalaidd. Yn ôl yr artist:

“Fy mwriad yw tynnu sylw at y gwrthrychau hyn mewn cyflwr ffurfiol bur; eu gwacau am ennyd o unrhyw ystyr y tu hwnt i’w presenoldeb cerfluniol. Dw i’n cyflwyno’r gwrthrychau fel gridiau neu mewn dilyniant llinellol er mwyn pwysleisio’r dewis anhygoel sydd gennym fel prynwyr ac er mwyn creu fframwaith esthetig lle gall lliwiau a ffurfiau weithio gyda’i gilydd.”

Mae Tir/Môr yn un o Arddangosfeydd Teithiol Ffotogallery, ac fe’i curadwyd gan David Drake a Ben Borthwick.

Continue reading

The Queen, The Chairman and I

Posted on April 24, 2018

Arddangosfa deithiol gan Oriel Impressions wedi’i churadu gan Anne McNeill.

Mae The Queen, the Chairman and I yn nodi ugain mlynedd ers i Hong Kong ddychwelyd i sofraniaeth Tsieina, o reolaeth Prydain, ac yn gipolwg diddorol ar hanes cyfun Tsieina a’r DG, a ddarlunnir trwy gyfrwng hanes teuluol y ffotograffydd Kurt Tong.

Wedi’i disgrifio gan Tong fel rhyw fath o raglen ‘hel achau’ ffotograffig, cafodd arddangosfa The Queen, the Chairman and I ei chreu dros gyfnod o bedair blynedd ar hyd tri chyfandir. Mewn saga aml-haenog am gariad, gobaith a thrasiedi, mae Tong yn datgelu cyfrinachau teuluol ac yn datgelu hefyd effeithiau grymoedd gwleidyddol ac economaidd ar bobl unigol. Mae’r arddangosfa yn tynnu ar gysylltiadau Tseineaidd, Hong Kong-aidd a Phrydeinig Tong ac yn cyfuno lluniau newydd ar raddfa fawr, ffotograffau teuluol a deunydd ffilm lliw prin o’r 1940au. Yn ganolog i’r arddangosfa hon mae ystafell de Tseineaidd gyfoes lle caiff ymwelwyr eu gwahodd i yfed te, i ddarllen llyfr Tong, ac i rannu eu straeon teuluol eu hunain.

Roedd tad cu Tong ar ochr ei dad yn weithiwr dec a gyrhaeddodd Hong Kong o Shanghai ar ôl cwymp llinach ymerodrol olaf Tseinia yn 1911, pan ddenwyd pobl gan yr addewid o well swyddi yn y drefedigaeth Brydeinig, a oedd yn gymharol sefydlog ar y pryd. Roedd teulu ei fam yn landlordiaid yn Ne Tsieina, ac mae Tong yn credu iddynt ‘adael am Hong Kong er mwyn osgoi cael eu lladd wrth i fyddinoedd Comiwnyddol Mao wneud eu ffordd drwy’r wlad.’ Magwyd Tong yn Hong Kong, ac fe ganodd anthem genedlaethol Prydain drwy gydol ei flynyddoedd yn yr ysgol. Daeth i’r DG i barhau â’i addysg a dychwelyd i Hong Kong yn 2012.

Dywedodd Tong, ‘Dw i’n olrhain hanes fy nheulu er mwyn ceisio barnu’r effaith a gafodd dau unigolyn hynod ddylanwadol, y Frenhines Victoria a’r Cadeirydd Mao, ar fy nheulu. Rhoddir ystyriaeth gyfartal i luniau newydd, lluniau hapgael a gwaith ysgrifenedig ac mae’r prosiect hwn yn fodd i mi ailgysylltu â Hong Kong y gorffennol, drwy gyfrwng atgofion fy nheulu estynedig, yn wyneb y cynnwrf gwleidyddol a chymdeithasol a arweiniodd fy nheulu i Hong Kong ac yn y pen draw i’r Deyrnas Gyfunol.’

Continue reading

Kanu's Gandhi

Posted on April 24, 2018

I lansio cywaith newydd cyffrous rhwng India a Chymru, sy’n dathlu 70 mlwyddiant Annibyniaeth India a chreu’r India Fodern, pleser o’r mwyaf i Ffotogallery yw cyflwyno’r dangosiad cyntaf yn y DU o Kanu’s Gandhi, arddangosfa newydd o luniau prin a phersonol o Mahatma Gandhi gan ei or-nai a’i groniclydd personol, Kanu Gandhi.

Daeth Kanu Gandhi i fyw gyda Mahatma Gahdhi yn Ashram Sevagram a mynd yn ddilynydd oes iddo. Caniataodd Gandhi i Kanu dynnu ffotograffau ohono ar yr amod na fyddai’n defyddio fflach ac na ofynnid iddi byth i ystumio ar gyfer y camera. Er i rai o ddelweddau Kanu Gandhi gael eu hatgynhyrchu mewn llyfrau ar Mahatma Gahdhi, ni chafodd ei waith nemor ddim cydnabyddiaeth, ac mae yn awr yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y DU fel un corff o waith a gydnabyddir am ei bwysigrwydd hanesyddol ac artistig. O archif a fu’n anghof ers hydoedd, yn ffrwyth ymchwil fanwl, wedi ei adfer yn gelfydd a’i guradu’n gain gan Prashant Panjiar a Sanjeev Saith, mae Kanu’s Gandhi yn datgelu ffotograffau prin a phersonol o’r Mahatma yn ystod deng mlynedd olaf ei oes.

Fel yr esbonia David Drake, Cyfarwyddydd Ffotogallery:

Mae dylanwad Mahatma Gandhi ar bobl gyffredin ac arweinwyr y byd fel ei gilydd yn anferth, ac mae ei ymrwymiad i newid y byd trwy ddulliau di-drais yn atgof amserol i ni bod gobaith bob amser am fywyd gwell, hyd yn oed yn y dyddiau duaf. Braint i Ffotogallery yw cael cyflwyno’r arddangosfa ryfeddol hon ar 70 mlwyddiant Annibyniaeth India, a chydnabod perthynas arbennig Cymru ac India. Roeddem wrth ein bodd i glywed y bydd Cyngor Hindŵaidd Cymru’n dadorchuddio cerflun newydd o Mahata Gandhi yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.”

 Mae’r arddangosfa’n rhan o Dreamtigers, project blwyddyn o hyd sy’n dod â Ffotogallery, asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol Cymru, a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi ynghyd. Mae’r project yn defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r ‘India go iawn’ a’r llall sy’n llawn mor bresennol a phwysig – India Ddychmygol a esblygodd yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a thrawsnewid ei hun yn y parth cyhoeddus ac ym meddyliau Indiaid. Mae Dreamtigers yn un o unarddeg project yng Nghymru a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru o dan Flwyddyn Diwylliant y DU-India 2017.

Continue reading

Ffotogallery Presents...

Posted on April 24, 2018

Dathliad o ffotograffiaeth a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr talentog yn 2016 – 2017

Bu Ffotogallery yn dathlu grym ffotograffiaeth ers 40 mlynedd. Trwy gydol 2018 rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed â chyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig. Bydd rhai o’r rheiny’n edrych yn ôl ar 1978 ac ar ddatblygiad y sîn ffotograffig yng Nghymru ers hynny. Bydd eraill yn edrych ymlaen, at y ffyrdd y mae’r broses o greu a rhannu delweddau yn debygol o esblygu yn ystod y pedwar degawd nesaf. Byddwn hefyd yn arddangos gwaith y ffotograffwyr a’r artistiaid gorau, o Gymru ac o bedwar ban byd.  

Mae ein rhaglen o gyrsiau ffotograffiaeth a chyfryngau digidol, a gynigir ar y cyd ag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn cael eu harwain gan artistiaid ac yn cael eu cynnal mewn grwpiau bach ag iddynt awyrgylch anffurfiol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau trwy gyfrwng cyfres o brosiectau ymarferol a sgyrsiau darluniadol sy’n archwilio effaith ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol mewn cyd-destun diwylliannol a hanesyddol arbennig. Rydym yn darparu amrywiaeth o fodiwlau, o Gyflwyniad i Ffotograffiaeth: Dechreuwyr a Myfyrwyr Canolradd, i Ffotograffio Pobl, Iaith Ffotograffiaeth, Dylunio Gwe Creadigol a Fideo Digidol.

Mae Ffotogallery hefyd yn gweithio’n rheolaidd gyda phartneriaid celfyddydol ac addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau bod artistiaid, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn gallu mwynhau ymwneud dwfn ac eang â ffotograffiaeth gyfoes, y ddelwedd symudol ac arferion gwaith y cyfryngau digidol.

Nod Ffotogallery yn 2018 yw creu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau digidol yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru; canolfan wirioneddol gyfoes wedi’i gwreiddio yn y cyd-destun lleol, a fydd yn cynnig cyfleodd creadigol i bobl o bob math ac yn canolbwyntio hefyd ar estyn allan, tua’r cyd-destun byd-eang.

Continue reading

Consumed: Stilled Lives

Posted on April 24, 2018

Bydd arddangosfa o luniau rhyfeddol – a syfrdanol ar adegau – o fywyd llonydd ac o’r berthynas rhwng y prynwr a’r weithred o brynu yn cael eu cyflwyno ym Mhenarth ym mis Ionawr. Mae’r arddangosfa, o’r enw Consumed: Stilled Lives, yn cynnwys gwaith newydd gan yr artist Dawn Woolley o Gaerdydd ac fe fydd i’w gweld rhwng 13 Ionawr a 3 Chwefror 2018 yn oriel Tŷ Turner Ffotogallery. Cynhelir rhagolwg yr arddangosfa am 6pm ar ddydd Gwener 12 Ionawr ac fe fydd y digwyddiad hwnnw’n cynnwys sgwrs rhwng yr artist a David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery.

 Mae Woolley yn artist gweledol sy’n gweithio gyda ffotograffiaeth, fideo, gosodwaith a pherfformio. Mae’r arddangosfa’n cynnig golwg gyfoes ar y cysyniad traddodiadol o beintio bywyd llonydd – traddodiad a oedd yn boblogaidd iawn yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd y darluniau hyn yn aml yn cynnwys platiau arian, llestri gwydr addurnedig a bwydydd drud fel pysgod cregyn a ffrwythau egsotig ac fe ddaethant yn ffordd ffasiynol i bobl yr Iseldiroedd a Fflandrys ddangos eu cyfoeth.

 Fel y dywed yr artist: “Mae yna amwysedd yn y gair Saesneg ‘consume’ sy’n disgrifio’r weithred o fwyta ac o brynu nwyddau. Mae bwrdd y bywyd llonydd yn mynegi’r ddeuoliaeth honno am fod y gwrthrychau sy’n cael eu harddangos yn cael eu bwyta ac yn nodi statws cymdeithasol unigolyn.

 “Dw i’n mynd i’r afael felly â bwrdd y bywyd llonydd fel portread o fath arbennig o ddefnyddiwr. Mae hyn yn fy ngalluogi i weld bwyd mewn bywyd llonydd fel mynegiant o berthynas rhwng unigolyn a chymdeithas brynwrol; symbol o’r effaith y mae prynu ac ‘addoli’ nwyddau yn ei gael ar gorff y defnyddiwr.”

 Nid yw’r delweddau hyn – a chyfres Memorials yn arbennig – i’r gwan galon. Yn ôl Dawn Woolley: “Nid portreadau na bywyd llonydd yw cofebion; yn hytrach, maent yn cynrychioli’r modd y daw’r testun yn nature morte. Mae cnawd pydredig yn cael ei drefnu ochr yn ochr â paraphernalia sy’n gysylltiedig â ac yn arwydd o ddiwedd y parti prynwrol.”

 Mae Consumed: Stills Lives yn rhan o gyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 40 oed.

Continue reading

Route to Roots

Posted on April 23, 2018

Mae Ffotogallery yn falch iawn o allu cyflwyno arddangosfa fywiog newydd o ffotograffau, gwisgoedd a fideos sy’n archwilio arwyddocâd celfyddydau’r carnifal a’u rhan mewn hunaniaethau cymunedol yn y Deyrnas Gyfunol, Affrica a’r Caribî. Cynhelir digwyddiad lansio arbennig am 6pm ar ddydd Iau 19 Hydref yn Ffotogallery yn yr Angel, Stryd y Castell, Caerdydd, ac fe fydd yr arddangosfa i’w gweld wedi hynny am wythnos.

Wedi’i hamseru i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r arddangosfa’n nodi diwedd prosiect Route to Roots, a oedd yn fodd i ddod ag artistiaid a beirniaid at ei gilydd i weithio mewn ffurfiau celfyddydol amrywiol fel cerddoriaeth, y celfyddydau cain, theatr, dawns, crosio, masquerade a charnifal a hynny mewn preswyliad saith diwrnod o hyd a ddaeth i’w uchafbwynt mewn gosodiad perfformiadol cyhoeddus yng Ngharnifal Trebiwt a Gŵyl Hub Caerdydd.

Deilliodd Route to Roots o waith ymchwil o bwys gan yr artist Adeola Dewis, sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio ar y syniad o Garnifal fel perfformiad sydd yn (ail)gyflwyno treftadaeth ddiwylliannol a hanesion sy’n hanu o brofiad y diaspora Affricanaidd ac sydd o bwys hanesyddol, athronyddol ac ysbrydol. Y syniad oedd dangos sut y gellir rhannu’r straeon a’r traddodiadau hyn trwy gyfrwng gwisgoedd, cerddoriaeth a dawns mewn mannau cyhoeddus. Fel y dywed Adeola Dewis:

“Crëwyd y prosiect hwn yn rhan o’m hymateb i’r sylw a roddwyd i drais yn erbyn dynion (a merched) duon a’r lladdiadau a roddodd fod i fudiad Black Lives Matter. Dechreuais trwy ofyn y cwestiwn: pa beth yw hwnnw sydd yn ein cysylltu ni? “Yn y prosiect hwn, roeddwn i am ystyried y ffyrdd sydd gennym ni, aelodau o’r diaspora, o ymwneud â’n gilydd. Sut a ble rydym yn darganfod, yn dathlu ac yn tynnu sylw at y tir cyffredin, y grym, y lleisiau a’r hudoliaeth sydd gennym? Dw i’n defnyddio ‘hud’ i sôn am y cydgyfeirio sy’n digwydd pan ddaw grymoedd ynghyd i weithio, i gynhyrchu ac i sicrhau camau ac amgylchiadau cadarnhaol.”

Bydd cyfrol Route to Roots arbennig, wedi’i chyhoeddi gan Ffotogallery, yn cyd-fynd â’r arddangosfa ac fe fydd ar gael i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol.

Cychwynnwyd prosiect Route to Roots gan Adeola Dewis ar y cyd â Ffotogallery ac fe’i ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Continue reading

Zeitgeist

Posted on April 23, 2018

Yn 2018 mae Ffotogallery yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Fel asiantaeth genedlaethol Cymru ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens yng Nghymru, rydym yn dathlu’r garreg filltir â chyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig.

Yn Nhŷ Turner ym mis Mawrth, bydd Ffotogallery yn cyflwyno Zeitgeist, sy’n cynnwys gwaith gan ddeg artist nodedig o bum cyfandir, gan gynnwys prosiect enillydd Gwobr Portreadau Ffotograffig Taylor Wessing 2017, Passengers gan César Dezfuli. Mae’r corff hwnnw o waith yn cynnwys delweddau trawiadol o fudwyr a achubwyd o gwch rwber ym Môr y Canoldir. Mae Value gan Marta Mak yn archwilio’r modd y gallwn ni greu pethau newydd, fel petai drwy alcemi, o hen ddeunydd pacio plastig a chynhyrchion gwastraff, a thrwy hynny drawsnewid gwastraff yn adnodd cymdeithasol-ddefnyddiol. Gan mlynedd ar ôl Chwyldro 1917, mae Close Close Up Alexander Anufriev yn archwilio cymhlethdod gwleidyddol y Rwsia fodern a’r modd y mae sensoriaeth a phropaganda yn tanio cenedlaetholdeb afiach. Mae Entre-Deux (Interval) gan Medhi Bahmed yn datguddio’r dadrith sy’n wynebu ffoaduriaid Mwslemaidd ac Arabaidd a mewnfudwyr, yng ngoleuni ymosodiadau terfysgol diweddar, y cynnydd mewn troseddau hiliol a phoblogrwydd yr adain dde yn Ewrop.

Mae Zeitgeist yn cyflwyno detholiad o waith a gyflwynwyd ar ôl i Ŵyl Diffusion 2017 alw am gynigion gan artistiaid yn fyd-eang. Mewn gwahanol ffyrdd, mae’r artistiaid hyn yn dal ysbryd ein hoes, yn amlygu’r hyn sy’n digwydd ac yn cynnig mewnwelediad newydd a heriau i’r sefyllfa bresennol. A’n gwahanol ffrydiau yn llawn newyddion am Brexit, Trump, newid hinsoddol, tlodi, anoddefgarwch crefyddol, argyfwng ffoaduriaid ac ymfudo, rheoli ffiniau a boneddigeiddio, maeZeitgeist yn holi pa effeithiau y mae hyn i gyd yn ei gael ar yr unigolyn a chymdeithas.

Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn cynnwys:

Alexander Anufriev, Blazej Marczak, César Dezfuli, Demetris Koilalous, Hiro Tanaka, James A. Hudson, Marta Mak, Mehdi Bahmed, Phil Hatcher-Moore, a Verena Prenner

Continue reading

Chronicle

Posted on April 23, 2018

Ym mis Medi 1978, agorwyd yr oriel gyntaf yng Nghymru a oedd yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth - yn Charles Street, Caerdydd. Ei henw oedd 'Yr Oriel Ffotograffeg'. Newidiwyd yr enw i Ffotogallery yn 1981, ac mae'r sefydliad yn parhau i ffynnu ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Y bwriad yw agor canolfan newydd yng nghanol dinas Caerdydd ym mis pen-blwydd Ffotogallery, mis Medi 2018.

Mae Chronicle yn arddangosfa newydd sy'n tynnu ar ddeunydd archifol a chyfoes er mwyn adrodd hanes datblygiad Ffotogallery dros y 40 mlynedd hynny, yn erbyn cefndir o newidiadau yn natur a rôl ffotograffiaeth yn ein cymdeithas a chynnydd y diwylliant digidol. Bydd yr arddangosfa'n dangos sut yr aeth Ffotogallery ati i roi sylw cynnar i ffotograffwyr ac artistiaid fel Martin Parr, Paul Graham, Helen Sear a Bedwyr Williams - artistiaid a aeth yn eu blaenau i fwynhau llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd yn cofnodi ffocws tymor hir Ffotogallery ar Gymoedd y De trwy gyfrwng cyfres o gomisiynau ac arddangosfeydd sy'n dogfennu gwahanol agweddau ar fywyd yn y Cymoedd yn ystod cyfnod o drawsnewid di-baid. Bydd Chronicle hefyd yn dathlu ymgysylltiad rhyngwladol Ffotogallery - cyhoeddiadau ac arddangosfeydd teithiol, menter European Prospects, Cymru yn Fenis 2015, prosiect India-Cymru Dreamtigers, a thri rhifyn o ŵyl dwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

Ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, mae Ffotogallery wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru trwy gyfrwng ein gwaith yn comisiynu ac yn cyflwyno gwaith newydd ar gyfer arddangosfeydd a gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Rydym hefyd yn cyhoeddi'n helaeth mewn print ac ar-lein, yn cynnig cefnogaeth i artistiaid ffotograffig addawol, ac yn cynnig rhaglen o addysg ac allgymorth arloesol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad creadigol i groestoriad eang o'r gymuned. 

Mae Chronicle yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau nesaf yng ngwaith Ffotogallery; mae cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid cyfryngau'r lens yn dod i'r amlwg yn ystod cyfnod pan dderbyniwn a phan gyflwynwn fwy a mwy o gynnwys creadigol ar blatfformau ffisegol a rhithwir. A chymaint o ddelweddau yn cael eu rhannu ar-lein, a fydd yna alw o hyd am orielau celf ac arddangosfeydd traddodiadol? Os felly, pa waith fydd yn cael ei gyflwyno? Ac ym mha fath o ganolfannau? Pa sgiliau fydd eu hangen ar ffotograffwyr ac artistiaid er mwyn sicrhau gyrfa lwyddiannus? Sut all Cymru fod yn fwy cysylltiedig yn fyd-eang, trwy gyfrwng ffotograffiaeth a'r cyfryngau digidol? Bydd y cwestiynau hyn a mwy yn cael sylw mewn cyfres o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa Chronicle.

Continue reading